Ymunwch â ni am baned a thrafodaethau #AmaethAmByth yn y swyddfa newydd

[caption id="attachment_7358" align="alignleft" width="300"]Staff cangen Sir Drefaldwyn yn edrych ymlaen at eich gweld yn fuan! Staff cangen Sir Drefaldwyn yn edrych ymlaen at eich gweld yn fuan![/caption]

Bydd ffermwyr Sir Drefaldwyn yn falch clywed bod ei swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru lleol bellach wedi ail-leoli ac wedi agor yn swyddogol.

Mae’r swyddfa fodern newydd yn Uned 2, Parc Busnes St Giles sydd ar Ffordd y Trallwng, Drenewydd yn addas i’r anabl ac yn cynnig parcio am ddim hefyd.

O’i swyddfa lleol yn y Drenewydd, mae UAC yn darparu cyngor arbenigol i aelodau ar faterion amaethyddol, ymgynghori ac yn cyfathrebu gyda’r aelodau yn lleol ac ar draws Cymru, cynnig sylwadau ac yn ffurfio polisïau yn ymwneud a materion amaethyddol, gweithio gyda sefydliadau arall er mwyn lles Cymru wledig, wedi sefydlu pwyllgorau sefydlog a chyson i drafod pob mater sydd o bwys i ffermwyr Cymru ac yn cysylltu gyda phawb sy’n dod i benderfyniadau yn y Cynulliad Cenedlaethol, San Steffan a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n haelodaeth yn cynrychioli sbectrwm eang o weithgareddau amaethyddol yng Nghymru gan gynnwys y sector defaid, b?ff, llaeth, moch, ffermio âr, a’r cynhyrchwyr hynny sy’n ymwneud a gweithgareddau arall megis y sector twristiaeth ac ynni adnewyddadwy.

Mae Emyr Wyn Davies, Swyddog Gweithredol UAC Sir Drefaldwyn yn edrych ymlaen at groesawu aelodau presennol a newydd i’r swyddfa newydd: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein haelodau presennol ac aelodau newydd wrth gwrs i’r swyddfa newydd. Mae agor y swyddfa newydd yn bennod newydd i’n sir ni ac edrychwn ymlaen at barhau i gynnig gwasanaethau gwerthfawr i’r gymuned amaethyddol.”

Mae UAC yn sefydliad democrataidd gyda 11 pwyllgor sefydlog gan gynnwys Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid, Llaeth a Chynnyrch Llaeth, Da Byw, Addysg a Hyfforddiant, Arallgyfeirio a Llais yr Ifanc dros Ffermio gyda ffermwyr yn cael eu hethol yn ddemocrataidd fel cynrychiolwyr ar gyfer 12 cangen sirol yr Undeb ar draws Cymru.

‘AmaethAmByth’ yw arwyddair UAC, gan ein bod yn cydnabod bod amaeth o bwys mewn nifer o ffyrdd gwahanol, nid yn unig mae ffermydd yn cynhyrchu bwyd ond nhw hefyd yw asgwrn cefn ein heconomïau gwledig.

“Rydym yn gwybod bod ffermydd teuluol yn enwedig wrth wraidd ein heconomïau gwledig, yn gofalu am ein tirwedd, a’n diwylliant ac maent yn cyfrannu’n helaeth at les Cymru a’r DU. Rwy’n falch o fod yn gysylltiad yma yn Sir Drefaldwyn a gobeithio y bydd nifer fawr ohonoch yn galw am sgwrs a phaned yn y swyddfa newydd,” ychwanegodd Emyr Wyn Davies.

Siaradwch ac Emyr Wyn Davies - Swyddog Gweithredol Sirol, Alison Jones neu Lynne Baker - Cynorthwywyr Gweinyddol am unrhyw fater amaethyddol drwy ffonio’r swyddfa ar 01686 626889.

Mae ein staff yswiriant cyfeillgar yn barod i gynorthwyo gydag unrhyw fater yswiriant. Galwch mewn i siarad â Sophie Rees – Cynorthwy-ydd Gweinyddol, Nia Wyn Evans - Gweithredwr Cyfrif (De Sir Drefaldwyn) neu Kay Williams - Gweithredwr Cyfrif (Gogledd Sir Drefaldwyn).