Image
Busnes ffermio yng Ngheredigion yn dangos sut mae canolbwyntio ar gynaliadwyedd, arloesedd, ac ymdeimlad o gymuned yn arwain at lwyddiant.

Mae doniau cyfunol Americanes sy’n ystyried ei hun yn ferch y ddinas a ffermwr o Sir Aberteifi wedi arwain at fusnes llewyrchus iawn yng nghanol dyffryn Teifi.

Lansiwyd Chuckling Goat yn 2014 pan ymunodd y cyn-gyflwynydd radio o Dexas, Shann Nix-Jones â’r ffermwr o Gymru, Richard Jones, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn ei fferm 25 acer ger Brynhoffnant, Llandysul, i gynhyrchu kefir o laeth geifr.

Mae’r cwmni’n rhoi pwyslais ar gyflogi teulu a phobl leol, gyda nifer ohonynt yn dod yno’n syth o’r ysgol ac yn dod yn rhan o’r teulu estynedig, y cyfan gyda’r bwriad o wella’r economi leol.

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd Chuckling Goat; ar lefel bersonol ac ar lefel ehangach. O’r 24 o staff sy’n gweithio i’r cwmni, mae nifer yn dod o deulu Richard.

Erbyn hyn mae’r cwmni’n fenter ffyniannus sydd â chwsmeriaid ledled y byd. Ond er gwaetha’r demtasiwn amlwg i symud i uned ddiwydiannol sy’n nes at y seilwaith trafnidiaeth, mae’r cwpl wedi ymwrthod â hynny er mwyn datblygu eu gallu i brosesu ar y fferm wreiddiol.

Mae cynaliadwyedd a datblygu mewn harmoni â’r tir a’r amgylchedd wrth galon holl waith y cwmni. Mae’r Jonesiaid yn falch o’r ffaith bod y adeilad lle cynhyrchir y kefir, wedi’i suddo i’r ddaear ac wedi’i amgylchynu â thros 2,000 o goed, fel ei fod bron yn diflannu i’r dirwedd.

Mae hyn oll yn rhan o egwyddor arweiniol sy’n seiliedig ar werthoedd teuluol a datblygu mewn harmoni â’r drefn naturiol.

Wrth i’r cwmni – a’r elw – dyfu, felly hefyd graddfa logistaidd y broses, a bu’n rhaid i’r cwpl symud y gwaith allan o’r gegin i ysgubor a addaswyd yn arbennig, ac yn nes ymlaen i adeilad a godwyd i’r pwrpas.

Ar wythnosau prysur maen nhw’n prosesu hyd at 10,000 o litrau o laeth gafr sy’n cyrraedd bob wythnos mewn tancer.

Mae’r teulu hefyd wedi datblygu cynnyrch gofal croen seiliedig ar kefir, sydd wedi ennill sawl gwobr, ac sy’n arbennig o effeithiol ar gyfer trin cyflyrau megis soriasis ac ecsema.

Y cyfuniad hwn o’r traddodiadol a’r arloesol sy’n caniatáu i Chuckling Goat ffynnu a symud ymlaen mewn harmoni ag anghenion yr amgylchedd.

Nawr mae'r cwpl eisiau ehangu eu canfyddiadau ynglŷn ag iechyd y perfedd, ac ar hyn o bryd maent yn paratoi i lansio ei Prawf Microbiome yn 2022, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caergrawnt.

Hefyd, mae gan y cwpl fenter arloesol arall o’r enw Ana’s Farmacy, sy’n anelu at gynhyrchu bwyd meddygol therapiwtig sy’n lleol, yn gynaliadwy, ac yn iachus i’r perfedd.

Felly yr ethos yma yw - mae’n rhaid iddo fod yn dda o’r ddaear i fyny. Yn dda i’r microbau yn y pridd, yn dda i blanhigion, yn dda i anifeiliaid, pobl, y gymuned, cwsmeriaid a’r blaned.

Dyma fusnes sy’n profi y gallwch chi wneud yn dda, drwy wneud daioni.

Image
Image