Image

Mae ffermio llaeth yn hanfodol, meddai ffermwr o Sir Fôn

Teuluoedd amaethyddol yw sylfaen cymunedau lleol ac yn hanfodol wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy a hefyd er mwyn lliniaru newid hinsawdd. Dyma’r neges gan y ffermwr llaeth o Sir Fôn William Williams, sy’n gofalu am ei fuches odro o 200 yng Nghlwch Dernog Bach, Llanddeusant, sy’n uned 400 erw o dir rhent ac 80 erw o dir a berchnogir yn breifat.

Mae’r newid mewn amaethyddiaeth ar Sir Fôn wedi cael effaith ar y gymuned leol yn ôl William ac o ganlyniad i’r newidiadau, mae rhai daliadau wedi uno, mae ysgolion hefyd wedi gorfod uno, gan newid strwythur y gymuned. Mae’r ffermydd llai wedi mynd, yn debyg iawn i’r ysgolion llai sy’n dangos mai ffermydd teuluol sy’n cadw cymunedau lleol yn fyw, yn ogystal â’n diwylliant a’r iaith Gymraeg.

Mae William yn ffyddiog bod y pridd yn iach a bod digonedd o borfa’n tyfu. Mae’r india-corn y mae’r teulu’n ei dyfu yn manteisio ar y defnydd o wrtaith o’r gwartheg heb ddefnyddio gwrtaith artiffisial ac mae’r gwartheg yn derbyn gofal da trwy gydol y flwyddyn.

Pan mae’n dod i nwyon tŷ gwydr ac effaith y diwydiant llaeth ar yr hinsawdd, mae’n teimlo’n rhwystredig oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o’r gwahaniaeth rhwng carbon deuocsid a methan. Mae’r teulu’n cymryd ei gyfrifoldeb i ofalu am yr amgylchedd o ddifrif, gan weithio gyda’i brynwr llaeth Glanbia ar archwiliad carbon er mwyn gweld sut allant wella’r hyn a wneir.

Mae ffermwyr yma yng Nghymru eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol trwy ddal a storio carbon yn y pridd a’r gwrychoedd, a thrwy dorri allyriadau, ac mae William o’r farn pan mae’n dod i archwiliad carbon, dylid hefyd gymryd rôl porfeydd a gwrychoedd i ystyriaeth wrth gyfrifo storio carbon, yn hytrach na dibynnu’n unig ar brosiectau plannu coed anferth.

Meddai William, mae’n rhaid i gynnyrch llaeth barhau yn y gadwyn fwyd, er mwyn diogelwch bwyd a rhesymau maeth, oherwydd nid ydym am weld ein hunain mewn sefyllfa mewn blynyddoedd i ddod lle nad oes gennym ffermwyr llaeth mwyach. Mae William yn gwbl grediniol bod ffermwyr llaeth Cymru, y DU a’r byd yn rhan o’r datrysiad cynaliadwy, ac yn rhan o systemau bwyd cynaliadwy’r dyfodol.
Image
Image