Y pleser a’r mwynhad o hyfforddi cŵn defaid wedi troi’n llwyddiant i Rhys

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

Mae pob bugail neu fugeiles yn gorfod dibynnu’n llwyr a rhoi ffydd ac ymddiriedaeth 100% yn y berthynas gyda chi defaid y fferm.  Mae ci defaid da yn hanfodol i waith beunyddiol y fferm, gan fod yna leoliadau anghysbell ar bob fferm na fedr cerbyd pedair olwyn fynd iddo. Ond weithiau mae’r berthynas yn datblygu cystal nes bydd bugail yn mentro i fyd hyfforddi a gwerthu cŵn defaid. A dyma yw hanes aelod ifanc o Geredigion, Rhys Griffiths, sy’n mwynhau cryn dipyn o lwyddiant yn y maes hwn yn ddiweddar.

Mae Rhys wedi datblygu diddordeb brwd mewn hyfforddi cŵn defaid, ond lle dechreuodd y diddordeb? Dyma Rhys i esbonio mwy: “Cafodd fy niddordeb mewn cŵn defaid ei wreiddio yn fy magwraeth - roedd cŵn defaid yn cael eu defnyddio ar y ffarm adref ar gyfer y gwaith bob dydd. Ers yn ifanc iawn bûm yn gwylio fy nhad, Idwal Glant yn hyfforddi nifer o gŵn defaid yn y cae ger y tŷ. Roedd Mam hefyd yn defnyddio cŵn defaid yn ei gwaith hithau bob dydd ar y fferm. Roeddwn yn mwynhau mynd gyda Dad i arwerthiant cŵn defaid yn Bala, Pontsenni ac yn Skipton, a dim ond tyfu mae’r diddordeb wedi gwneud ers hynny. 

“Erbyn hyn, mae’r cŵn defaid yn rhan allweddol o fy mywyd ac rwyf wedi magu blas ar eu hyfforddi a’u gwerthu dros y blynyddoedd diwethaf.”

Yn ddiweddar mae’r pleser a’r mwynhad wedi troi’n llwyddiant i Rhys: “Mae’r cŵn defaid wedi dod â chryn lwyddiant i mi yn ystod y cyfnod clo, wrth i sawl arwerthiant ddatblygu i werthu ar-lein. Yn bendant, rwyf wedi manteisio wrth i’r cŵn cael eu llwyfannu ar-lein gan eu bod wedi ennyn diddordeb prynwyr posib ar draws y byd. Golygai hyn fy mod wedi medru ehangu fy nghysylltiadau gan ddod ar draws prynwyr na fyddem o bosib wedi cyfarfod pe bai’r arwerthiannau wedi bod wyneb yn wyneb.

“Llynedd, mi fues i’n lwcus i gael pris da am gi o’r enw Bryniau Celt yn sêl ar-lein Skipton. Yn fwy diweddar, mi werthais Glant Bob, ci pymtheg mis oed ar ôl arddangos fideos ohono yn gweithio gyda defaid a gwartheg yn arwerthiant ar-lein Dolgellau. Roedd Bob yn dangos potensial o fod yn gi ffarm llewyrchus, neu’n gi treial ardderchog hefyd, felly dyna pam rwy’n credu roedd cymaint o ddiddordeb, a’r rheswm cefais y pris gore rwyf wedi’i dderbyn am gi hyd yn hyn. Roedd yn chwith ei weld yn gadael am yr Alban, ond yn falch clywed ei fod bellach wedi ymgartrefu yno’n hapus.”

Ond beth nesaf i Rhys? “Mae gen i gwpwl o gŵn defaid ifanc sy’n argoeli’n dda iawn ac rwy’n gyffrous i weld canlyniadau fy ngwaith hyfforddi. Bwriadaf barhau i hyfforddi cŵn defaid law yn llaw â gwaith y ffarm. Mae hyfforddi’r cŵn yn eu gwaith o ddydd i ddydd yn fuddiol i mi, a hefyd yn fuddiol i’r cŵn wrth iddynt fedru datblygu a chael eu herio yn ystod eu diwrnod gwaith yn ogystal ag yn ei hyfforddiant.

“Mae hyfforddi cŵn defaid yn dod â llawer o fwynhad a phleser i mi, ac rwy’n disgwyl ymlaen i ddatblygu fy nghrefft ymhellach. Mae’r gydnabyddiaeth rwyf wedi ei dderbyn yn ddiweddar yn destun balchder mawr i mi ac rwy’n ddiolchgar iawn am bob cymorth ac arweiniad oddi wrth bobl broffesiynol yn y maes, ar hyd y ffordd.”

Mae teulu Rhys yn aelodau o UAC Ceredigion ac mae’r sir yn ymfalchïo yn ei lwyddiant. “Llongyfarchiadau mawr i ti Rhys! Braf gweld ffarmwr ifanc o Geredigion yn cael llwyddiant. 

Pob lwc i ti yn y dyfodol,” meddai Mari Davies, Dirprwy Swyddog Gweithredol Sirol UAC Ceredigion. Rwy’n siŵr bod ni gyd am ategu geiriau Mari ac yn dymuno’n dda i Rhys ym myd y cŵn defaid.