Gwaith caled staff UAC Sir Gaernarfon yn cael ei gydnabod gyda Gwobr Aelodau Newydd

[caption id="attachment_8028" align="alignleft" width="200"] (ch-dd) Llywydd UAC Glyn Roberts yn cyflwyno gwobr ‘Aelodau Newydd’ i Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin[/caption]

Mae'r ymdrech ardderchog a wnaed i recriwtio aelodau newydd yn Sir Gaernarfon wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr ‘Aelodau Newydd’ yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb yn Aberystwyth.

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae Gwynedd Watkin a’r tîm yng Nghaernarfon wedi gweithio’n ddiflino i gynorthwyo aelodau ar draws y sir yn ystod 2016 ac wedi denu’r nifer fwyaf o aelodau yng Nghymru oherwydd y cymorth a’u gwasanaeth ymroddedig.  Rwy’n gwerthfawrogi eu hymdrechion parhaol ac yn eu llongyfarch am yr hyn maent wedi ei gyflawni, mae’r wobr yn llwyr haeddiannol.

“Rwy’n falch dweud wrth y Cyngor ein bod yn parhau i ddenu nifer dda o aelodau newydd ac mae hyn yn holl bwysig i’n dyfodol.”

Mae Swyddogion Gweithredol Sirol ar draws Cymru yn cynorthwyo aelodau i gwblhau ffurflen y Cynllun y Taliad Sylfaenol, cynnig cyngor proffesiynol drwy’r flwyddyn ac yn cynnig cymorth gydag ymholiadau, apeliadau a chosbau oddi wrth Llywodraeth Cymru megis Cynllun y Taliad Sylfaenol, Glastir, Glastir Organig, Gwaith Cyfalaf ayyb ac yn cynorthwyo aelodau gyda chofrestru symudiadau BCMS.

Mae’r swyddogion sir hefyd yn cynnig gwasanaethau arall megis cwblhau TAW ar-lein bob chwarter, cofrestru RPW ar-lein a chymorth cyffredinol gan gynnwys arweiniad ar gynllunio, hawliau tramwy, anghydfodau ffiniau a materion yn ymwneud â thenantiaeth, yn ogystal ag arweiniad ar etifeddiaeth, profiant ac olyniaeth, ffordd-freintiau a chyfarwyddyd hawddfreintiau a materion yn ymwneud â chwmnïau gwasanaethau cyhoeddus.

“Mewn diwydiant sy’n newid ac yn datblygu drwy’r amser, mae Swyddogion Gweithredol Sirol fel Gwynedd a staff y swyddfa yn ffynhonnell hollbwysig o wybodaeth, a hefyd yn rhoi cyngor busnes i’n haelodau - gwasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi gan lawer.

“Fel rhan o UAC maent yn canolbwyntio’n llwyr ar faterion sy’n effeithio ar ein haelodau sydd ddim yn cael eu cymell gan elw nac yn cael eu dylanwadu gan sefydliadau allanol.  Mae’n glir nad yw ffermwyr Cymru yn isradd i ni a nhw yw’r rheswm yr ydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud.  Rydym yn ffodus iawn i gael tîm mor rhagorol o staff yng Nghaernarfon, ac wrth gwrs ar draws gweddill Cymru,” ychwanegodd Glyn Roberts.