Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi newidiadau i bremiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi a meini prawf adrethi busnes yn dilyn ymgynghoriad

Mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ardrethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar, pwysleisiodd UAC y dylai’r effeithiau sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi gael eu hystyried fel mater ar gyfer y gymuned amaethyddol ledled Cymru, o ystyried bod 80 y cant o holl dir amaethyddol Cymru wedi’i leoli yn y saith sir sy’n cynnwys dwy ran o dair o’r holl ail gartrefi.

Cynigiodd yr Undeb y dylid cynyddu cyfanswm premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi fesul tipyn er mwyn gallu monitro’r canlyniadau o flwyddyn i flwyddyn, a bod llety hunanddarpar ar gael am 280 o ddiwrnodau yn hytrach na 140, i’w osod am o leiaf 140 o ddiwrnodau, yn hytrach na 70, yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis, i fod yn gymwys i hawlio ardrethi busnes.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd y lefel uchaf ar gyfer premiymau Awdurdodau Lleol ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir yn codi i 300% yn Ebrill 2023.

Nid yw’r premiymau treth gyngor o 100% o fewn siroedd dethol wedi cyflawni’r hyn a fwriadwyd, felly mae UAC yn croesawu’r cyhoeddiad hwn.

Fodd bynnag, rhaid bod canlyniadau newidiadau o’r fath yn cael eu monitro flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae UAC o’r farn bod angen gwario unrhyw refeniw ychwanegol mewn ffordd dryloyw, a’i neilltuo ar gyfer blaenoriaethau megis lliniaru effeithiau ail gartrefi ar gymunedau lleol.

Bydd meini prawf cymhwyso i hawlio ardrethi busnes hefyd yn newid ar gyfer llety hunanddarpar o Ebrill 2023. Mi fydd angen i eiddo o’r fath fod ar gael am o leiaf 252 o ddiwrnodau, a chael ei osod am o leiaf 182 o ddiwrnodau yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis.

Er bod y trothwyon yn mynd tu hwnt i’r hyn a gynigiwyd gan UAC, bydd meini prawf diwygiedig cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes annomestig ar gyfer llety hunanddarpar yn caniatáu i awdurdodau lleol nodi darparwyr llety dilys, sydd fel arfer yn darparu gwasanaethau o’r fath am y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Fodd bynnag, mi fydd angen monitro rheolaidd, i sicrhau bod y busnesau fferm dilys hynny sydd wedi arallgyfeirio i gynnig llety hunanddarpar hefyd yn gallu cwrdd â’r meini prawf diwygiedig, ac na fyddant yn cael eu cosbi’n annheg o ganlyniad i newidiadau polisi sy’n anelu at daclo’r problemau sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi.

Bydd UAC yn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Orchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, sy’n cau ar 12fed Ebrill 2022.