Tad a mab yn rhannu atgofion a phryderon

Farming father and son team share memories and concerns: Robert and Gwynfor Davies

Cael ei orfodi gan y llywodraeth i dyfu ceirch ar dir garw a gwylio’r tractor cyntaf yn cyrraedd y pentref yw dau o nifer o atgofion o oes o ffermio i un aelod o Undeb Amaethwyr Cymru.

Rhyngddynt mae gan Robert Davies a'i fab Gwynfor fwy na 130 mlynedd o brofiad o ffermio yng Nghwm Penmachno.

“Chwarelwr oedd fy nhad a doedd ganddo ddim llawer o ddiddordeb yn ffermio, ond dyna roeddwn i eisiau ei wneud ac roedd fy nhad yn gwybod hynny, felly cymerodd fferm Pen y Bryn ymlaen nes i mam a minnau ddechrau ffermio ar ôl i mi adael yr ysgol yn 15 oed.

“John Williams oedd asiant yr Arglwydd Penrhyn ar y pryd ac arferai ymweld â Phen y Bryn yn aml i ofyn i'm tad i gymryd tenantiaeth o Pen y Bedw oherwydd doedd neb arall eisiau gwneud. Roeddem wedi bod ym Mhen y Bryn ers 1939 pan adewais yr ysgol ac yn diwedd cymerodd fy nhad yr awenau o’r fferm 240 erw ym Mhen y Bedw ym 1950 wedi iddo arwyddo prydles gan yr Arglwydd Penrhyn a oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o dir y cwm.

“Yn fuan ar ôl y rhyfel, dywedwyd wrth bob fferm faint i’w aredig gan y llywodraeth er mwyn bwydo’r genedl. Ym Mhen y Bedw roeddem yn gorfod aredig 10 erw o geirch gydag erw o datws o fewn hynny. Byddem yn cynaeafu’r ceirch ac yn mynd a’r cnwd i gael ei falu yn y felin ym Mhentrefoelas,” meddai Robert.

Pan ddaeth gorchmynion y llywodraeth i ben, rhoddodd Robert y gorau i dyfu ceirch a newidiwyd i gadw defaid a gwartheg a oedd yn fwy addas i'r tir.

Ond roedd yna newidiadau mawr ar droed. Roedd y rhyfel wedi golygu datblygiadau enfawr mewn technoleg a throsglwyddwyd arbenigedd mewn dylunio tanciau i adeiladu tractorau a daeth y ‘Fergie Fach’ ar y farchnad I ddechrau, araf oedd y trosglwyddiad o geffylau i dractorau yn y cwm. Roedd ffermio yn dibynnu ar geffylau i wneud y gwaith trwm ac roedd symud i dractorau yn golygu gwariant sylweddol i ddatrys problem nad oedd llawer o drigolion Cwm Penmachno yn teimlo ei fod yn bodoli. 

Robert Davies

“Roeddem am barhau i ddefnyddio’r ceffylau gwedd. Roeddwn yn hoff iawn o geffylau. Roedden ni arfer mynd o gwmpas yn aredig gyda'r ceffylau er mwyn helpu pobl. Heddiw, byddai'n cael ei alw'n gontractio.

“Ym 1947 dechreuodd gwerthwr tractor ddod o amgylch yr ardal a llwyddodd i werthu un i Fferm Y Foel. Yn y blynyddoedd ar ôl hynny dechreuon ni gyd brynu tractorau. Yn y dyddiau hynny byddai Fergie Fach yn costio £325 a byddai aradr yn costio £25, felly am £350 roedd gennych yr offer i wneud y gwaith o aredig gymaint haws,’’ meddai Robert.

Fodd bynnag, nid oedd ceffylau yn gwbl ddiangen. Gofynnwyd yn aml i Robert helpu gydag achlysuron pwysig eraill yn y pentref.

“Roedden ni arfer helpu gyda’r hers. Arferai’r hers gael ei chadw mewn sied yn y pentref a phan oedd angen mynd â’r car i’r fynwent byddwn yn mynd â’r ceffyl i’w thynnu. Rwy’n cofio unwaith gofynnwyd i mi fynd i ddwy angladd ar yr un diwrnod ond cymerodd gwasanaeth yr angladd cyntaf ychydig yn hirach na'r disgwyl.

“Roeddwn yn dal y ceffyl am dros awr tu allan y capel, yn aros iddynt ddod allan fel y gallem fynd i’r fynwent. Roedd hi'n dywydd ofnadwy ac roeddwn yn wlyb at fy nghroen. Roeddwn yn gwybod bod gen i ail angladd i'w wneud felly roedd yn rhaid i mi frysio wrth dynnu’r hers.

“Roedd hi’n reit ddoniol clywed gan fy nhad wedi iddo fod yn gweithio yn y chwarel y dydd Llun canlynol bod llawer o’r galarwyr wedi bod yn cwyno fy mod yn mynd yn rhy gyflym gan eu bod yn ceisio cerdded y tu ôl i’r hers ac yn ei chael hi’n anodd cadw fyny. Bron yn rhedeg” mae'n cofio.

Er ei fod yn ymddangos yn ddiniwed ar y dechrau, roedd goblygiadau’r newid mawr nesaf yn fwy fyth na dyfodiad technoleg fferm. Pan fu farw'r pedwerydd Arglwydd Penrhyn ym 1951 rhoddwyd y mwyafrif o ffermydd Cwm Penmachno i'r Llywodraeth yn lle trethi marwolaeth. Cymerodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Comisiwn Coedwigaeth reolaeth o dir y cwm. Cwm Penmachno 6

 Dywedodd Gwynfor: “Fi sydd yn ei ffermio erbyn heddiw. Mae'r safle o dan gyfyngiadau amgylcheddol o ran faint o ddefaid y gallaf eu cadw. Mae gennym oddeutu 400 o ddefaid ond mae nifer y gwartheg yn lleihau bob blwyddyn. Y cyfan dan ddylanwad y cynlluniau amgylcheddol fel Tir Gofal ac yna'r cynllun Glastir. Mae llawer o'r tir pori lled-garw gorau yn y cwm o dan orchudd o goed.

“Mae yna fwy o reoliadau bron bob blwyddyn, ac mae cadw llyfrau fel y llyfrau symud da byw, y llyfr meddyginiaeth, dyddiaduron stocio ac yn y blaen, a hynny pan nad ydych yn hoff iawn o waith papur, yn dipyn o waith.”

Felly beth yw safbwynt Gwynfor am y dyfodol?

“Mae hynny'n dibynnu ar gefnogaeth i ffermio. Dyna beth sy'n eich cynnal. Nid y ffermio. Oni bai am y cymorthdaliadau byddai'n ei gwneud hi'n anodd iawn. Bron yn amhosibl.”