Image

Yn anffodus mae iechyd meddwl gwael a hunanladdiad mewn cymunedau gwledig a ffermio yn broblem gynyddol ac yn un y mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi ymrwymo i fynd i’r afael â.

Gan agosáu at y bedwaredd flwyddyn o godi ymwybyddiaeth a gwneud popeth o fewn gallu i helpu i dorri'r stigma, mae'r Undeb yn cynnal Cynhadledd rithwir Iechyd Meddwl Cymru Gymru, ddydd Gwener 9 Hydref 2020 trwy Zoom, cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Bydd sesiwn y bore yn archwilio cyd-destun ehangach iechyd meddwl gwael mewn cymunedau gwledig a pha gamau y mae'n rhaid i'r Llywodraeth, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a’r llunwyr polisi eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, yn enwedig gan fod Covid-19 wedi rhoi pwysau pellach nid yn unig ar iechyd meddwl pobl ond hefyd eu cyllid.

Ymhlith y siaradwyr ar gyfer sesiwn y bore, sy'n dechrau am 10.30yb ac sy'n cael ei gadeirio gan Brif Ohebydd y Farmers Guardian, Abi Kay:

  • Sara Lloyd, Arweinydd Tîm, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol De Ceredigion
  • Cath Fallon, Pennaeth Cyfarwyddiaeth Menter ac Animeiddio Cymunedol, Cyngor Sir Fynwy
  • Lee Philips, Rheolwr Cymru, Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • John Forbes-Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Lles Meddwl, Cyngor Sir Ceredigion

 

Bydd sesiwn y prynhawn, sy'n dechrau am 2yp, yn cymryd agwedd mwy ymarferol ac yn clywed gan elusennau iechyd meddwl gwahanol ymroddedig sy'n cynnig cyngor ymarferol i'r rhai sy'n cefnogi anwylyn sy’n mynd trwy faterion meddyliol yn ogystal â'r rhai sy'n profi iechyd meddwl gwael ar hyn o bryd.

Ymhlith y siaradwyr ar gyfer sesiwn y prynhawn, sy'n cael ei gadeirio gan y Cyflwynydd Teledu adnabyddus Alun Elidyr, mae:

Gareth Davies, Prif Swyddog Gweithredol, Tir Dewi

David Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Farming Community Network

Kate Miles, Rheolwr Elusen, The DPJ Foundation

Linda Jones, Rheolwr Rhanbarthol, RABI Cymru

Mae'r gynhadledd yn ddigwyddiad agored a gall y rhai sy'n dymuno ymuno gofrestru yma:

https://www.eventbrite.co.uk/e/all-wales-mental-health-conference-tickets-121009788535