Diweddariad Coronavirus

Mae FUW Cyf wedi addasu ei brosesau gwaith er mwyn dal ati i gynnig yr un lefel o wasanaeth a chymorth i’n cwsmeriaid a’n haelodau.

Y gwahaniaeth mwyaf yw na fydd cwsmeriaid ac aelodau’n cael eu gwasanaethu mewn swyddfeydd sirol nes yr hysbysir yn wahanol. Bydd yr holl wasanaethau a chymorth yn cael ei gynnig gan staff drwy e-bost, ffôn, Skype a Google Hangouts.

Mae staff wedi cael yr opsiwn o weithio gartref – ond mae eu manylion cyswllt yn aros yr un fath.

Pan deimlir bod cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn hanfodol, dilynir camau bioddiogelwch llym. Fodd bynnag, bydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu hosgoi oni bai bod yna argyfwng.

Ein blaenoriaeth, fel bob amser, yw parhau i ddarparu’r holl wasanaethau a ddisgwylir gan aelodau a chwsmeriaid, tra’n dilyn canllawiau’r GIG a’r Llywodraeth.

 

Consesiwn Ffurflenni Cais Sengl (SAF)

O ystyried pwysigrwydd llenwi a chyflwyno ffurflenni SAF/IACS yr adeg hon o’r flwyddyn, rydym wedi cynnal trafodaethau brys gyda Llywodraeth Cymru ac eraillam yr angen i ymestyn dyddiad cau SAF a chydnabod yr amgylchiadau eithriadol sy’n wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd.

O ganlyniad, cynigir cymorth gan FUW i lenwi ffurflenni SAF drwy ‘apwyntiadau rhithwir’ dros y ffôn o hyn ymlaen. Gellir croeswirio gwybodaeth ar ffurflenni SAF yn ystod apwyntiad ffôn.

Maes o law, bydd staff FUW hefyd yn gallu cyflwyno ffurflenni, unwaith bod ygwadiadau angenrheidiol yn eu lle, ac yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd (sy’n gyfrifol o hyd am reolau Glastir) disgwyliwn y bydd y dyddiad cau, sef 15fed Mai yn cael ei ymestyn i 15fed Mehefin.

 

Gwasanaethau Yswiriant FUW

Ein blaenoriaeth bob amser yw ystyried diogelwch a lles ein cydweithwyr, gangydnabod ar yr un pryd ein hymrwymiad i’n haelodau a’n cleientiaid. Bydd ein harferion gwaith hyblyg yn caniatáu inni wneud hyn, gan gyflenwi gwasanaethau yn ôl yr arfer.

Bydd eich Gweithredwr Cyfrif a’ch tîm cymorthar gael ar eu rhifau cyswllt neu e-byst arferol i sicrhau bod GwasanaethauYswiriant FUW Cyf yn parhau i’ch gwarchod chi, eich busnes, a’ch asedau. Os digwydd ichi fod yn ddigon anffodus iorfod gwneud hawliad, gall ein tîm weithio o bell, gan barhau i gynnig yr unlefel o wasanaeth.

 

Gwarchod y broses ogynhyrchu bwyd yn hanfodol

Mae’r coronafeirws yn debygol o amharu ar bethau am fisoedd lawer, ac mae’n hanfodol bod ffermwyr yn gallu dal ati i gynhyrchu bwyd yn eu ffordd arferol ar adeg mor ansicr - a hynny heb wynebu’r risg o gosbau neu gyfyngiadau annheg.

Felly rydym wedi llunio rhestr o’r risgiau gwahanol a all effeithio ar ffermwyr – o anallu i gynnal profion TB ar anifeiliaid oherwydd prinder milfeddygon, i gyfyngiadau ar y bwyd anifeiliaid sydd ar gael os digwydd bod yna dywydd garw’n hwyr yn y tymor – ac rydym yn cynnal trafodaethau rheolaidd ag eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i weld sut y gellid lliniaru problemau o’r fath.

Gyda rhai ffermwyr yn gweld effaith ar eu hincwm yn barod yn sgil cwymp yng ngwerthiant rhai mathau o fwydydd – yn bennaf gwerthiant llaeth i siopau coffi – a mwy o darfu i ddod, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo’n haelodau yn y tymor byr a’r tymor canolig, a chymerwyd camau i sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â lobïo a materion polisi’n gallu parhau i weithio gartref.

 


Cadw marchnadoedd da byw ar agor yn hanfodol

Mae FUW hefyd wedi cynnal trafodaethau gydag arwerthwyr da byw yng Nghymru, a chynrychiolwyr y Gymdeithas Arwerthwyr Da Byw am yr angen i gadw marchnadoedd da byw ar agor, tra’n lleihau’r risg gymaint â phosib.

I’r perwyl hwn, mae nifer o farchnadoedd da byw eisoes wedi cau eu caffis i leihau cyswllt rhwng pobl, ond er mwyn lleihau’r risg gymaint â phosib, a cheisio atal y llywodraeth rhag gorfodi marchnadoedd i gau, mae’n amlwg mai dim ond yn rhai sy’n prynu ac yn gwerthu anifeiliaid ddylai fynychu’r marchnadoedd hyn, gan ymddwyn yn gyfrifol wrth wneud hynny.

Mae FUW wedi gwneud hi’n glir, o’i gymharu â’r risg o weld marchnadoedd yn cau’n gyfan gwbl, y byddai’n well caniatáu prynwyr yn unig i fod yn bresennol wrth werthu anifeiliaid yn y cylch neu’r llociau, gan olygu mai mynd â’r stoc i’r farchnad yn unig y byddai’r gwerthwyr.

Beth bynnag yw’r ateb, rhaid inni sicrhau nad yw’r rôl hanfodol a chwaraeir gan farchnadoedd da byw o fewn ein cadwyni cyflenwi da byw’n cael ei thanseilio.

 


Y feirws yn rhoi ffocws ar ddiogelwch bwyd dros yr hirdymor

Tra bod gofyn i bawb beidio â chynhyrfu ac ymddwyn yn gyfrifol i geisio osgoi trosglwyddo’r coronafeirws dros y misoedd sydd i ddod, mae’r prynu gwyllt, y silffoedd gwag, a’r ffaith bod archfarchnadoedd yn dogni rhai mathau o fwydydd yn anfon neges glir am yr angen i warchod ein diogelwch bwyd dros yr hirdymor.

Mae’n eironig, felly, bod e-byst cyfrinachol un o brif ymgynghorwyr Trysorlys y DU, Dr Tim Leunig, a ddatgelwyd cwta fis yn ôl, yn honni nad oedd angen ffermwyr yn y DU, nad yw’r sector bwyd yn ‘hanfodol bwysig’ i economi’r DU, a bod amaethyddiaeth a’r diwydiant pysgota ‘yn bendant ddim yn bwysig’.

Yn ôl yr adroddiadau newyddion, mae Dr Leunig yn cydweithio ers blynyddoedd maith â phrif ymgynghorydd Rhif 10, sef Dominic Cummings, ac mae ei sylwadau’n dangos y math o ddyfodol ôl-Brexit sy’n cael ei ystyried o fewn cylch mewnol Boris Johnson.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae FUW wedi mynegi peryglon safbwynt mor drychinebus o gibddall yn blwmp ac yn blaen, a hynny ar ffurf tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar i bwyllgorau yn Nhŷ’r Cyffredin a Chynulliad Cymru ar Fil Amaeth Newydd y DU - gan danlinellu peryglon bargeinion masnach sy’n tanseilio safonau a ffermwyr y DU, ac sy’n hidio dim am ddiogelwch bwyd.

Ac mewn ymateb i awgrym yn y Bil y dylid ond cynnal asesiadau o ddiogelwch bwyd y DU bob pum mlynedd, tynnodd FUW sylw at y ffaith bod y prinder bwyd byd-eang yn 2007-8 wedi datblygu’n hynod o gyflym - yn union fel mae’r coronafeirws wedi amharu ar gyflenwadau byd-eang yn gyflym, o fewn ychydig fisoedd yn unig.

Ar y 12fed o Fawrth, ymatebodd Pwyllgor Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan drwy gyflwyno gwelliant i’r Bil Amaeth, gan alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau ymrwymiad cyfreithiol i gynnal safonau bwyd – symudiad a fyddai hefyd yn gwarchod diogelwch bwyd yn y DU.

Mewn modd tebyg, ymatebodd FUW yn ddiweddar i ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar ostwng tariffau mewnforio, gan danlinellu sut y byddai hynny’n bygwth cynhyrchwyr bwyd y DU a diogelwch bwyd y DU, drwy agor y drws i fewnforio pellach, gan danseilio sefyllfa negodi’r DU hefyd yn y trafodaethau masnach sydd i ddod.

Rhaid aros i weld a fydd Llywodraeth y DU yn penderfynu newid yr hyn sy’n ymddangos yn agwedd llugoer tuag at amddiffyn cynhyrchwyr a diogelwch bwyd yn y DU, ond dylai’r argyfwng coronafeirws presennol a’r silffoedd gwag fod yn rhybudd amlwg i’r rhai sydd am weld dyfodol lle mae llawer mwy o’n bwyd ni’n cael ei fewnforio o wledydd a all benderfynu ‘troi’r tap i ffwrdd’ yn sydyn, ar adeg pan mae gwir angen bwyd arnon ni.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â’ch swyddfa sirol.

Byddwn yn diweddaru’r wefan gyda’r newyddion diweddaraf yn ogystal ag yn uniongyrchol drwy e-byst, negeseuon testun, a Y Tir.

 

Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru

Independent Non-Executive Director

The Farmers’ Union of Wales was established in 1955 as an unincorporated organisation and has now determined that managing its affairs through a company limited by guarantee is the best way of meeting the growth plans for the future.

As a result, FUW Limited has been established and an initial board appointed by the election of members of the Union. The Board has appointed one independent non-executive director and now wish to appoint a second. This will be for an initial 3-year term.

With an empathy for Wales and farming, but not necessarily a farming background, we would expect that successful applicants would have a successful business background, possibly with a legal, corporate governance or financial focus. 

The FUW works bilingually, therefore the ability to speak Welsh would be an advantage but it is not essential as all board meetings are currently conducted in English.

Remuneration

The position is remunerated and all reasonable expenses will be reimbursed

Time Commitment

Board meetings will generally be held monthly in our head office near Aberystwyth with occasional telephone meetings taking place where appropriate.

Application Process

An informal discussion about the role can be arranged by contacting the Managing Director via email (This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. ).

Applications should be made by forwarding a CV and introductory letter to the Managing Director before 19 May 2018.

Sitemap

[simple-sitemap]

Sitemap

[simple-sitemap]

Press Department

Working to promote the interests of farmers in Wales and providing our members with the latest news from the agricultural industry.

Learn more:

Email Us

[gravityform id="23" name="Press Contact" title="false" description="false"]