Dau fyd, Dau athletwr, Un nerth

Wrth i ddigwyddiad mawr yn y calendr amaethyddol adael bwlch ar gymdeithasu yr wythnos yma (wythnos Y Sioe Fawr), bydd un sefydliad cryfder meddwl, dan arweiniad gwirfoddolwyr, yn cyflwyno digwyddiad ar-lein gyda dau bersonoliaeth chwaraeon eithafol byd enwog i ysbrydoli'r gymuned wledig.

Bydd y gŵr sy’n dal teitl Cneifiwr Peiriant Gorau’r Byd, Richard Jones o Glyndyfrdwy a'r rhedwraig antur eithafol a chyflwynydd teledu, Lowri Morgan yn ymuno â'r darlledwr profiadol Nic Parry yn Stad y Rhug i rannu'r dygnwch, y dyfalbarhad a'r nerth meddyliol sydd eu hangen arnynt i gyflawni'r heriau corfforol yma.

Mae'r digwyddiad Cymraeg ar-lein, sy'n dechrau am 8pm, nos Fercher yma, 21 Gorffennaf yn cael ei drefnu gan Nerth Dy Ben*, sefydliad gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr sy'n ceisio rhoi llwyfan i unigolion rannu profiadau cadarnhaol, yn y Gymraeg, am fyw a gweithio yng nghefn gwlad Cymru.

Daeth y syniad y tu ôl i'r digwyddiad, ‘Dau Fyd, Dau athletwr, Un Nerth’ gan Alaw Owen o Ddinbych: “Clwyd fydd sir nawdd Y Sioe Fawr yn Llanelwedd pan fydd y giatiau i'r digwyddiad go iawn yn cael eu hail-agor. Ond eleni, roedden ni’n teimlo bod yna fwlch amlwg yn yr elfen gymdeithasol.

“Roedden ni’n awyddus i drefnu digwyddiad oedd yn ceisio ail-greu’r wefr rydych chi’n ei theimlo ar nos Fercher nodweddiadol y Sioe Fawr yn y Sied Gneifio Defaid.

“Gan wahodd ein harwr lleol ein hunain, Richard, sy’n dal y teitl Pencampwr Cneifio Peiriant y Byd a Lowri fel llysgennad i ferched mewn chwaraeon eithafol, mae'n cynnig cyfle i ymchwilio i'w bywydau a gweld beth sy'n rhoi'r ysgogiad iddynt i weithio trwy'r heriau sy'n eu hwynebu yn eu campau eithafol a hwythau ar y brig.

“Rydyn ni'n gobeithio y bydd hefyd yn ysbrydoli ac yn annog pobl sy'n gwylio ac yn gwrando i feddwl am eu cryfderau eu hunain, yr hyn maen nhw’n ei gyflawni yn ddyddiol, yn gorfforol ac yn feddyliol, a’r nerth a’r dyfalbarhad sy’n bodoli o fewn eu bywydau gwledig amaethyddol.”

Mae Nerth Dy Ben yn ddiolchgar i Undeb Amaethwyr Cymru a Stad y Rhug am eu nawdd ac i Fenter Iaith Sir Ddinbych a’r Bwrdd Gwlân am eu cefnogaeth. 

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad sy'n cychwyn yn brydlon am 8pm, nos Fercher yma, 21 Gorffennaf, ewch i dudalen Facebook neu YouTube Nerth Dy Ben neu ymweld â’r www.nerthdyben.cymru