Mantais gystadleuol i ffermwyr yr UE dros gynhyrchwyr y DU

Dros y pum mlynedd diwethaf mae FUW wedi tynnu sylw’n gyson at bryderon y bydd y rhaniad rhwng polisïau a chyllid amaethyddol y DU a’r UE yn rhoi mantais gystadleuol i ffermwyr yr UE - ac yng ngoleuni diwygiadau PAC diwethaf yr UE, mae sylwebwyr eraill yn adleisio’r pryderon hynny erbyn hyn yn ôl y Farmers Weekly.

Fel rhan o fframwaith a gytunwyd gan lunwyr polisïau ym Mrwsel ar 25ain Mehefin, bydd aelod-wladwriaethau’r UE yn cael mwy o hyblygrwydd o ran cefnogi ffermwyr dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), unwaith ei fod wedi’i droi’n ddeddfwriaeth.

Serch bod y cyfnod PAC pum mlynedd newydd yn dechrau ar 1af Ionawr 2023, bydd yn rhaid i Lywodraethau Ewropeaidd gyflwyno’u cynlluniau strategol cenedlaethol eu hunain ar gyfer cwrdd ag amcanion newydd y PAC erbyn diwedd 2021.

Fel rhan o’r broses hon o ddiwygio’r PAC, bydd aelod-wladwriaethau’n dal i allu gwneud taliadau uniongyrchol i ffermwyr gweithredol, gan ddefnyddio £163 biliwn (tua 70%) o’r gyllideb PAC gyfan.

Fodd bynnag, bydd o leiaf 25% o’r gyllideb taliadau uniongyrchol – tua £41 biliwn – yn cael ei osod o’r neilltu ar gyfer ‘cynlluniau eco’, gan gynnwys ffermio organig, amaethecoleg a rheoli plâu.

Bydd y 30% sy’n weddill o gyllideb y PAC ar gyfer datblygu gwledig, gyda 35% o hwnnw’n cael ei neilltuo ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol.

Mae diwygiadau eraill yn cynnwys ail-ddosbarthu 10% o gymhorthdal incwm i helpu cynhyrchwyr llai, 3% o gyllideb y PAC i ffermwyr ifanc drwy gymorth uniongyrchol, buddsoddiad, a chymorth i ddechrau arni, a’r opsiwn i Aelod-wladwriaethau osod cap o £85,000 ar daliadau uniongyrchol a/neu ostyngiad o 15% ar daliadau dros £51,000, sef polisïau y mae FUW wedi bod yn galw am eu cynnwys yng nghynllun amaethyddiaeth y dyfodol yng Nghymru ers 2018.

Serch bod cyllideb y PAC yn dechrau canolbwyntio ar daliadau sy’n seiliedig ar yr amgylchedd a datblygu gwledig, mae’r UE yn caniatáu i’r trawsnewid ddigwydd ar raddfa arafach o lawer, gan gefnogi’r broses o gynhyrchu bwyd, ffermydd llai, a ffermwyr ifanc ar yr un pryd, drwy gynnal elfen sylweddol o’r taliadau uniongyrchol (70% o’r gyllideb), o’i gymharu â’r bwriad i ddileu taliadau uniongyrchol yn llwyr yng Nghymru a Lloegr - gan arwain at bryderon am fanteision cystadleuol.

Mae FUW dro ar ôl tro wedi pwysleisio pwysigrwydd cadw taliad llinell sylfaen fel rhan o unrhyw Gynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru yn y dyfodol, er mwyn cynnal y lefelau cynhyrchu bwyd ac amddiffyn ffermydd teuluol rhag cystadleuaeth annheg.