UAC Sir Gaernarfon yn codi £7,000 i elusen gyda brecwastau ffermdy

Unwaith eto mae cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn hyrwyddo’r bwyd hyfryd a gynhyrchir yng Nghymru ac yn pwysleisio’r manteision o fwyta brecwast iachus yn ystod yr Wythnos Brecwast Ffermdy blynyddol a gynhaliwyd rhwng Ionawr 25 a 31. 

O ganlyniad i haelioni pawb ar draws y sir, llwyddodd y gangen nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o gynnyrch brecwast Cymreig gwych, ond hefyd i godi swm hollol ryfeddol o £7,000 ar gyfer sawl elusen.  Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng elusennau’r Llywydd sef T? Hafan a T? Gobaith yn ogystal ag Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru. 

Cynhaliwyd saith digwyddiad ar draws y sir i gefnogi ymgyrch Wythnos Brecwast Ffermdy sydd bellach wedi cael ei drefnu’n flynyddol ers 2000 gan yr Awdurdod Ydau Cartref. 

Bu Anwen Jones a Sara Evans, Lleuar Fawr, Penygroes; Anita Thomas, T?’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor; Annwen Williams, Hirdre Fawr, Tudweiliog; Ifora Owen, Glyn Uchaf, Tynygroes, Conwy; Rhian Jones, Cae’r Graig, Efailnewydd, Pwllheli; Eleri Roberts, Dylasau Uchaf, Padog ger Betws y Coed a Anne Franz yn ei chaffi ym Mryncir wrthi’n ddiwyd yn paratoi brecwastau Cymreig llawn a chroesawyd yr holl gefnogwyr, yn gymdogion a ffrindiau’n gynnes iawn. 

Mae thema ymgyrch yr Awdurdod Ydau Cartref, ‘Bywiogi’ch Brecwast’ yn ein hannog i wneud newidiadau bach i’n trefn arferol yn y bore a gwneud yn si?r ein bod yn neilltuo amser i gael brecwast yn y bore.  Y pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl,” dywedodd swyddog gweithredol cangen sir Gaernarfon o UAC Gwynedd Watkin. 

“Mae cael pryd o fwyd da i ddechrau’r diwrnod o gymorth i’r corff drwy weddill y dydd , a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy fwyta cynnyrch lleol.  

“Wrth gynnal y brecwastau yma, rydym yn dod a’r gymuned at ei gilydd ac yn cynorthwyo mwy nag un achos da.  Rwyf am ddiolch i’n staff, aelodau ac wrth gwrs y rheini sydd wedi sicrhau bod y brecwastau yma’n gymaint o lwyddiant, nid yn unig o safbwynt cynnyrch Cymreig ond ar gyfer ein helusennau haeddiannol,” ychwanegodd Mr Watkin.  

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch o galon i’r holl fusnesau sydd wedi rhoi bwyd ar gyfer y brecwastau, heb gymorth y busnesau yma, ni fyddai’n bosib codi swm mor anrhydeddus o arian: Hufenfa De Arfon; Cotteswold Dairies; Llaeth y Llan; Dafydd Wyn Jones, Cigydd, Caernarfon; O G Owen, Cigydd, Caernarfon; Harlech Frozen Foods, Four Crosses; Elystan Metcalf, Cigydd, Llanrwst; Siop Fferm Glasfryn; Asda; Ieuan Edwards, Cigydd, Conwy; John Williams a’i Fab, Cigydd, Llanfairfechan; Spar, Nefyn; Co-op, Llanfairfechan; Dafydd Povey, Cigydd Teuluol, Chwilog; K.E.Taylor, Cigydd, Cricieth; G.Williams a’i Feibion, Cigydd, Bangor; Ffrwythau a Llysiau DJ, Cricieth; Stermat, Gaerwen; A.L. Williams, Cigydd, Edern; Siop Min y Nant, Caernarfon; Ian Jones Wyau Penygroes; Popty’r Foel, Llanllyfni; Llechwedd Meats, Llangefni; Ann Williams, Bryn Teg, Tudweiliog; Gwen Jones, Ty’n Rhos, Tudweiliog; Swyddfa Bost Tudweiliog; Garej Morfa Nefyn; Moch Ll?n, Penarfynydd, Y Rhiw; Bryn Jones, Cig Ceirion, Cigydd, Sarn; G&S Supplies, Dinas; Oinc Oink, Llithfaen; Wyau Plas, Llwyndyrus; Becws Glanrhyd, Llanaelhearn; AF Blakemore, Bangor; Tesco; Morrisons; Welsh Lady, Four Crosses; Wyau Ochr Cefn Isaf, Ysbyty Ifan; Belmot, Llanddoged; Popty Tandderwen, Betws y Coed; L & R.O Jones, Cigydd Llanrwst; Bookers Cash & Carry, Cyffordd Llandudno; Ceri Owen, T? Mawr, Bryngwran; Dei Hughes, Pencraig Uchaf, Betws y Coed; Becws Islyn, Aberdaron; Popty Pen Uchaf, Ysbyty Ifan; Popty Lleuar, Penygroes a Tractorau Emyr Evans,” ychwanegodd Mr Watkin.

[caption id="attachment_4675" align="aligncenter" width="300"]Anita Thomas (red apron) with Eleri, Jan and Eirwen ably assisted by Osian Anita Thomas (red apron) with Eleri, Jan and Eirwen ably assisted by Osian[/caption]

[caption id="attachment_4674" align="aligncenter" width="300"]Anwen Jones, Sara Evans, Elliw Evans, Gwenda Evans and Bethan Lloyd Jones hosted the Lleuar Fawr breakfast Anwen Jones, Sara Evans, Elliw Evans, Gwenda Evans and Bethan Lloyd Jones hosted the Lleuar Fawr breakfast[/caption]

[caption id="attachment_4673" align="aligncenter" width="300"]Ifora Owen (red striped apron) with her team of Ruth, Margaret, Eleri, Mair and Margaret. Ifora Owen (red striped apron) with her team of Ruth, Margaret, Eleri, Mair and Margaret.[/caption]