Cydnabod pwysigrwydd amaeth i’r Gymraeg

‘Rhaid cydnabod pwysigrwydd amaeth i’r Gymraeg’ oedd neges Aled Roberts Comisiynydd yr Iaith Gymraeg ar Radio Cymru ar y 7fed o Hydref 2020. Mae angen i gynlluniau Llywodraeth Cymru gefnogi’r diwydiant amaeth ar ôl Brexit gydnabod “ei bwysigrwydd i ddyfodol y Gymraeg”.

Dywed Mr Roberts bod angen targedu cymorthdaliadau tuag at helpu ffermydd teuluol i oroesi. Mae ffigyrau’r Cyfrifiad yn dangos bod 43% o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg, o gymharu â 19% o’r boblogaeth yn gyffredinol. Roedd Mr Roberts yn ymateb i argymhellion adroddiad diweddar ynglŷn â sut y gall ffermwyr helpu’r llywodraeth i gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Croesawir y neges yma gan Undeb Amaethwyr Cymru, ac mae’r canfyddiadau yma yn ategu’r cyfryw o bwyntiau yn ein hadroddiad “Ffermio yng Nghymru a’r Gymraeg” (ar gael ar wefan yr Undeb, www.fuw.org.uk).

Dyma rhai o ganfyddiadau Comisiynydd yr Iaith Gymraeg mewn ymateb i adroddiad haeddianol Menter a Busnes “Iaith y Pridd” a fu’n casglu gwybodaeth ar hyd a lled Cymru mewn sioeau a digwyddiadau yn 2019.

  • Tynnu sylw cynllunwyr polisi ym maes amaeth at y cysylltiad anwadadwy rhwng parhad yr iaith a pharhad ein cymunedau amaethyddol.
  • Sicrhau bod polisïau a’r system gymorthdaliadau yn cefnogi gweithgarwch ar y fferm deuluol.
  • Sicrhau bod y gyfundrefn gynllunio yn cefnogi mentrau a chymunedau gwledig.
  • Gweithio gyda’r sector ôl 16 i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyrsiau sydd yn gysylltiedig ag amaeth.
  • Ariannu cyfundrefn i gyhoeddi a chyfieithu adnoddau addysg amaeth ar gyfer y sector.
  • Ariannu swydd hwylusydd i gydlynu’r partneriaid sydd â diddordeb mewn cynnal a thyfu’r Gymraeg ym myd amaeth.

Ategai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: “Rwy’n croesawu ymateb y Comisiynydd Iaith i’r adroddiad, ac yn gwerthfawrogi cyfraniad Menter a Busnes yn eu gwaith ymchwil i’r adroddiad. Rwy’n falch hefyd fod yna ymwybyddiaeth ehangach o bwysigrwydd y sector amaeth i’r iaith Gymraeg. Mae’r Undeb hon yn credu fod dyfodol y fferm deuluol o fewn cymuned gynaliadwy yn rhan annatod o barhad yr hil a’r iaith ar ddiwylliant Cymreig.

“Mae’n amlwg i ni sy’n byw yng nghymunedau gwledig Cymru fod gan amaethyddiaeth ran annatod a hanfodol i ddyfodol yr iaith. Y diwydiant amaeth yw asgwrn cefn cynifer o gymunedau gwledig. Mae dyfodol ein cymunedau, a’n hysgolion gwledig ar yr iaith Gymraeg yn yr ardaloedd hyn yn mynd llaw yn llaw a ffyniant y fferm deuluol, dyfodol sydd yn mynd fwyfwy ansicr yn wyneb stormydd gwleidyddol ein hoes. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd Iaith er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i ffermydd teuluol Cymru.”