Image
Cadwraeth natur wrth wraidd fferm bîff a defaid yn Sir Drefaldwyn

Mae’n rhaid i natur, cadwraeth a chynhyrchu bwyd fynd law yn llaw. Mae Carwyn Jones sy’n ffermio yn Nhŷ Mawr, Dolanog yn Nyffryn Efyrnwy yn enghraifft berffaith o hynny.

Mae'r fferm bîff a defaid 160 erw wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau lawer, gyda Carwyn yn cymryd rheolaeth lawn o'r daliad yn 2002. Mae'r da byw yn pori ar dir organig fwy neu lai, yn cael eu bwydo'n naturiol ac yn cael eu cadw i safonau iechyd a lles uchel.

Mae’r tir yn serth a'r pridd yn heriol, felly mae'n rhaid ei reoli'n ofalus. Mae Carwyn yn ymfalchïo yng nghyflwr gwych y fferm ac mai 1989 oedd y tro olaf i unrhyw wrtaith gael ei roi ar y ddaear. Mae'r fferm mor naturiol ag y gall fod. Mae 30 erw o goetir yn amgylchynu'r fferm ac mae amrywiaeth fawr o rywogaethau adar a bywyd gwyllt o gwmpas.

Rheolir 4 milltir o wrychoedd ac maent hefyd yn darparu cynefin gwych ar gyfer adar a bywyd gwyllt, wrth storio carbon ar yr un pryd. Yn ddiweddar, ychwanegwyd 600 o blanhigion gwrychoedd newydd, gan greu lleiniau clustogi, cysgod i dda byw ac adar.

Mae angen cymysgedd o ddefaid a gwartheg ar y tir yma ac mae Carwyn yn glir pe bai dim ond defaid yn cael eu cadw, byddai'r fioamrywiaeth yn cael ei gyfaddawdu. Mae yna dir comin ar un ochr, ucheldir ar yr ochr arall a rhywfaint o iseldir, yn ogystal â'r afon, oll yn cael eu rheoli'n sympathetig. Mae gan y fferm ei chynefin unigryw ei hun ac mae cynlluniau ar y gweill i wneud gwelliannau pellach. Mae Carwyn yn falch bod Tŷ Mawr yn gartref i amrywiaeth o rywogaethau ac yn glir mai'r gwartheg yw'r cadwraethwyr gorau.

Nid yw dull pori'r fferm wedi newid llawer ers i dad-cu Carwyn ffermio’r tir ond mae’r lefelau stocio wedi gostwng i sicrhau bod y da byw a natur yn ffynnu. Mae'r blodau menyn a blodau eraill yn y dolydd yn gwneud rhyfeddodau i'r peillwyr hefyd.

Mae ffermydd teuluol bach fel Tŷ Mawr yn arwain y ffordd o ran cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ecogyfeillgar a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd - gallwch ffermio a bod yn gadwraethwr yw'r neges o'r daliad hwn.

Image
Image