Image

Cwpwl ifanc sy’n ffermwyr cig eidion a defaid yng Ngogledd Cymru yn manteisio ar gynhyrchu bwyd a chadwraeth

Yn swatio ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ychydig filltiroedd o drefi hanesyddol Beddgelert a Phenrhyndeudraeth, mae Hafod y Llyn Isaf, fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r daliad 110 erw yn gartref i Teleri Fielden a’i gŵr Ned Feesey, 100 o ddefaid ac 20 o wartheg. Brwyn a dolydd gorlifdir sy'n llawn rhywogaethau yw'r tir yma’n bennaf, gan ei fod 3 metr yn unig uwchben lefel y môr. Ers talwm roedd yn rhan o'r aber, cyn i'r cob gael ei adeiladu ym Mhorthmadog. Mae'r pridd yn dywodlyd ac yn cyflwyno rhai heriau i'r cwpwl ifanc.

A hwythau ddim o gefndir ffermio traddodiadol, roedd yn rhaid i Teleri a Ned brofi eu hunain i'w landlordiaid, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i gael eu derbyn fel y tenant-ffermwyr yma. Trwy waith caled a phenderfyniad, mae'r cwpwl wedi sicrhau tenantiaeth busnes fferm 10 mlynedd. Cyn symud yma, roedd Teleri yn ffermio yn Llyndy Isaf yn Nantgwynant ar ysgoloriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r CFfI. Roedd yn ysgoloriaeth am flwyddyn yn wreiddiol i helpu ffermwyr ifanc i gael troed ar yr ysgol ond arhosodd am 3 blynedd yn rhedeg y fferm fynydd 600 erw, yn cadw defaid Mynydd Cymreig, gwartheg Duon Cymreig ac yn gwneud llawer o waith cadwraeth.

Mae'r system ffermio yn bwysig i Ned a Teleri, gyda'r ffocws ar gadwraeth wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon. Mae'r gwartheg yn chwarae rhan hanfodol yn yr agweddau rheoli tir a chadwraeth yma ar y fferm a phrynwyd y bridiau gan ffermwyr eraill sydd hefyd yn ymwneud â phori cadwraeth. Er mwyn gwella'r tir fferm ar gyfer bioamrywiaeth ymhellach a helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, mae'r Parc Cenedlaethol wedi darparu coed ifanc i Ned a Teleri ar gyfer gwrychoedd a choed unigol ychwanegol ar hyd y ffiniau hefyd.

Mae cadwraeth a gofalu am y tir yn chwarae rhan hanfodol yma yn Hafod y Llyn Isaf, fodd bynnag, mae Teleri a Ned hefyd yn awyddus i sicrhau nad yw cynhyrchu bwyd yn cael ei anwybyddu. Cychwynnodd y cwpwl fenter gwerthu uniongyrchol, sy'n cynnwys bocsys cig oen a chig eidion eu hunain. Mae Teleri yn defnyddio’i phrofiad marchnata i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch ac yn meithrin perthnasoedd cryf â chwsmeriaid, trwy adrodd eu stori ffermio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae meddwl sut y gallant wella'r fferm a'r tir, wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy maethlon yn cadw Ned a Teleri un cam ar y blaen - maent yn benderfynol o wella'r tir ar gyfer y dyfodol.
Image
Image