Amaeth yng ngwaed y genhedlaeth nesaf o fridwyr Jacob

Wedi dwy flynedd anodd iawn i’n cymdeithasau, mae’n dda gweld bwrlwm eu gweithgareddau yn dychwelyd unwaith eto. 

Cafodd aelodau rhanbarth Cymru o Gymdeithas Defaid Jacob y cyfle i ddod 'nôl at ei gilydd yn ddiweddar a dathlu llwyddiannau mewn cyflwyniad gwobrwyo. 

Cafodd un teulu o Lanfynydd, ac aelodau ffyddlon o’r Undeb yng Nghaerfyrddin tipyn o lwyddiant wrth i ddwy genhedlaeth o’r teulu gipio gwobrau. 

Enillodd Arwel Jones, a’i ddiadell Celtic deitl diadell fawr orau Cymru. Ac nid Arwel yn unig bu’n casglu tlysau.  Cafodd y genhedlaeth nesaf dipyn o lwyddiant hefyd wrth i neiaint Arwel, Harri a Griff ennill gwobrau ar ôl haf llwyddiannus o ddangos Levi a Bella, cewch wybod pwy yw’r ddau yma yn y man.  Ond i ddechrau, beth am i ni gael ychydig mwy o hanes diadell Jacob Celtic, a sefydlwyd yn y 1990au cynnar gan Arwel:- 

“Er fy mod wedi ennill y praidd bach a chil wobr y praidd mawr yn y gorffennol, sioc llwyr oedd cael llwyddiant ‘leni, ond yn hynod o falch gan fod y mwyafrif o’r defaid wedi magu gartref ers sawl cenhedlaeth bellach” eglura Arwel.  “Mae’n anrhydedd derbyn gwobrau fel hyn, yn enwedig gan feirniad a chymaint o brofiad. Dyw 20 dafad ddim wastad yn edrych fel praidd fawr, a gan ystyried fod rhai o’r defaid yn 7 i 9 oed a chwarter y ddiadell yn ddefaid blwydd, doeddwn i ddim yn disgwyl llawer. Yn amlwg roedd y beirniaid wedi plesio ac wedi nodi cysondeb trwy’r praidd, yn cwrdd â safon y brid ac yn ddefaid efo corff a gwlân da. Hobi yw’r defaid i mi, ond mae angen iddynt dalu ffordd, felly mae cadw’r safon yn bwysig, eu cadw mor fasnachol â phosib ond dal i gynhyrchu ŵyn i’r arwerthiannau pedigri.” 

 

“Enillais yr hwrdd gorau nôl yn 2003 gyda Owlscote Barrie sydd yn llinach pob dafad bellach, felly bron ugain mlynedd yn ddiweddarach braf oedd ennill eto gyda hwrdd wedi magu gartref, ac enillodd Celtic Mini Ben ei ddosbarth yn y Sioe fawr yn 2022 ac mae wedi cynhyrchu ŵyn sydd wedi dod i’r brig. 

 

Rwy’n gweithio’n llawn amser, ac mae cadw praidd o ddefaid i’w harddangos yn waith caled, ond rwy’n ddiolchgar i’r teulu cyfan am eu help. Rwy’n falch iawn dros y ddau nai, Harri a Griff, er yn byw yn nhref Caerfyrddin, mae’n glir i weld fod amaeth yn y gwaed.  Roedd yn braf eu bod yn profi llwyddiant, gan ei bod yn mwynhau gweithio gyda’r defaid ac yn gwneud llawer o waith paratoi at y sioeau heb help. 

 

Mae Harri yn meddwl fod y gwobrau yn wych ac yn browd iawn o’r defaid yn enwedig Levi, ei hwrdd ef. Roedd rhaid i Griff fynd a’r tlysau i ddangos i Bella, ac mae e wedi rhoi caniatâd iddi wneud unrhyw beth mae am, gan ei bod yn enillwraig. 

 

Mae nifer yn dweud fod rhai o ddefaid Jacob gorau’r wlad yng Nghymru, felly rwy’n edrych ymlaen at gael beirniadu'r gystadleuaeth blwyddyn yma.”

 

Llongyfarchiadau mawr i ti Arwel, Harri a Griff, ac mae’n amlwg bod dyfodol defaid Jacob Celtic yn ddiogel iawn.  Edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed rhagor am anturiaethau Harri a Griff gyda Levi a Bella yn y dyfodol.  

 

Mae’n bosib iawn y byddwch yn dyfalu beth yw’r cysylltiad rhwng Pencampwr Tywyswyr Ifanc Cymdeithas Defaid Jacob Rhanbarth Cymru Gwenllian Evans a Chornel Clecs - ydych chi’n ei chofio fel Ladi Fach Tŷ Ni am flynyddoedd lawer?!