Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi tynnu sylw at amrywiaeth o faterion sy’n wynebu’r gymuned ffermio, a allai, pe na baent yn cael sylw, fod yn storm berffaith i iechyd meddwl ffermwyr.
Mewn cyfarfod rhithwir gyda’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan, trafododd swyddogion yr Undeb sut mae’r cyfuniad o ansicrwydd Brexit, Covid-19 a pholisïau ffermio arfaethedig newydd yn rhoi pwysau aruthrol ar ffermwyr a’u hiechyd meddwl.
Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Cawsom gyfarfod da iawn gydag Eluned Morgan a chodwyd llawer o faterion perthnasol sy’n chwarae ar feddwl ein ffermwyr. Fel y gwyddom i gyd, mae yna broblemau helaeth ar ffermydd a gellir mynd i’r afael â rhai trwy siarad amdanynt, mae eraill fodd bynnag yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru i ail-werthuso eu polisïau amaethyddol presennol a’r rhai yn y dyfodol. ”
Dywedodd Mr Roberts fod y perygl ar ddod o fewnforion is-safonol yn cynyddu oherwydd cytundebau masnach newydd, cynlluniau cymhorthdal newydd sy'n methu â mynd i'r afael yn benodol â ffyniant economaidd cymunedau gwledig, y diffyg paratoi ar gyfer senario Brexit heb gytundeb ym mhorthladdoedd Cymru ac mewn ardaloedd eraill, effaith gyflym y pandemig coronafirws ar gadwyni cyflenwi byd-eang a hefyd y defnydd cynyddol o fynediad cyhoeddus sydd wedi achosi ystod eang o broblemau i'n haelodau, ac oll yn ychwanegu at y storm berffaith gynyddol.