FUW yn annog Aelodau’r Senedd i bleidleisio yn erbyn Rheoliadau Ansawdd Dŵr Draconaidd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog unrhyw un sydd am weld dull effeithiol, wedi’i dargedu, o wella ansawdd dŵr heb fygwth dyfodol busnesau fferm, i gysylltu â’u Haelod o’r Senedd lleol i’w annog i bleidleisio i ddiddymu’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) a osodwyd yn ddiweddar, ar 3ydd Mawrth.

Yn dilyn blynyddoedd o waith gan randdeiliaid fel rhan o Is-grŵp Llygredd Amaethyddol Fforwm Rheoli Tir Cymru, a chyflwyno adroddiad yn Ebrill 2018 yn amlinellu 45 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, mi ddewison nhw, ar 27ain Ionawr, gopïo rheolau Parthau Perygl Nitradau 30 oed yr UE a’u hailbrandio’n Rheoliadau Adnoddau Dŵr.

Er gwaetha’r ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru, sef prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol, eisoes wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru y gall y dull Parthau Perygl Nitradau (NVZ) arwain at “ganlyniad croes i’r bwriad”, sef gwaethygu ansawdd dŵr, a’i fod yn cefnogi’r 45 o argymhellion, bydd y rheoliadau newydd hyn yn gosod rheolau NVZ a draws Cymru gyfan.

I grynhoi, bydd hyn yn cynnwys cyfnodau cau ar gyfer gwasgaru gwrtaith a slyri, gwaith papur di-ddiwedd gyda’r cynlluniau rheoli maetholion, cynhyrchu mapiau risg, gan gynnwys cyfrifo’r slyri a gynhyrchir a faint o nitrogen sydd ynddo, yn ogystal â’r gofyniad i allu storio gwerth 5 mis o slyri yn ystod y cyfnod cau o 4 mis rhwng Hydref ac Ionawr.

I roi hyn mewn persbectif, mae hynny’n gadael Chwefror yn unig i wasgaru o leiaf cyfran o’r slyri hwnnw cyn i’r storfeydd lenwi. Yn ôl data’r Swyddfa Dywydd ar gyfer 1891 i 2020, mae Cymru wedi cael 14 diwrnod o law ar gyfartaledd yn Chwefror, gan adael pythefnos felly i bob ffermwr gwartheg yng Nghymru i wasgaru slyri.

Yn Chwefror 2020 cafwyd 23 diwrnod o law a ffigurau glawiad oedd 260% yn uwch na chyfartaledd 1981 i 2010, gan awgrymu y bydd y dull hwn o ‘ffermio yn ôl y calendr’ yn anorfod yn arwain at ganlyniadau difrifol.

Yn ogystal, mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru o’r rheoliadau’n datgan y bydd y dull hwn yn costio cymaint â £360 miliwn i ffermwyr Cymru mewn costau seilwaith yn unig.

Mae hyn £99 miliwn yn fwy na ffigur Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cyfanswm Incwm o Ffermio yng Nghymru yn 2019, ac oddeutu £30 miliwn yn fwy na chyllideb gyfartalog flynyddol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yng Nghymru dros gyfnod ariannu diwethaf PAC.

Mae costau seilwaith o’r fath yn cyfateb i gost gyfartalog fesul daliad yng Nghymru o tua £14,500 - ffigur sy’n codi i gost gyfartalog o tua £25,000 pan ystyrir y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio’n ddifrifol yn unig - a dim ond ffigur cyfartalog yw hwn, gyda’r costau i nifer fawr o fusnesau unigol ddegau o filoedd yn fwy.

Wrth reswm, mae un achos o lygredd un yn ormod, ond o ystyried yr uchod a’r ffeithiau sy’n dangos yn glir nad dyma’r dull iawn o daclo llygredd amaethyddol yng Nghymru, mae FUW yn annog pawb i glicio ar y dolenni isod a rhoi eu cod post, i anfon y llythyr a baratowyd at eu Haelod o’r Senedd lleol, i’w annog i wneud y peth iawn i’n diwydiant, ein cymunedau gwledig a’n hamgylchedd drwy bleidleisio yn erbyn y rheoliadau draconaidd hyn ar 3ydd Mawrth.

Saesneg: https://www.fuw.org.uk/en/policy/contact-your-mp
Cymraeg https://www.fuw.org.uk/cy/polisi/cysylltwch-a-ch-as-lleol