Bob blwyddyn mae'r FUW a'i haelodau'n codi swm mawr o arian i elusennau enwebedig ein Llywydd. Eleni rydym yn falch o gefnogi DPJ Foundation.

Yr elusennau

Sefydlwyd DPJ Foundation ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth Daniel Picton-Jones. Nod y sefydliad yw cefnogi pobl mewn cymunedau gwledig sydd ag iechyd meddwl gwael, yn enwedig dynion yn y sector amaethyddol. Y sector amaethyddol sydd ac un o’r cyfraddau uchaf o hunanladdiad a gydag iechyd meddwl yn broblem mor fawr ar draws cymdeithas, y nod yw anelu at chwalu'r stigma sy'n amgylchynu iechyd meddwl a darparu gwasanaethau cymorth i'r rhai hynny mewn cymunedau gwledig.

Mae ffermio yn yrfa wych sy’n rhoi budd enfawr i'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector. Fodd bynnag, mae'n yrfa sy'n dod â phwysau enfawr, unigedd a straen dyddiol.

 

Gadewch i ni gofio bod 16.7% o’r boblogaeth wedi meddwl am hunanladdiad ac yn 2014 bu farw 6,581 trwy hunanladdiad yn y DU, dair gwaith a hanner cymaint ag ar ffyrdd y DU.

Dyna pam mae gwaith DPJ Foundation mor bwysig ac rydym yn gyffrous am gefnogi eu hymdrechion dros y 2 flynedd nesaf.

 

 

 

 

Os yw eich nawdd ar gyfer person neu ymgyrch penodol, rhowch eu manylion yma (dewisol), yna cliciwch y botwm rhodd isod

Person y mae'r rhodd ar ei gyfer Ymgyrch