Undebau Amaeth Cymru yn amlinellu 'Y ffordd ymlaen i Gymru'

 

Mae'r ddau undeb amaeth yng Nghymru wedi cydgyhoeddi papur egwyddorion sydd yn anelu at osod bwyd, ffermio, bywoliaeth, cymunedau a'r amgylchedd yng Nghymru ar sylfaen gadarn ar ôl Brexit.  

Datgelwyd papur, 'Y ffordd ymlaen i Gymru', gan Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru a John Davies, Llywydd NFU Cymru mewn sesiwn briffio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a staff Llywodraeth Cymru ar dydd Mercher, Hydref 24, yn adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd. Noddwyd y digwyddiad gan Paul Davies AC.

Daw'r cyhoeddiad yn ymateb i ymgynghoriad cyfredol Llywodraeth Cymru ar ddyfodol polisïau cefn gwlad a rheoli tir – 'Brexit a'n Tir'.  

Ers cyhoeddi'r ymgynghoriad, bu'r ddau undeb yn cynnal cyfarfodydd ym mhob cwr o Gymru, gan ymgysylltu gyda miloedd o fusnesau fferm, ynghyd â busnesau o ddiwydiannau perthynol megis masnachwyr amaethyddol a chontractwyr, arwerthwyr, milfeddygon, proseswyr, cyfrifwyr ac ymgynghorwyr ariannol.

O ganlyniad i'w rhaglennu ymgysylltu ar destun yr ymgynghoriad, mae'r Undebau wedi ennill mandad digyffelyb i siarad ar ran y Gymru wledig.

“Rydym yn falch o gynrychioli ffermydd bach a mawr, dan berchnogaeth a thenantiaeth, grawn ac anifeiliaid, garddwriaeth a dofednod, o newydd-ddyfodiaid y diwydiant i'r teuluoedd sydd wedi ffermio'r un tiroedd ers cenedlaethau,” dywedodd Llywydd NFU Cymru, John Davies.

Ychwanegodd “Mae'r holl bobl hyn yn rhannu yn yr un amcan a'r un diddordeb angerddol, sef cynhyrchu bwyd diogel, fforddiadwy, o safon uchel, tra'n gofalu am a chyfoethogi ein hamgylchedd a'n tirwedd, sydd heb ei ail.

Gan annerch Aelodau'r Cynulliad a budd-ddeiliaid allweddol, tanlinellodd Glyn Roberts bod teuluoedd amaethyddol yn rhan o deulu llawer ehangach, teulu sydd yn ymestyn allan ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan.

“Mae sector bwyd a ffermio Cymru yn cynnal dros 240,000 o swyddi, gyda bron 52,000 yn cael eu cyflogi ar ffermydd Cymru yn unig.  

“Yn ein cymunedau, mae ffigyrau cyflogaeth yn dangos bod hyd at 28 y cant o bobl yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol. Felly wrth gwrs ein bod yn unfrydol yn ein gwrthwynebiad i unrhyw gynigion a allai fygwth nid yn unig ein teuluoedd amaethyddol, ond hefyd y degau o filoedd o unigolion a busnesau sydd yn dibynnu ar y sector.” dywedodd Glyn Roberts.

“Mae'r hyn sydd yn y fantol o ganlyniad i gam-greu polisïau gwledig y dyfodol yn amlwg. Golyga Brexit ein bod yn wynebu bygythiadau sylweddol sydd tu hwnt i'n rheolaeth ni fel ffermwyr. Ond yn y cyfnod ansicr hwn, mae yna ffyrdd gofalgar o ddatblygu polisïau yng Nghymru er mwyn sicrhau ffyniant ein cenedl yn y dyfodol,” dywedodd John Davies.  

“Mae'n rhaid i ni edrych ar ddylunio, adeiladu a gweithredu polisi newydd trwy broses o esblygiad, nid chwyldro,” ychwanegodd Glyn Roberts.   

Clywodd Aelodau'r Cynulliad sut y mae NFU Cymru ac UAC wedi cydymdrechu i gytuno ar, a gosod allan set o egwyddorion polisi sydd yn diffinio ffordd ymlaen sydd yn unigol i Gymru ac wedi ei seilio ar osod bwyd, ffermio, bywoliaeth, cymunedau a'r amgylchedd yng Nghymru ar sylfaen gadarn wedi Brexit.

Y 5 egwyddor allweddol yw:

SEFYDLOGRWYDD – Y flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yw darparu sefydlogrwydd mewn byd o ansicrwydd. Dylid ystyried newidiadau sylweddol dim ond wedi i ni ddod i wybod yn gliriach am ein perthnasau masnachol yn y dyfodol, ac yn dilyn dadansoddiad manwl o effaith y newidiadau mewn masnach a pholisi ar bob busnes, sector a rhanbarth yng Nghymru.

FFERMYDD TEULUOL – Y fferm deuluol yw asgwrn cefn ein cymunedau gwledig a'n cymunedau ehangach, gan gynnal ein heconomi, ein tirwedd, ein hiaith, a'n diwylliant, ac o ganlyniad dylent fod yn ganolog i bolisïau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n rhaid i unrhyw ddarpar bolisi gwledig yng Nghymru gadw teuluoedd sydd yn cynhyrchu bwyd yn actif ar y tir.

CEFNOGI CYMUNEDAU GWLEDIG A SWYDDI CYMRU – Mae'n rhaid cynnal y Gefnogaeth Uniongyrchol sy'n sail i gynhyrchu bwyd diogel o'r safon uchaf yn ffurf o gefnogaeth cyhoeddus i adfer methiannau yn y farchnad.

Byddai ildio cymorth uniongyrchol sy'n sail i gynhyrchu bwyd diogel o safon uchel pan nad oes yna unrhyw fwriad gan ein cystadleuwyr allweddol o wneud yr un peth yn niweidio ein heconomi, ein hamgylchedd, ein tirwedd, ein hiaith a'n diwylliant.

AMAETHYDDIAETH GYNALIADWY – Mae'n rhaid i Gymru barhau i fuddsoddi mewn mesurau sydd yn gyrru cynhyrchiant, yn gwella effeithlonrwydd ac yn cynorthwyo ffermwyr i gynyddu potensial y farchnad tra'n bodloni ein ymrwymiadau amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd.

GWOBRWYO CANLYNIADAU AMGYLCHEDDOL – Mae ffermwyr Cymru wedi darparu canlyniadau cyhoeddus cadarnhaol i'r genedl ers canrifoedd, a dylid eu gwobrwyo yn deg am yr hyn y maent eisoes wedi ei ddarparu, yn parhau i'w ddarparu ac yn mynd i'w ddarparu yn y dyfodol.

“Credwn yn gryf bod y pum egwyddor yn ffurfio sylfaen gadarn er mwyn dylunio ac esblygu ffordd ymlaen sydd wedi ei deilwra i Gymru, er mwyn creu fframweithiau a mecanweithiau polisi sydd yn wirioneddol cwrdd â saith nod llesiant Cymru heb risg,” dywedodd John Davies.

“Nid oes modd i ni bwysleisio digon ein bod yn gwbl ymroddedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y dylid ystyried yr ymgynghoriad cyfredol yn gychwyn, nid yn ddiwedd ar y broses. Rydym yn credu mae hwn yw'r cyfle i ni ddylunio ac adeiladu polisi sydd yn addas i'w ddiben,” dywedodd Glyn Roberts.

Bydd y ddau undeb yn cwrdd gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar ddydd Iau yr wythnos hon er mwyn datblygu cynlluniau manylach ar y ffordd ymlaen.