UAC yn noddi WIFI yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn noddi’r WIFI am ddim yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru sydd i’w chynnal yn Llanelwedd ar ddydd Llun 28 a dydd Mawrth 29 o Dachwedd mewn ymgais i amlygu’r pwysigrwydd o weld Cymru’n hollol ddigidol.

“Mae dros 15 y cant o’n poblogaeth yn parhau i fod heb gyfleusterau digidol, ac mae’r rhai hynny sydd yn medru cysylltu yn derbyn cyflymder a dibynadwyaeth gwael.  Mae yna gysylltiadau yn y trefni sy’n derbyn cyflymder o 200MBps – llawer yn fwy na’r 10MBps sy’n cael ei dderbyn mewn rhai ardaloedd gwledig”, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr UAC Alan Davies.

“Mae 2 y cant o’n poblogaeth yn cynhyrchu oddeutu 60 y cant o’n bwyd.  Ond mae rhan sylweddol o’r 2 y cant yna yn parhau i fethu cysylltu gyda’r rhyngrwyd o’i ffermydd.  I amlygu’r broblem yma, mae UAC yn falch o fod yn noddi’r WIFI am ddim sydd ar gael yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru,” ychwanegodd Mr Davies.

Mae UAC wedi pwysleisio droeon bod y rhai hynny sydd heb gysylltu yn methu datblygu eu busnesau, nid oes modd iddynt gefnogi eu plant gyda gwaith cartref ac yn methu cysylltu gyda rhaglenni’r Llywodraeth am gyngor a thaliadau fel sy’n ofynnol ohonynt.

Ychwanegodd Mr Davies: Yn syml, mae’n hardaloedd gwledig yn cael eu hesgeuluso ac mae’r bwlch yn llydanu.  Ond hefyd, nid oes modd iddynt fanteisio ar yr effaith ehangach o dechnoleg ddigidol sy’n carlamu drwy’r byd.  Os nad ydych yn hyddysg yn y byd digidol, mae’n bosib y bydd darganfod ffyrdd arloesol i drawsnewid eich busnes yn anodd.”

Mae UAC yn cydnabod bod yna gynnydd wedi bod dros y blynyddoedd i gynnwys mwy o bobl yn y byd digidol yng Nghymru, ond mae llawer mwy o waith i’w wneud, yn enwedig wrth gysylltu gyda’r grwpiau mwyaf pell gyrhaeddol, a’r teuluoedd hynny sy’n amaethu ein tir er mwyn cynhyrchu ein bwyd ac yn gofalu am ein cynefin a’n tirwedd naturiol, sydd yn aml iawn yn y rhannau mwyaf gwledig o Gymru.

“Mae’n rhaid i ni beidio tanseilio pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n cysylltu pob rhan o Gymru ac yn datblygu technolegau digidol er mwyn sicrhau bod ni’n gwneud ffermio a busnesau gwledig mor effeithiol ac effeithlon drwy’r cysylltiad ac yn sicrhau bod gan fwy o bobl ddyfodol digidol gwell,” ychwanegodd Mr Davies.