UAC yn cyflwyno opsiynau eraill yn hytrach na difa ar y fferm i’r Grŵp Cynghori Technegol newydd ar TB Gwartheg

Yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf (15 Ebrill), cwrddodd y Grŵp Cynghori Technegol hirddisgwyliedig ar BT Gwartheg  am y tro cyntaf, gyda’r Athro G Hewinson, Cadair Sêr Cymru yng Nghanolfan Rhagoriaeth TB Cymru, yn arwain y grŵp.

UAC yn tynnu sylw at yr heriau yn ystod Uwchgynhadledd Weinidogol ar dywydd eithafol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi tynnu sylw at yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu oherwydd y tywydd gwlyb, a galwodd yr Undeb am ymyriadau posib yn ystod uwchgynhadledd a gynhaliwyd yn ddiweddar (19 Ebrill).

Wedi’i threfnu gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS

UAC yn cwrdd â’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig newydd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cwrdd â Phrif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd newydd, Huw Irranca-Davies, i drafod dyfodol y diwydiant amaeth.

Mae UAC yn croesawu’r cyfle cynnar hwn i amlinellu’r heriau presennol sy’n ein hwynebu fel diwydiant ac i drafod y camau nesaf posibl gyda’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet newydd yn dilyn cais gan UAC am gyfarfod brys.

UAC yn cyflwyno achos cryf dros ailfeddwl y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gerbron Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd

Yn ddiweddar (21 Mawrth) mi ddarparodd Undeb Amaethwyr Cymru dystiolaeth lafar fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gyflwyno achos cryf dros yr angen i ailfeddwl y cynigion presennol.

Huw Irranca-Davies AS yn ymgymryd â’r portffolio Materion Gwledig ar adeg allweddol i’r diwydiant, medd UAC

Wrth i Brif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething AS gyhoeddi ei Gabinet Seneddol newydd, datgelwyd mai Huw Irranca-Davies AS sydd wedi’i benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Mewn llythyr a anfonwyd at yr Ysgrifennydd newydd, dywedodd UAC – Yn gyntaf, hoffai UAC longyfarch Huw Irranca-Davies ar gael ei benodi’n Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. 

Crynodeb o Newyddion Ebrill 2024

Diogelwch y cyflenwad bwyd yn debygol o fod yn brif flaenoriaeth i’r UE o 2024-2029

Mae copi drafft a ddatgelwyd heb ganiatâd o Agenda Strategol yr UE, sy’n amlinellu blaenoriaethau’r UE ar gyfer 2024-2029 wedi gosod diogelwch y cyflenwad bwyd fel blaenoriaeth o ran polisi amaethyddol.

Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru’n lansio ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru wedi lansio ymgyrch o’r enw Doeth i Danau Gwyllt, sy’n anelu at addysgu unigolion ar yr arferion gorau i osgoi ac atal tanau gwyllt yng Nghymru.  Mae’r Bwrdd am weithio gyda chymunedau i adeiladu cefn gwlad iachach a mwy cydnerth, a datblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer y dyfodol.

Prosiect i gofio standiau llaeth Sir Gâr

Mae prosiect ar droed yn Sir Gâr y Gwanwyn hwn i dynnu lluniau a mapio’r holl standiau llaeth sydd wedi goroesi yn y sir.  Mae Anthony Rees, mewn cydweithrediad â Chlybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr, yn ymgymryd â’r prosiect ac yn gofyn am help gyda’r canlynol:

Cyswllt Ffermio’n cynnig 17 o gyrsiau hyfforddiant newydd

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi bod 17 o gyrsiau hyfforddiant newydd wedi’u hychwanegu at eu rhaglen hyfforddiant o fis Ebrill.  Mae 120 o gyrsiau ar gael bellach, gyda chymhorthdal o hyd at 80% i unigolion sydd wedi cofrestru.

Un o’r cyrsiau newydd sydd ar gael erbyn hyn yw BASIS FACTS – Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr Gwrtaith

Yr wybodaeth ddiweddaraf am ofynion cofrestru gorfodol newydd ar gyfer ceidwaid adar

Cafodd mesurau newydd yn gofyn bod ceidwaid adar yn cofrestru eu hadar yn swyddogol, beth bynnag yw maint eu haid, eu cyhoeddi ar 19 Mawrth 2024. 

Ar hyn o bryd, dim ond ceidwaid gyda mwy na 50 o adar sy’n gorfod cofrestru eu haid. 

Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol o 1af Ebrill 2024

O 1af Ebrill 2024 cafodd Gorchymyn Cyflog Amaethyddol (Cymru) 2023 ei ddisodli gan Orchymyn 2024, gyda newidiadau’n dod i rym. 

O 1af Ebrill:

  •   Mae’r cyfraddau tâl isaf ar gyfer pob gradd o weithiwr wedi cynyddu. 
  •   Mae’r holl lwfansau (gan gynnwys lwfansau cŵn) wedi cynyddu 8.5%.
  • Bellach mae’r gyfradd am oramser yn 1.5 gwaith cyfradd fesul awr go iawn gweithiwr amaethyddol, yn hytrach na’r gyfradd fesul awr berthnasol ar gyfer gweithiwr amaethyddol.

Galw ar Ddiedyll yng Nghymru i ymuno â’r prosiect geneteg RamCompare

Mae prawf hiliogaeth mwyaf blaenllaw y DU ar gyfer bridio hyrddod da i gynhyrchu ŵyn, sef RamCompare, wrthi’n galw ar ffermydd defaid masnachol ledled Cymru i ymuno â’r prosiect, i gefnogi ei ymgyrch i wella geneteg defaid ledled y wlad.

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Ebrill 2024

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Ebrill 2024

Ymateb UAC i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n mynegi pryderon am faint y newid sydd ei angen o fewn y ffrâm amser

Mae ymateb Undeb Amaethwyr Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy:  ‘Cadw Ffermwyr i Ffermio’ wedi mynegi pryder am faint y newid sydd ei angen i sicrhau bod y cynllun yn addas i’r diben o fewn yr amser sydd ar gael.

Lluniwyd ymateb yr Undeb yn dilyn trafodaethau ag aelodau a chynrychiolwyr y sector yn ystod 13 o gyfarfodydd rhanbarthol a gynhaliwyd ledled Cymru.

UAC yn cwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig i drafod manylion pellach y datganiad diweddar ar ffermio yng Nghymru

Cafodd Undeb Amaethwyr Cymru gyfarfod dilynol â’r Gweinidog Materion Gwledig, cynrychiolydd Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths ar 4ydd Mawrth, i drafod manylion pellach y datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Roedd y datganiad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Lesley Griffiths, a gyhoeddwyd ar 27ain Chwefror, yn amlinellu camau nesaf mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), yn ogystal ag ailadrodd sylwadau ynghylch TB Gwartheg a rheoliadau NVZ Rheoli Llygredd Amaethyddol.

Hanes yn ailadrodd ei hun medd UAC wrth i’r Senedd wrthod dau gynnig amaethyddol

Yn dilyn protest gan filoedd o ffermwyr a staff busnesau cysylltiedig ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd ar 28 Chwefror, aeth y Senedd yn ei blaen i drafod a gwrthod dau gynnig ar bolisïau’n ymwneud â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a TB Gwartheg.

Roedd cynnig Ceidwadwyr Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu cynigion presennol y cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â’r sector amaethyddol i ddatblygu cynllun newydd sy’n cael ei gefnogi gan y gymuned ffermio.

Cyhoeddiad LlC ar y Cynllun Ffermio a phrotest ffermwyr ger y Senedd

Mae’n galondid gweld bod o leiaf rhai camau eisoes yn cael eu hystyried o gyhoeddiad y Gweinidog Materion Gwledig (27 Chwefror) ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Mynegodd UAC deimladau ei haelodau yn gwbl glir yn ystod y cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru (19 Chwefror).  Yn y cyfarfod hwnnw galwodd UAC am ailfeddwl y cynigion SFS presennol ac am fwy o gydweithio ar y newidiadau sydd eu hangen i’r cynllun, mewn cydweithrediad â phartïon a chanddynt fuddiant a’r ddwy undeb amaethyddol.

Diffyg ystyriaeth i denantiaid a newydd-ddyfodiaid o fewn y cynigion SFS yn destun pryder, medd Tîm Polisi Llywyddol UAC

Roedd diffyg ystyriaeth i ffermwyr tenant a chymorth priodol i newydd-ddyfodiaid yn rhai o’r pryderon allweddol a fynegwyd gan Dîm Polisi Llywyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llanfair-ym-muallt.

Hwn oedd y cyfarfod ffurfiol terfynol a gynhaliwyd gan UAC i drafod yr adborth cyntaf a dderbyniwyd gan dros 1,500 o ffermwyr mewn cyfarfodydd sirol lleol ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf.  Bydd yn cael ei ddefnyddio i lunio ymateb terfynol yr Undeb i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Crynodeb o Newyddion Mawrth 2024

Allforion cig defaid Cymru’n cynyddu yn 2023

Mae data newydd CThEF yn dangos bod allforion cig defaid wedi parhau i gynyddu yn 2023.  Amcangyfrifir bod cyfanswm maint y cig defaid a allforir o Gymru wedi cyrraedd bron i 30,500 o dunelli, sef cynnydd o 12% ar gyfer y flwyddyn, tra bod y cyfanswm gwerth wedi bwrw £190.9 miliwn, sef cynnydd o 10% ar gyfer y flwyddyn.

Academi Amaeth ar agor ar gyfer ceisiadau

Mae ffenestr ymgeisio Academi Amaeth 2024 ar agor bellach.  Mae’r Academi Amaeth yn darparu rhaglen o hyfforddiant, mentora, cymorth ac arweiniad dros dair sesiwn breswyl ddwys a sesiynau rhithiol ychwanegol.

Mae dwy Academi wahanol:

Arolwg traethawd hir

Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth wrthi’n ysgrifennu traethawd hir ar ‘Astudiaeth yn dangos gallu ffermydd Cymru i oroesi gyda, neu heb gymorthdaliadau gan y llywodraeth ac effeithiau posibl y newidiadau sydd i ddod i Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)’.

Mae’r myfyriwr wedi creu holiadur i ffermwyr yn y DU ac mae’n gobeithio cael gymaint o ymatebion â phosib.

Cynnydd o 4.2% yn yr Ardoll Cig Coch

Mae Hybu Cig Cymru wedi cyhoeddi y bydd cynnydd o 4.2% yn yr ardoll cig coch a delir gan gynhyrchwyr a lladd-dai yng Nghymru o Ebrill 2024.   Cafodd cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru eu cynyddu yn Ebrill 2023, a chyflwynwyd mecanwaith i gysylltu cynnydd mewn ardoll yn y dyfodol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, yn cynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH).

Cofrestrau Da Byw ar gael

Os ydych chi’n cadw da byw ar eich daliad, rhaid ichi gadw cofrestr ar gyfer pob rhywogaeth ar bob un o’ch daliadau (CPH).

Mae cofrestrau ar gael yn ddigidol neu gallwch argraffu copi.  Gellir lawr lwytho copïau digidol o’r dolenni isod ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau taliadau BPS 2024

Eleni, gwneir taliad BPS ymlaen llaw o 70% o werth amcangyfrifedig yr hawliad, o 14 Hydref 2024, yn amodol ar gymhwysedd a chyn belled â bod yr holl ddogfennau angenrheidiol wedi’u derbyn.  Gwneir gweddill y taliadau o 12 Rhagfyr 2024

Gweithlyfrau Digidol y Cynllun Rheoli Maethynnau

Mae gweithlyfr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a fydd yn eich helpu i fodloni gofynion cadw cofnodion y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

I gynorthwyo gyda gofynion y Cynllun Rheoli Maethynnau mae’r gweithlyfr ar gael ar

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Mawrth 2024

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Mawrth 2024

UAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl y Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy gyd-ddylunio ystyrlon yn ystod trafodaethau brys

Yn ystod trafodaethau brys a gynhaliwyd ar 19 Ionawr gyda’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths a’i swyddogion, galwodd Undeb Amaethwyr Cymru am ailfeddwl y cynigion drwy gyd-ddylunio o ddifrif.

Mae UAC yn deall cryfder teimladau a rhwystredigaeth bresennol ei haelodau.  Mynegodd UAC y pryderon dwfn hyn a’r dicter a deimlir gan yr aelodau a’r gymuned wledig ehangach i’r Gweinidog yn gwbl ddi-flewyn ar dafod.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n iawn, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu at ei holl aelodau, gan annog unigolion a busnesau i ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) Llywodraeth Cymru a lleisio’u barn. 

Does ond angen edrych ar ystadegau’r Arolwg Busnes Fferm i ddeall arwyddocâd cyllid amaethyddol a datblygu gwledig i’n cadwyni cyflenwi bwyd a’r economi wledig ehangach.

Cyhoeddiad am gymorth i ffermwyr yr Alban yn tanlinellu pa mor naïf yw cynlluniau Cymru, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn dweud bod cadarnhad Llywodraeth yr Alban y bydd cymorth uniongyrchol i ffermwyr yn parhau ar gyfer ucheldiroedd yr Alban yn amlygu diffygion sylfaenol cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yma yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Humza Yousaf wrth NFU Scotland yn ystod cynhadledd y gwanwyn ar 9fed Chwefror y bydd 70% o’r cymorth yn y dyfodol ar ffurf taliadau fferm uniongyrchol, i gefnogi cynhyrchwyr bwyd.  Bydd y 30% arall wedi’i dargedu ar fesurau amgylcheddol, sef cymhareb debyg i drefniadau presennol yr Alban.

Wythnos frecwast UAC yn codi dros £17,000 i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi codi £17,509 i Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod ei hwythnos brecwast ffermdy flynyddol yn Ionawr (15 – 21 Ionawr 2024).

Cynhaliwyd dros 35 o ddigwyddiadau ledled Cymru, gydag aelodau a gwleidyddion fel ei gilydd yn mwynhau’r cynnyrch brecwast blasus, maethlon a chynaliadwy oedd ar gael, tra’n trafod y materion ffermio diweddaraf gyda staff a swyddogion UAC ar yr un pryd.

Crynodeb o’r Newyddion Chwefror 2024

Gwrthwynebu cynllun i symud gwiriadau bwyd o Dover

Mae cynlluniau gan Lywodraeth y DU i symud gwiriadau ar fwydydd all fod beryglus sy’n cyrraedd y DU, a gynhelir ar hyn o bryd ym mhorthladd fferïau bwysicaf y DU yn Dover, i gyfleuster yn Sevington, 22 milltir i ffwrdd, wedi cael eu beirniadu’n hallt.

Feirws Schmallenberg (SBV) dinistriol yn bwrw ŵyn cynnar

Mae nifer yr achosion o’r feirws Schmallenberg (SBV) wedi bod yn cynyddu ledled y DU.  Mae SBV yn glefyd feirysol sy’n effeithio ar wartheg, defaid a geifr, a gafodd ei ganfod am y tro cyntaf yn Awst 2011 yn yr Almaen.  Yn y 6 wythnos hyd at Ionawr 2024, cadarnhaodd APHA (Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) 63 o achosion o SBV, y mwyafrif ohonynt mewn ŵyn marw-anedig.

Cynlluniau Coetir – Ffenestri Ymgeisio

Yn 2024, mae yna drefn newydd i’r Grant Creu Coetir.  Dim ond un ffenestr fydd ar agor o 4 Mawrth 2024 i 22 Tachwedd 2024, neu nes bod y gyllideb wedi’i dyrannu.  Bydd Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir yn parhau i fod â nifer o ffenestri trwy gydol y flwyddyn:

Llacio Cyfyngiadau BTV yn Ystod y Cyfnod Fector Isel Tymhorol

Ar hyn o bryd mae hi’n ‘gyfnod fector isel tymhorol’  ym Mhrydain o ran BTV3, ac mae hyn wedi arwain at newidiadau yn y mesurau rheoli sydd ar waith, ac at lacio cyfyngiadau rheoli BTV dros dro o fewn Parthau Rheoli Dros Dro (TCZ) Caint a Norfolk.

Y ‘cyfnod fector isel’ yw’r cyfnod pan fydd y gwybed sy’n trosglwyddo’r clefyd yn llai prysur oherwydd yr amodau tywydd presennol. 

Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2024

Bydd y ffurflen SAF ar-lein ar gael ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW Ar-lein) ar 4 Mawrth 2024.

Bydd y cais ar gyfer hawlio Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), Cynllun Cynefin Cymru, Cymorth Organig, y Cynllun Troi’n Organig, a thaliadau premiwm a chynnal a chadw creu coetir.

Ymgyrch Ffermio HSE

Mae HSE (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) yn rhedeg ymgyrch o’r enw ‘Work Right Agriculture. Your farm. Your future’.

Mae ymgyrch ddiweddaraf yr Awdurdod yn darparu cyngor ar weithio’n ddiogel gyda da byw, yn ogystal â chynghorion syml ar ddefnyddio cerbydau, i helpu i gadw pawb ar y fferm yn ddiogel.

Y Diweddaraf am Ffliw Adar

O 16 Chwefror 2024, caniateir crynoadau o’r holl ddofednod ac adar caeth, ac eithrio adar Anseriforme (hwyaid, gwyddau, elyrch), ar yr amod eich bod yn:

  • bodloni gofynion y drwydded gyffredinol crynoadau dofednod neu'r drwydded gyffredinol ar gyfer crynoadau adar caeth 
  • rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am y crynhoad o leiaf 7 diwrnod cyn y digwyddiad

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Chwefror 2024

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Chwefror 2024

Neges Blwyddyn Newydd

Mae 2024 yn argoeli i fod yn flwyddyn hynod bwysig, nid yn unig i amaethyddiaeth yng Nghymru, wrth i UAC gymryd rhan yn ymgynghoriad terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ond ar draws y byd gwleidyddol, gydag Etholiad Cyffredinol ar y gorwel.  Byddwn hefyd yn cael Prif Weinidog newydd, gyda’r Blaid Lafur yma yng Nghymru ar fin cynnal etholiad i ddewis arweinydd newydd, yn dilyn penderfyniad Mark Drakeford i gyhoeddi ei ymddeoliad.

Cwtogi ar y gyllideb materion gwledig yn ergyd fawr i’r diwydiant, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb yn feirniadol i’r newyddion bod y gyllideb Materion Gwledig ddrafft wedi’i chwtogi 13%.

Wrth gyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 datgelwyd y bydd yna gwtogi o £62 miliwn, sef tua 13%, ar y cyfanswm cyllid ar gyfer materion gwledig, o’i gymharu â chyllideb derfynol 2023-24 fel y’i cyhoeddwyd yn Chwefror, i helpu i fynd i’r afael â’r diffyg o tua £1.3 biliwn.

Data dethol yn celu realiti TB Gwartheg medd UAC

Mae’r realiti o ran TB gwartheg ar ffermydd yng Nghymru’n cael ei gamddarlunio am fod Llywodraeth Cymru’n dethol y data a adroddir, medd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).

Mae’n dod yn sgil datganiad gan y gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths yn dweud bod y tueddiadau hirdymor yn dangos bod llai o fuchesi wedi’u heffeithio, a llai o achosion newydd ledled Cymru.

UAC yn croesawu taliadau cymorth mawr eu hangen ar gynhyrchwyr organig yng Nghymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd taliadau cymorth ar gael i’r holl gynhyrchwyr organig sydd wedi’u hardystio’n llawn yng Nghymru eleni, gan ddarparu sicrwydd sydd ei wirioneddol angen ar y sector.

Mae hwn yn newyddion da i’r sector organig yng Nghymru ar ôl i’r Cynllun Glastir Organig ddod i ben, ac yn enwedig i’r rhai sy’n parhau i wynebu pwysau yn sgil chwyddiant.

Mae ffermydd yng Nghymru’n hanfodol i hyrwyddo twf economaidd – medd UAC dros frecwast yng Nghaerdydd

Mae ffermydd yng Nghymru’n hanfodol i hyrwyddo twf economaidd y wlad – dyna oedd neges allweddol Undeb Amaethwyr Cymru wrth annerch Aelodau’r Senedd yn ystod y digwyddiad brecwast blynyddol yng Nghaerdydd (Dydd Mawrth 16 Chwefror 2024).

Mae’n bwysicach nag erioed erbyn hyn bod gwleidyddion a llunwyr polisïau yn deall yn llwyr y rôl economaidd a chwaraeir gan gymorth i ffermwyr o fewn cyd-destun ein heconomi wledig, a’r rôl hanfodol y mae ffermydd yn ei chwarae yn hyrwyddo twf economaidd.

UAC yn rhedeg sioe deithiol i aelodau ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mewn ymdrech i ymgysylltu â ffermwyr yng Nghymru ynghylch cynigion terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Undeb Amaethwyr Cymru’n rhedeg sioe deithiol i roi gwybodaeth i aelodau yn ystod Ionawr a Chwefror.

Lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgynghoriad terfynol ar ddyfodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn Rhagfyr 2023, sef y mecanwaith a ddefnyddir i ddarparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025 ymlaen.

Rhaid i’r SFS osgoi effaith debyg i un cwmni dur TATA ar y gymuned wledig

Yn dilyn y newyddion trychinebus bod cwmni dur TATA’n bwriadu cau ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething wrth raglen Today  Radio 4:  “Whilst change is required, this is … about jobs ...about steel being a sovereign asset …about whether this really will reduce emissions if you’ve still got to have blast furnace steel produced in another part of the world…my worry is that we could have a plan today that transfers Welsh workers’ jobs and Welsh emissions to another part of the world…[UK Government] need to recognise that if Levelling Up ever meant anything, it surely cannot mean the loss of 2,500 direct well paid jobs, many more within the wider economy.” 

Crynodeb o’r Newyddion Ionawr 2024

Ffermwyr yn yr Almaen yn protestio ynghylch cwtogi ar gymorthdaliadau

Mae ffermwyr yn yr Almaen wedi bod yn protestio ers nifer o wythnosau yn erbyn bwriad llywodraeth yr Almaen i leihau cymorthdaliadau.  Mae gan lywodraeth yr Almaen fwlch o €17 biliwn yn ei chyllideb ac mae wedi penderfynu lleihau cymorthdaliadau i ffermwyr fel un o’i mesurau i fantoli’r cyfrifon. 

Mae ffermwyr yn dweud y byddai cymryd cam o’r fath yn eu rhoi mewn trafferth ariannol. 

Taliadau Ffermio Organig yn 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna daliadau cymorth ar gyfer ffermwyr organig sydd wedi’u hardystio’n llawn yn 2024.

Bydd y Taliad Cymorth Organig yn rhoi cymorth i ffermwyr organig sydd wedi'u hardystio'n llawn yn ystod y cyfnod pontio cyn gweithredu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Dull Rheoli Maethynnau Uwch – Cynlluniau ar gyfer Ffermwyr a Thirfeddianwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar y Dull Rheoli Maethynnau Uwch.  Mae’r canllawiau’n rhan o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

Mae’r Dull Rheoli Maethynnau Uwch yn gynllun blwyddyn i ganiatáu defnyddio cyfradd uwch o nitrogen o dail da byw sy'n pori.

Cyfle i dyfwyr llysiau yng Ngogledd Powys

Mae Tyfu Dyfi yn chwilio am ffermwyr yng Ngogledd Powys sydd â diddordeb mewn tyfu caeau o lysiau gan ddefnyddio dulliau amaeth-ecolegol, i’w bwyta’n lleol.

Ar hyn o bryd mae Tyfu Dyfi’n gwerthu meintiau sylweddol drwy gynlluniau bocsys llysiau ac ar-lein, OND maent yn gorfod prynu peth cynnyrch, megis tatws, bresych, moron, panas ac ati gan gyfanwerthwyr i gwrdd â’r galw.

Canllawiau Dyddiadur Gwaith Cynllun Cynefin Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer y rhai sy’n ymuno â’r Cynllun Cynefin yn 2024.

Bydd gofyn i’r rhai sy’n rhan o’r cynllun i gadw dyddiadur gwaith ar gyfer pob parsel o dir sydd wedi’i gynnwys yn y contract fel tir cynefin neu laswelltir parhaol cymwys sy’n cael ei reoli fel tir cynefin.