Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn elwa o gardiau Nadolig UAC

[caption id="attachment_7289" align="alignleft" width="300"]Enillydd y categori Cymraeg oedd Savanna George, 10 oed o Ysgol Henry Richard, Campws Cynradd, Tregaron. Enillydd y categori Cymraeg oedd Savanna George, 10 oed o Ysgol Henry Richard, Campws Cynradd, Tregaron.[/caption]

Mae elusen y Llywydd, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi elwa o gystadleuaeth ysgolion cynradd Cymru i ddylunio carden Nadolig gyda thema amaethyddol a drefnwyd gan yr Undeb.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Roedd y gystadleuaeth yn llwyddiant ysgubol gan ddenu cannoedd o gystadleuwyr ar draws Cymru.  Roedd y safon yn eithriadol o uchel a oedd tipyn o dasg yn wynebu’r beirniaid wrth bigo’r enillwyr.

“Rwyf am ddiolch i bob plentyn a gymerodd rhan yn y gystadleuaeth ac i ddweud ni fyddai’r gystadleuaeth wedi bod cymaint o lwyddiant heb eu gwaith nhw.  Rwy’n ddiolchgar hefyd i staff yr ysgolion fu’n cynorthwyo UAC gyda’r gystadleuaeth yma.

“Cafodd plant y dref a’r wlad gyfle i ymgysylltu gyda’r diwydiant amaethyddol a mynegi beth maent yn ei deimlo mewn ffordd greadigol a lliwgar yn dangos pam bod #AmaethAmByth.  Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni fel ffermwyr yn cadw cysylltiad agos gyda phobl ifanc a bod nhw’n deall sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yn y wlad yma.”

Roedd y gystadleuaeth mewn dau gategori, cynlluniau Cymraeg a Saesneg.  Enillydd y categori Cymraeg oedd Savanna George, 10 oed o Ysgol Henry Richard, Campws Cynradd, Tregaron.  Roedd ei chynllun buddugol yn dangos cyfres o anifeiliaid lliwgar yn gwisgo hetiau Nadolig, ac yn dangos y slogan ‘Amaeth Am Byth’.

Enillydd y categori Saesneg oedd Caleb Vater, 9 oed o St Nicholas House, Christ College, Aberhonddu.  Roedd ei gynllun buddugol yn dangos ffermwr yn gyrru tractor ar draws cae gyda llaeth a thatws, yn ogystal â choeden Nadolig ar y trelar.  Roedd y goeden wedi cael ei haddurno gyda llysiau.

[caption id="attachment_7290" align="alignright" width="300"]The winner of the English category was Caleb Vater, 9, of St Nicholas House, Christ College, Brecon. The winner of the English category was Caleb Vater, 9, of St Nicholas House, Christ College, Brecon.[/caption]

Mae’r ddau yn ennill tocyn rhodd gwerth £30 i’w hunain, pecyn o gardiau yn dangos eu cynllun nhw a siec o £50 i’w hysgol.

Mae’r cardiau hefyd ar gael i'w prynu o swyddfeydd sir UAC ar draws Cymru neu o brif swyddfa'r undeb yn Aberystwyth am £5 am becyn o 10.