UAC Ynys Môn yn cynnal cyfarfod #AmaethAmByth gyda’r AC lleol

[caption id="attachment_7255" align="alignleft" width="300"]Swyddogion UAC yn cynnal cyfarfod llwyddiannus gyda Nathan Gill AC er mwyn trafod #AmaethAmByth Swyddogion UAC yn cynnal cyfarfod llwyddiannus gyda Nathan Gill AC er mwyn trafod #AmaethAmByth[/caption]

Mae cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cynnal cyfarfod llwyddiannus gyda’r AC lleol Nathan Gill, gan drafod materion #AmaethAmByth o bwys yng Nghwesty’r Bull, Llangefni.

Cyllid ar gyfer amaethyddiaeth ar ôl Brexit oedd ar frig yr agenda a bu swyddogion yr Undeb hefyd yn trafod y pwysigrwydd o brynu’n lleol.

Dywedodd Heidi Williams, Swyddog Gweithredol Sirol cangen Ynys Môn: “Hoffwn ddiolch i Nathan Gill am gyfarfod â ni i drafod materion amaethyddol.

“Mi bwysleisiwyd bod angen cynllunio Brexit yn fanwl gywir a bod angen i amaethyddiaeth Gymreig fod ar frig agenda Llywodraeth Cymru.

“Does dim amheuaeth bod ffermwyr Cymru angen yr un lefel o gymorth ar ôl i ni adael y UE ag y maent yn ei dderbyn ar hyn o bryd, yn enwedig os ydym am sicrhau tegwch i bawb.”

Wrth siarad am brynu’n lleol, ychwanegodd Mr Williams: “Cafodd y pwnc o brynu’n lleol ei godi gyda Mr Gill a manteisiwyd ar y cyfle i bwysleisio’r angen i gydnabod bod prynu’n lleol yn fuddsoddiad ym musnesau Cymru ac yn codi ymwybyddiaeth o gynnyrch Cymreig gyda’r cwsmeriaid.

“Petai gyda ni bolisïau prynu’n lleol mewn grym a chytundebau masnach sydd o fudd i ni, byddai modd i ni annog ffurfio cwmnïau a chwmnïau cydweithredol, a fydd wrth gwrs yn cynnig manteision megis cyflogaeth leol ac unioni’r anghydbwysedd sy’n bodoli ar hyd o bryd ar draws y gadwyn gyflenwi.”

Hefyd yn bresennol oedd Gwynedd Evans o Emyr Evans a’i gwmni sef un o gyflenwyr tractorau a pheiriannau mwyaf Gogledd Cymru. Ymunodd y cwmni, sy’n cyflogi 30 o staff, gyda UAC er mwyn lleisio’i barn yngl?n â dyfodol cytundebau masnach gydag Ewrop.