Y Brif Swyddfa

Undeb Amaethwyr Cymru

Llys Amaeth

Plas Gogerddan

Aberystwyth

Ceredigion SY23 3BT

Ffôn 01970 820820
Ffacs 01970 820821

Teithio i'r Brif Swyddfa

O'r Gogledd

Cymerwch yr A487 o Fachynlleth, trwy Talybont. Ewch drwy Bow Street, gan droi i’r chwith ar yr A4159 (arwydd yn dweud Llangurig/Aberteifi), teithiwch am 0.25 milltir. Trowch i’r chwith ar y groesffordd gyda’r arwydd yn dweud Penrhyncoch a IBERS (Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig). Cymerwch y troad cyntaf i’r dde, ac adeilad UAC yw’r adeilad cyntaf ar ochr dde'r safle.

O'r Dwyrain

Dilynwch yr A44 o Langurig i Aberystwyth. Ar ôl pasio Capel Bangor, trowch i’r dde ar gylchfan Gelli Angharad i’r A4159 gyda’r arwydd yn dweud Bow Street/Machynlleth (A487). Ar ôl tua 1.75 milltir (trwy Capel Dewi), trowch i’r dde ar y groesffordd gyda’r arwydd yn dweud Penrhyncoch a IBERS (Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig). Cymerwch y troad cyntaf i’r dde, ac adeilad UAC yw’r adeilad cyntaf ar ochr dde'r safle.

O'r De

Wrth deithio ar yr A487 am Aberystwyth, ewch i rodfa Antaron - A487 gan fynd mewn i Southgate. Ar y gylchfan, cymerwch yr ail allanfa i’r A4120, (arwydd Llanbadarn Fawr, Machynlleth A487). Wrth gylchfan Morrisons, cymerwch y 4ydd allanfa (yr un diwethaf) i’r A4120 (arwydd Llanbadarn Fawr, Llangurig) ac ewch am Llanbadarn Fawr dros y groesfan wastad. Ar y ddwy gylchfan fach, ewch i’r dde am yr A44 (arwydd Llangurig). Ar ol tua dwy filltir cymerwch yr allanfa gyntaf oddi ar y gylchfan i’r A4159 gyda’r arwydd yn dweud Bow Street/Machynlleth. Ar ol tua 1.75 milltir (trwy Capel Dewi), trowch i’r dde ar y groesffordd gyda’r arwydd yn dweud Penrhyncoch a IBERS (Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig). Cymerwch y troad cyntaf i’r dde, ac adeilad UAC yw’r adeilad cyntaf ar ochr dde'r safle.

E-bostiwch Ni

[gravityform id="2" name="Head Office Contact" title="false" description="false"]