Cyfarwyddwr Polisi Amaethyddol

Dr Nicholas Islwyn Dugdale Fenwick

nick-fenwickMagwyd Dr Fenwick ar ffermydd mynydd yn ardaloedd Talerddig a Machynlleth yn Sir Trefaldwyn ac astudiodd Cemeg ym Mhrifysgol Bangor cyn dychwelyd i Sir Drefaldwyn ym 1999.

Cyn ymuno gyda thîm polisi UAC yn 2004, roedd yn gyfrifol am fusnes ymgynghorol cyfrifiadurol ac yn arbenigo mewn technoleg gwybodaeth ar gyfer busnesau amaethyddol a gwledig.

Cafodd ei benodi fel Swyddog Polisi (Cynhyrchion) UAC yn 2004 a cafodd ei dyrchafu i fod yn Gyfarwyddwr Polisi Amaethyddol yn 2007.

Mae'n briod i Elizabeth sy'n gynllunydd theatr ac yn gyd-sylfaenydd a pherchennog Cwmni Cyhoeddi Chwaer Annifyr. Mae gan y ddau ddwy o ferched sef Myfanwy a Morfudd.

Yn ei amser hamdden, mae Nick yn mwynhau gwrando a chwarae cerddoriaeth. Mae wedi bod yn aelod ac wedi cyd-ysgrifennu caneuon gyda Datsyn, Tystion, MC Mabon, Baswca, Badon a Huw Haul.

Cyhoeddiadau