Image
Bugail y Gogarth yn cefnogi dulliau ffermio traddodiadol ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chadwraeth

Mae’r Gogarth - mynydd calchfaen sy'n ymestyn 207 metr uwchben lefel y môr, gyda golygfeydd ar draws Môr Iwerddon ac Ynys Môn heb fod ymhell, yn denu dros 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Ond mae'r Gogarth yn fwy nag atyniad i dwristiaid yn unig. Mae'n gartref i’r bugail a thenant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dan Jones, a 650 o ddefaid. Dan yw ceidwad Fferm Parc ers 5 mlynedd, ac mae'n gofalu nid yn unig am y 145 erw sydd wedi'u cynnwys gyda'r fferm, ond mae'n helpu i reoli cyfanswm o 900 erw, sydd â hawliau pori ar gyfer 416 o ddefaid ynghyd ag ŵyn.

Yn ffermwr defaid ucheldir traddodiadol, mae Dan yn ffermio mewn ffordd sy’n rhoi natur yn gyntaf. Mae cynhyrchu bwyd yn cael ei wneud mewn ffordd gynaliadwy, naturiol yma. Nid yw'n ddwys, ac mae'n mynd law yn llaw â gofalu am yr amgylchedd.

Gan fod y Gogarth yn cael ei gydnabod fel parc gwledig, SoDdGA ac APP (Ardal Planhigion Pwysig) mae'n cael ei reoli gan y cyngor lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, ac mae Dan yn gweithio’n agos gyda nhw. Mae hefyd yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Plantlife Cymru sydd wedi prynu’r ddiadell gynefin ar gyfer y fferm.

Ni fyddai'r tir yma yn ffynnu nac yn cefnogi'r amrywiaeth o rywogaethau sydd yma oni bai am geidwaid y tir fel Dan Jones. Mae gweithio gyda'r RSPB a gweithredu strategaethau pori penodol wedi croesawu cynnydd mewn rhai rhywogaethau penodol.

Yn denu dros 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn, y Gogarth a Fferm Parc, yw'r ail atyniad naturiol yr ymwelir ag ef amlaf yn y wlad, yn agos iawn tu ôl i’r Wyddfa. Mae hynny'n rhoi cyfle gwych i Dan addysgu pobl o wahanol gefndiroedd a dangos iddynt sut mae pethau'n cael eu gwneud yma.

O ran cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, wrth ofalu am yr amgylchedd, mae ffermwyr fel Dan Jones yn arwain y ffordd ac mae’r defaid ar y bryniau'n chwarae rhan hanfodol yma, o ran sicrhau’r cyflenwad bwyd a chadwraeth.

Image
Image