Edrych nôl er mwyn symud ymlaen

Cornel Clecs, gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Gyda sôn ymhob man yn ddiweddar am y ‘normal’ newydd, weithiau mae’n rhaid camu nôl ychydig i werthfawrogi’r gorffennol, er mwyn gallu symud ymlaen. Rydym ynghanol cyfnod arloesol a chyffrous iawn yn hanes yr Undeb wrth i ni barhau a’r drefn arferol o weithio, ychydig yn wahanol, a hynny diolch i’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf. 

Ym mis Rhagfyr eleni, mi fydd yr Undeb yn dathlu carreg filltir bwysig yn ei hanes, sef dathlu 65 mlynedd ers cael ei ffurfio.  Cyn y cyfnod clo, roeddem yn cydweithio gyda’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar archif o hanes yr Undeb, ond nes bydd y gwaith hynny’n gallu ail gychwyn, dyma damaid i aros pryd, a hynny diolch i Roger Van Praet, cyn Rheolwr Gyfarwyddwr FUWIS sydd newydd ymddeol ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth i’r Undeb.  Diolch iddo am gysylltu gydag Elis, mab y diweddar Emlyn Evans, un o’r nifer fu’n allweddol i sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i Elis am yr adroddiad byr am ei dad.  Ond, yn gyntaf, dyma Roger i ddweud ychydig bach o’r hanes am beth ddigwyddodd ar y noson hanesyddol honno ym mis Rhagfyr 1955:-

“Yn ystod cyfnod o gynnwrf ac ansicrwydd i sector amaethyddol Cymru, mae'n bwysig peidio â cholli golwg ar ddewrder a rhagwelediad y dynion dewr hynny, a oedd yn teimlo’n rhwystredig iawn yn Rhagfyr 1955 oherwydd diffyg diddordeb yr NFU wrth ddiogelu cynaliadwyedd a hyfywedd amaethyddiaeth Cymru, a arhosodd ar ôl cyfarfod o Bwyllgor Gweithredol Sirol misol NFU ar 3ydd Rhagfyr, gan ddatgan eu diddordeb mewn sefydlu undeb ffermwyr i Gymru.

Wedi cael fy magu ym Maesybont, yn rhannau uchaf y Gwendraeth Fach, Sir Gaerfyrddin mae gen i gof annelwig o aelod sylfaenydd llai adnabyddus ond serch hynny'r un mor ddewr, Emlyn Evans.

Rwy’n ddiolchgar iawn i fy ffrind a’m cymydog, Elis Evans, un o feibion Emlyn Evans am roi ychydig mwy o wybodaeth i mi am ei dad:-

Brodor o Maesybont oedd Emlyn gyda chefndir ffermio â diddordeb brwd ym mhopeth yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

Drwy brynu Fferm Derwendeg, Maesybont, a adwaenir o hyd gan rai yn yr ardal wrth ei enw hanesyddol Fferm y Miawst, daeth Emlyn yn rhan o sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru. Er bod y cofnodion yn fratiog, roedd gan yr aelodau sefydlu ffydd llwyr yn y sefydliad yr oeddent wedi'i ffurfio. Wrth addo eu cefnogaeth, yn bersonol ac yn ariannol, yng nghyfarfod ffurfiol cyntaf yr Undeb ar 8fed Rhagfyr 1955, cyfrannodd naw aelod £50 yr un, a oedd yn swm sylweddol o arian bryd hynny.  Cofnodir Emlyn Evans, Derwendeg fel un o'r naw hynny.

Yn drist iawn, dechreuodd iechyd Emlyn ddirywio, ac nid oedd modd iddo fod mor weithgar ym mlynyddoedd cynnar yr Undeb ag y byddai wedi dymuno, gan farw yn ifanc iawn, yn 57 oed.

Cydnabuwyd ymrwymiad Emlyn Evans fel Aelod Oes o Gyngor yr Undeb cyn ei farwolaeth annhymig.

Mewn cyfnod mor heriol, mae’r Undeb yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd ym 1955 ac mae gan ddiwydiant amaethyddol Cymru ddyled fawr i’r gwŷr yma.”

Diolch i Roger ac Elis am ddarparu’r berl fach yna sy’n rhan mor bwysig o hanes sefydlu’r Undeb.  Mae’n holl bwysig ein bod ni yn cofnodi pob manylyn posib, fel bod modd i’r genhedlaeth nesaf werthfawrogi’r aberth a fu er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus iddyn nhw.

Os oes gyda chi unrhyw hanes, lun neu rywbeth byddai o ddiddordeb i ni, cofiwch gysylltu. Mae hanes a threftadaeth ddiwylliannol yn elfennau hollbwysig o fodolaeth a llwyddiant Undeb Amaethwyr Cymru.

 


Argraffu