Gêm wleidyddol yw hwb ariannol yr Alban meddai FUW

Mae’r cyhoeddiad y bydd ffermwyr yr Alban yn elwa o £160 miliwn fel taliad atodol gan Lywodraeth y DU, yn ogystal â hwb o £51.4m mewn cyllid cydgyfeirio, yn rhan o gêm wleidyddol meddai Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth ymateb dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Nid oes unrhyw amheuaeth bod rhaid cynnal cefnogaeth uniongyrchol, sy’n sail i gynhyrchu bwyd diogel o’r safon uchaf, er mwyn osgoi achosi niwed anadferadwy i Gymru ac wrth gwrs y DU gyfan.

“Yn hynny o beth, gwnaethom groesawu’r penderfyniad i sefydlu adolygiad o ddyraniadau yn seiliedig ar ffactorau amgylcheddol, amaethyddol ac economaidd-gymdeithasol, ac mae’r ychwanegiad o £5.2 miliwn i Gymru yn golygu y bydd ein cyllideb yn cael ei chynnal tan 2022 fel y cyfryw.

“Fodd bynnag, mae FUW wedi dadlau ers amser bod angen dyrannu cyllid yn deg a gallai’r ffaith bod yna £160 miliwn yn ychwanegol i’r Alban, ystumio’r farchnad ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen ac mae’n hynod annheg ar ffermwyr Cymru.”

Hefyd, pwysleisiodd Llywydd yr Undeb ymhellach fod busnesau fferm yr Alban yn 2017 wedi derbyn taliad Colofn 1 ar gyfartaledd o £23,971, a oedd fwy na 30% yn uwch na chyfartaledd y DU o £18,306, a 65% yn uwch na chyfartaledd Cymru o £14,568. (ffigurau yn seiliedig ar ddata a lawrlwythwyd o http://cap-payments.defra.gov.uk).

“Yn hynny o beth, mae'r ailddyrannu cyllid hwn yn debygol o waethygu'r gwahaniaethau rhwng busnesau fferm mewn gwahanol genhedloedd y mae'n rhaid iddynt gystadlu yn yr un farchnad. Rhaid i ddyraniadau cyllid fel hyn beidio â bod yn gynsail ar gyfer y dyfodol,” meddai Glyn Roberts.

Er bod FUW yn llwyr gydnabod natur Llai Ffafriol 85% o dir yr Alban, mae'n werth nodi yn y cyd-destun hwn bod ffermwyr yr Alban yn derbyn cefnogaeth Ardal Llai Ffafriol wedi'i thargedu o gyllideb Piler 2 PAC, nad yw ffermwyr yng Nghymru yn ei derbyn, er gwaethaf 80% o dir Cymru yn cael ei gategoreiddio fel Llai Ffafriol.

“Ar y cyfan, nid yw hyn yn newyddion da i ffermwyr yng Nghymru mewn cymhariaeth ac yn cwestiynu a’i ymgais yn unig yw hyn i sicrhau pleidleisiau'r Alban cyn yr etholiad Cyffredinol posib,” ychwanegodd Glyn Roberts.

Diwedd