Distawrwydd Llywodraeth Cymru ar gapio taliadau yn gywilyddus meddai ffarmwraig defaid UAC Ceredigion

Mae methiant papur gwyn Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru i gyfeirio at gapio taliadau yn gywilyddus ac yn codi pryderon mawr fod symudiad atchweliadol i ffwrdd o'r polisi yn cael ei ystyried.

Dyna farn ffarmwraig defaid o Geredigion, Anwen Hughes, sy'n dweud bod UAC yn iawn i dynnu sylw at y mater ymhlith un o'i ddeg gofyniad allweddol maniffesto.

"Mae aelodau UAC wedi cefnogi capio taliadau fferm mewn ymateb i ymgynghoriadau yn gyson dros y ddau ddegawd diwethaf, a buom yn lobïo’n llwyddiannus am eu cyflwyno pan ddaeth yn bosibl gyntaf," dywedodd Mrs Hughes sy’n ffermio oddeutu 138 erw, y mae'n berchen ar 99 erw, 22.5 erw ar denantiaeth fferm oes ac mae 17 erw arall yn cael eu rhentu, ar fferm Bryngido, ychydig y tu allan i Aberaeron yng Ngheredigion.

Cyflwynwyd terfyn ar faint o daliadau uniongyrchol y gall busnes fferm yng Nghymru eu derbyn yn 2015 gan y gweinidog ar y pryd Alun Davies.

“Mewn ymateb i ymgynghoriadau 2018 a 2019 ar daliadau yn y dyfodol, pwysleisiodd UAC bwysigrwydd cap talu sy’n is na’r lefel gyfredol sy’n ystyried costau llafur yn llawn, er mwyn cynyddu i’r eithaf y swm o arian sy’n mynd i ffermydd teuluol nodweddiadol a’r rheini sy’n gwneud y cyfraniad mwyaf i gymunedau gwledig a’r economi, ”meddai Mrs Hughes.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig lleihau cyfran y taliadau uniongyrchol a dderbynnir gan ffermwyr yr UE uwchlaw €60,000 y fferm a gosod terfyn o €100,000 y fferm ar ôl ystyried costau llafur - safbwynt a gefnogir gan Senedd Ewrop yn ystod y trafodaethau gyda Gweinidogion yr UE.

Mae lefelau uwch o gefnogaeth yr hectar ar gyfer ffermydd bach a chanolig hefyd yn cael eu cynnig yn yr UE, gyda hyn a'r pwnc o gapio taliadau yn denu tipyn o sylw yng nghynigion diwygio'r PAC.

“Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dawel i raddau helaeth ar y mater o gapio taliadau, gan awgrymu ei bod yn gwyro oddi wrth y mater ac yn ystyried tro pedol.

“Mae hyn, ynghyd â’r cynnig i seilio taliadau ar gyflenwi ‘nwyddau cyhoeddus’ yn unig yn peryglu symud arian o ffermydd teuluol gweithredol i dirfeddianwyr mawr, busnesau mawr ac elusennau sy'n berchen ar dir ond ddim yn cynhyrchu bwyd,” ychwanegodd Mrs Hughes.

Mae 'Gofynion Allweddol Maniffesto Llywodraeth nesaf Cymru' UAC yn cynnwys galw am “Sicrhau bod taliadau'n cael eu capio ar lefelau sy'n ffafrio ffermydd teuluol ac yn atal arian rhag llifo o fusnesau sy'n cefnogi cymunedau gwledig a gweithgaredd economaidd i dirfeddianwyr mawr, busnesau mawr ac elusennau sy'n berchen ar dir.”

Gellir darllen dogfen Gofynion Allweddol Maniffesto Llywodraeth nesaf Cymru' UAC yma:  https://fuw.org.uk/cy/polisi/adroddiadau