Celwyddau i’n diwydiant ffermio er gwaethaf addewidion y Llywodraeth

gan Glyn Roberts, Llywydd UAC

Tra bod celwyddau a ddywedwyd wrth y Senedd am bartïon Rhif 10 wedi dominyddu'r newyddion yn ddiweddar, ac yn y pen draw, wedi arwain at ymddiswyddiad y Prif Weinidog, mae celwyddau mwy perthnasol i'n diwydiant ffermio a diogelu’r cyflenwad bwyd wedi cael llawer llai o sylw.

Ar ddydd Mercher Sioe Frenhinol Cymru, pan oedd cynnyrch sy’n bodloni safonau heb ei ail yn cael ei hyrwyddo, pasiodd y cytundeb masnach ag Awstralia, sydd yn y pen draw yn caniatáu mewnforion anghyfyngedig o gynhyrchion o safon is, ei gam olaf yn y Senedd heb bleidlais.

Roedd hyn er gwaethaf addewidion niferus gan Liz Truss a gweinidogion eraill y byddai Aelodau Seneddol etholedig y DU yn cael trafod a phleidleisio ar y cytundeb masnach.  Mewn geiriau eraill, cafodd system ddemocrataidd y DU ei hosgoi gan Lywodraeth y DU er mwyn gwthio’r cytundeb fasnach trwodd, lle cafodd ei drafod a’i lofnodi yn gyflym iawn o dan Liz Truss - cytundeb y mae asesiad effaith y Llywodraeth ei hun yn datgan yn glir nad oes fawr ddim gwerth economaidd i’r DU a bydd yn lleihau sectorau bwyd a ffermio’r DU ac yn tanseilio diogelwch y cyflenwad bwyd.

Datgelwyd yn gynharach ym mis Gorffennaf bod Truss wedi’i rhybuddio yn 2020 am effaith o’r fath, ond serch hynny fe ddewisodd aberthu buddiannau amaethyddiaeth a diogelwch cyflenwad bwyd y DU i sicrhau cytundeb ‘fawr’ gyntaf y DU.

Tra bod Truss (a oedd yn Ddemocrat Rhyddfrydol yn wreiddiol, ac yn gwrthwynebu Brexit adeg y refferendwm, ond sydd bellach yn Brexiteer eithafol) wedi dangos ei gallu tebyg i gamelion i newid, roedd llawer ar y dde o’r blaid Geidwadol a oedd yn berffaith onest am eu bwriadau ymhell cyn pleidlais Brexit: Fe’i gwnaethant yn glir mai cymhellion allweddol oedd gallu mewnforio bwyd rhad a chael gwared ar gymorth fferm, a dyma pam y pleidleisiodd aelodau Pwyllgor UAC yn gyson a phendant yn erbyn gadael yr UE.

Ar y llaw arall, nid oedd prinder y rhai a oedd yn berffaith hapus i addo’r byd i ffermwyr y DU er mwyn cael eu pleidlais Brexit, gan gynnwys dileu’r rheoliadau, cynyddu amddiffyniad y farchnad a hunangynhaliaeth y DU, cynnal cymorth fferm ar lefelau’r UE a dychwelyd at daliadau diffyg (sydd wedi bod yn anghyfreithlon ers degawdau o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd).

Mae’n amlwg iawn bod yr holl addewidion hynny yn gelwydd: Cyn gynted ag yr oedd modd i Lywodraeth y DU i wneud hynny, torrodd ddegau o filiynau o bunnoedd o gyllid ffermydd Cymru, ac erbyn 2025 bydd ffermwyr Cymru yn chwarter biliwn o bunnoedd yn waeth eu byd nag y byddai wedi bod yn wir pe bai cyllideb yr UE wedi'i chynnal.

Yn y cyfamser, mae rheoliadau fel y rhai sy’n ymwneud â symudiadau anifeiliaid yn y broses o gael eu dwysáu, ac mae’n amlwg bod y broses o ruthro cytundeb fasnach y DU-Awstralia drwy’r senedd heb bleidlais wedi’i wneud i osgoi’r craffu a fyddai’n osgoi trafodaethau lletchwith ar faterion o’r fath fel y ffaith y rhagwelir y bydd allbwn gros gwartheg diwydiant cig Cymru yn gostwng £29 miliwn - ond gallai’r effaith fod yn waeth “…Pe bai’r cyflenwad yn fwy ymatebol yn y dyfodol nag a awgrymir gan y data hanesyddol, gall y niferoedd cynhyrchu [DU] leihau mwy” [asesiad effaith Llywodraeth y DU].

Mae llawer o ASau Ceidwadol Cymreig wedi datgan yn glir eu gwrthwynebiadau i ruthro’r cytundeb ac maent yn iawn i boeni y bydd yn niweidiol i’w hetholaethau gwledig.  Mae ASau wedi cyfaddef bod y cytundeb wedi’i wneud yn gyflym er budd gwleidyddol, tra bod Rick Walker, o gwmni cig Seland Newydd ANZCO wedi dweud yn ddiweddar mae’r rheswm bod cytundeb y DU â Seland Newydd yn annherfynol fwy rhyddfrydol na’r un a gytunwyd yn ddiweddar rhwng Seland Newydd a’r UE yw bod Llywodraeth y DU yn ysu i ddangos y gall sicrhau cytundebau newydd ar ôl gadael yr UE.

Byddai prawf o gefnogaeth ASau neu fel arall i’w hetholaethau gwledig wedi’i wneud yn glir yn y bleidlais o blaid neu yn erbyn y cytundeb masnach – pleidlais a wrthodwyd iddynt gan Lywodraeth y DU.

Does dim amheuaeth fod rhai ASau yn ymladd dros eu hetholwyr ac yn cefnogi eu hetholwyr amaethyddol, tra byddai eraill wedi mynegi rhai pryderon yn gyhoeddus ynghylch y cytundeb rhwng y DU ac Awstralia ond wedi pleidleisio’n dawel o’i blaid am resymau gwleidyddol neu yrfaol.  Nawr ni fyddwn byth yn gallu gwahaniaethu rhyngddynt.

Fodd bynnag, mae cyfle o hyd i ddangos eu priod liwiau o ran cefnogi neu wrthwynebu deddfwriaeth gysylltiedig, cytundebau masnach eraill (fel yr hyn y cytunwyd arno eisoes mewn egwyddor â Seland Newydd), a pholisi masnach ryngwladol Llywodraeth y DU yn gyffredinol.

Mae’n bosibl y bydd Rishi Sunak yn annhebygol o newid cyfeiriad ar fasnach ryngwladol os daw’n Brif Weinidog, ond os caiff Liz Truss ei hethol bydd yn sicr yn amddiffyn ei chytundeb â Seland Newydd a’r dull niweidiol rhyddfrydol o ganiatáu mynediad diderfyn i’n marchnad fwyd yn gyfnewid am ychydig neu ddim byd - agwedd sy'n cael ei gweld ar y llwyfan rhyngwladol fel un mor gymodol a gwan fel ei fod yn chwerthinllyd.

Yr unig ffordd i farnu cefnogaeth ein Haelodau Seneddol i’n ffermwyr a diogelu’r cyflenwad bwyd yw trwy edrych ar sut maen nhw’n pleidleisio – mae credu addewidion a’r hyn maen nhw’n ei ddweud wedi cael ei brofi’n annibynadwy ers tro.