Ffermwr llaeth organig yn derbyn gwobr gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig UAC/HSBC

[caption id="attachment_5802" align="aligncenter" width="1024"]Llywydd UAC Glyn Roberts, enillydd gwobr gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig Laurence Harris o Daioni a Rheolwr Amaethyddol Rhanbarthol HSBC. Llywydd UAC Glyn Roberts, enillydd gwobr gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig Laurence Harris o Daioni a Rheolwr Amaethyddol Rhanbarthol HSBC.[/caption]

Y ffermwr llaeth organig adnabyddus o Ogledd Sir Benfro a sylfaenydd y cwmni rhyngwladol Daioni Laurence Harris dderbyniodd gwobr gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig Undeb Amaethwyr Cymru/HSBC yn ystod digwyddiad cyn y Sioe Laeth yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar.

Mae Laurence wedi bod yn ffermwr llaeth ers dros 40 o flynyddoedd, ac ef sy’n gyfrifol am lwyddiant ysgubol Daioni.

Dechreuodd y brand ar fferm 140 erw yn Sir Benfro.  Ers cymryd awenau Fferm Ffosyficer, calon y busnes Daioni, oddi wrth ei dad ym 1970, mae Laurence wedi ehangu’r fferm deuluol i dros 3,000 o erwau.

“Roeddwn yn poeni’n arw dros y blynyddoedd yngl?n â’n dulliau o ffermio a sut byddai modd gwella’r busnes - felly newidiwyd y fferm i gynhyrchu’n organig ym 1999,” dywedodd Mr Harris.

Ers hynny, mae Laurence a’i dîm wedi ychwanegu gwerth at eu cynnyrch llaeth a arweiniodd at y brand Daioni ac amrywiaeth o gynnyrch sy’n cael eu gwerthu’n rhyngwladol.

“Pan ddechreuodd y busnes, un tancer a dwy lori oedd gyda ni ac roeddwn yn anfon ein llaeth i Ogledd Cymru i gael ei brosesu a’i becynnu.  Yn 2003, lansiwyd Daioni, y dewis cyntaf o laeth blas organig ym Mhrydain,” ychwanegodd Mr Harris.

Ar y dechrau, roedd ysgolion yn awyddus i roi ein cynnyrch mewn peiriannau gwerthu fel dewis arall i ddiodydd byrlymog a siwgrog ac ers hynny mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth.

Heddiw mae’r dewis o gynnyrch yn cynnwys llaeth a hufen ffres organig, llaeth hir oes, yn ogystal â llaeth blas a “Daionic” sef diod chwaraeon llawn protein hir oes organig.

“Mae Laurence Harris yn esiampl wych o pam fod ffermwyr llaeth yn asgwrn cefn i fywyd gwledig ac rwy’n ei longyfarch yn gynnes iawn ar ennill y wobr yma heddiw” dywedodd llywydd UAC Glyn Roberts.

“Mae wedi cyflawni llawer iawn ar ran cynnyrch llaeth Cymreig a ffermio dros y blynyddoedd - hyd yn oed, pan gollodd Laurence a’i deulu y fuches odro’n gyfan gwbl oherwydd TB yn 2009.  Gwnaethpwyd y penderfyniad i fynd i'r afael a’r broblem a defnyddio’i profiad nhw i ddweud wrth y cyhoedd am yr effaith mae’r clefyd yn ei gael ar y diwydiant amaethyddol a bod rhaid i’r Llywodraeth daclo ymlediad y clefyd ymhlith gwartheg a bywyd gwyllt,”

Yn 2008, cafodd llaeth blas Daioni ei allforio dramor am y tro cyntaf ac mae bellach ar gael ym mhrif archfarchnadoedd y DU yn ogystal â siopau bach.

Hefyd yn 2012, Daioni oedd y cwmni llaeth Prydeinig cyntaf i ennill Tystysgrif Organig yn Tsieina ac yn 2014 agorwyd swyddfa yn Hong Kong i ganolbwyntio ar werthiant Pasiffig Asia.  Bellach mae allforion yn gyfrifol am 15% o drosiant y busnes.

Y teulu Harris sy’n berchen y busnes teuluol yn gyfan gwbl bellach ac yn cyflogi oddeutu ugain o bobl leol ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth.

“Rydym yn falch o ansawdd ein llaeth organig, a’r gwartheg rydym yn eu magu ar borfeydd bras gorllewin Cymru.  Drwy’r cyfuniad o wartheg hapus, pridd ffrwythlon a phorfa bras, rydym wedi darganfod y fformiwla ar gyfer ein llaeth blasus o’r ansawdd gorau,” dywedodd Mr Harris.

Dywedodd uwch swyddog polisi UAC Dr Hazel Wright a oedd hefyd yn feirniad ar banel dewis y wobr: “O gofio’r wahanol sialensiau sy’n wynebu’r diwydiant llaeth Cymreig ar hyn o bryd, roedd hi’n bleser gwobrwyo gwaith called, cryfder a dyfeisgarwch teulu Harris.”