Image

Ecolegydd wedi troi'n ffermwr yn pwysleisio rôl hanfodol diwydiannau wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a chadwraeth cynefinoedd

Bedair milltir i'r de o Fachynlleth, yn swatio yn nyffryn Dyfi ac ar gyrion mynyddoedd y Cambrian mae Fferm Cefn Coch, cartref Dr Joseph Hope. Mae'r fferm tua 200 i 250 metr uwchben lefel y môr ac mae'r tir yn codi i'r de a gallwch gerdded i gopa Pumlumon heb weld ffordd na thŷ.

Mae gan y fferm 40 erw o borfa a choetir sy'n llawn rhywogaethau, ac ar hyn o bryd mae Joe yn prynu 50 erw arall yn Ynyslas. Yn newydd-ddyfodiad, mae'n cadw buches fach o Wartheg yr Ucheldir, dim ond 12 sydd ganddo ar hyn o bryd. Mae’r 4 mochyn Saddleback x Baedd Gwyllt hefyd yn brysur yn clirio rhedyn a mieri er mwyn adfer y tir nôl ar gyfer pori.

Dewiswyd brîd Gwartheg yr Ucheldir am nifer o resymau. Fel rhywun sy’n newydd i ffermio dywed Joe bod hi’n wych bod nhw ddim angen llawer o ofal. Maent yn ddigon hapus i dreulio’r gaeaf allan ac yn bwyta'r borfa fel y daw - maent yn gwneud yn dda ar dir garw, felly nid yw’n cael ei wthio tuag at ddefnyddio gwrteithwyr, a fyddai'n lleihau gwerth cadwraeth y glaswelltir. Mewn gwirionedd, Gwartheg yr Ucheldir yw yn un o'r bridiau gorau ar gyfer pori er lles cadwraeth, felly maent yn gweithio dros fioamrywiaeth.

Symudodd Joe i Gefn Coch ychydig dros 6 mlynedd yn ôl, gan adael bywyd yng Nghaeredin, a gyrfa yng Ngerddi Botaneg Frenhinol Caeredin lle bu’n gweithio fel cennegydd.

Gyda gwerthfawrogiad o fioamrywiaeth, natur a'r rôl y mae da byw yn ei chwarae wrth gynnal ecosystemau iach, mae Joe wedi archwilio'r cefn gwlad o'i gwmpas, gan ddefnyddio'i arbenigedd fel ecolegydd. Daeth o hyd i dirwedd yn llawn bywyd gwyllt; mae'r coetir ymhellach lawr y dyffryn yn un o'r goreuon ar gyfer cennau yn y sir.

Wrth ddisgrifio ei system ffermio dywed Joe ei fod yn fodel dwyster isel sydd wedi'i gynllunio i adael i natur ffynnu ochr yn ochr â ffermio. Er gwaethaf dod o ongl gadwraeth i ddechrau, mae cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel hefyd yn amcan allweddol i Joe.

Image
Image