UAC yn cynnal Cymanfa Ganu Diolchgarwch

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal Cymanfa Ganu Diolchgarwch ‘Yr Amaethwyr’ ar nos Sul Hydref 26 yng nghapel Seion, Aberystwyth fel ymgais i godi arian at hosbisau plant T? Hafan a T? Gobaith, sef elusennau dewisedig y Llywydd.

Bydd y noson yn cael ei harwain gan Iwan Parry o Ddolgellau ac yn dechrau am 6.00yh.

“Rydym yn ffodus iawn y bydd cyn enillydd y Rhuban Glas Aled Wyn Davies o Lanbrynmair yn ymuno yn y gymanfa ynghyd a band arian Aberystwyth ac amryw o gorau lleol,” dywedodd Llywydd UAC Emyr Jones.

“Gofynnwch i aelodau a ffrindiau o’ch ardal i ymuno yn niolchgarwch yr Undeb wythnos nesaf.  Mae’r capel yn gallu eistedd hyd at 1,000 o bobl a gobeithio y cawn gefnogaeth deilwng o bob sir.

“Os ydych yn awyddus i gefnogi’r digwyddiad, ond yn methu dod i’r Gymanfa, mae modd prynu detholiad o’r diolchgarwch am £5.  Bydd yr arian yn cael ei roi tuag cyfanswm yr arian a godir,” ychwanegodd Mr Jones.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu os am archebu detholiad, cysylltwch â swyddfa sirol UAC, cangen Ceredigion ar 01545 571222.