Ail ethol ffermwr bîff a defaid o Gonwy fel Llywydd UAC

Glyn Roberts, a ail-etholwyd yn Llywydd UAC gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths

Mae ffermwr b?ff a defaid adnabyddus o Gonwy, Glyn Roberts, wedi cael ei ail-ethol fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod cyfarfod o Brif Gyngor yr Undeb yn Aberystwyth (Llun, Mehefin 19).

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Mr Roberts o Dylasau Uchaf, Padog, Betws-y-Coed, Conwy sydd wedi bod yn Lywydd UAC ers 2015: “Rwy’n falch iawn cael bod wrth lyw UAC yn ystod cyfnod hanesyddol.

“Fel Llywydd yr Undeb hon, rwyf am weld cyfleoedd mewn problemau yn hytrach na gweld problemau mewn cyfleoedd.  Y flaenoriaeth i ni nawr yw sicrhau ein bod ni’n cynnal sector ffermio cynaliadwy ac ymarferol yma yng Nghymru.

"Rydym am weld dyfodol bywiog go iawn ar gyfer pobl wledig go iawn. Mae llawer o'n haelodau yn ofni, os nad yw ffermio yn ddigon uchel ar agenda'r llywodraeth, bydd Cymru yn troi i mewn i amgueddfa awyr agored. Mae yna bryder gwirioneddol, petai amaethyddiaeth yn methu, byddwn yn gweld cynnydd mewn diboblogi gwledig, a fydd nid yn unig yn cael effaith garw ar ein heconomi wledig, ffordd o fyw ac iaith, ond hefyd yn achosi straen ychwanegol ar ein trefi a'n dinasoedd.

“Heb y fargen iawn ar gyfer ffermwyr, bydd ein cymunedau gwledig yn diflannu ac yn mynd yn angof.  Y nod nawr yw creu diwydiant amaethyddol cynaliadwy o fewn cymuned wledig gynaliadwy.  Mae modd cyflawni hyn ond mae’n rhaid i ni weithio’n rhagweithiol.”

Ym 1977, llwyddodd Glyn i ennill tenantiaeth fferm fynydd 100 acer, Ynys Wen, Ysbyty Ifan tra’n gweithio’n rhan amser yn ystod y cyfnod yn Nhalasau Uchaf.

Ym 1983, enillodd Mr Roberts tenantiaeth Dylasau Uchaf, fferm 350 acer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae’n parhau i ffermio gyda’i ferch Beca.  Mae ei wraig Eleri yn rhedeg busnes arlwyo yn Ysbyty Ifan.  Mae ganddynt bump o blant, oll wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth.

Bu Mr Roberts yn aelod Gogledd Cymru o Bwyllgor cyllid a threfn UAC o 2003 i 2004; Is Lywydd UAC o 2004 i 2011 a cafodd ei ethol fel Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn 2011.

Mae Glyn wedi darlithio nifer o weithiau ar faterion amaethyddol a’r uchafbwynt personol iddo oedd darlithio ar Ddyfodol yr Ucheldir yng Nglynllifon ym 1997 gan rannu llwyfan gyda phennaeth adran amaethyddiaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth, yr athro Mike Haines a John Cameron NFU yr Alban.  Uchafbwynt personol arall iddo oedd gwahoddiad gan Franz Fischler, Comisiynydd Amaethyddol y UE i fynychu cyfarfod ar ddyfodol Datblygu Gwledig yn Strasburg yn 2003.

Yn ystod 2006-2008 roedd yn cynrychioli UAC ar fwrdd Hybu Cig Cymru ac o 2008 i 2015 bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Hybu Cig Cymru sef penodiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ym mis Ionawr 2001, bu Carwyn Jones AC yn ymweld â Dylasau Uchaf ac Ysbyty Ifan a Glyn oedd yn gyfrifol am baratoi dogfen gynhwysfawr yn edrych ar y cysylltiad anorfod rhwng amaethyddiaeth a dyfodol cymunedau gwledig, “Pwysigrwydd Amaethyddiaeth yng nghymunedau gwledig”.

Hefyd arweiniodd Glyn y gr?p UAC cyntaf o Sir Gaernarfon i Frwsel i drafod EID ym mis Hydref 2000.

Enillodd gystadleuaeth Rheoli Fferm yn yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd yn golygu crynhoi cynllun tair blynedd, ac ym 1992 pan oedd Coleg Glynllifon o dan fygythiad cau, cafodd Glyn ei ddewis fel aelod o Weithgor o dri i edrych ar y posibiliadau o gadw Glynllifon ar agor.