Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) unwaith eto yn paratoi ar gyfer un o’i ddigwyddiadau allweddol - yr wythnos frecwast ffermdy blynyddol, a fydd yn cael ei chynnal o ddydd Llun 18 i ddydd Sul 24 Ionawr 2021.
O dan amgylchiadau arferol byddai UAC yn edrych ymlaen at eistedd o amgylch byrddau cegin gyda ffrindiau, teulu a chymdogion ledled y wlad - gan rannu ein syniadau, pryderon, ac unrhyw beth arall sydd ar ein meddwl. Wrth gwrs, o ystyried y cyfyngiadau Covid-19 cyfredol, yn anffodus, nid yw ein ffordd arferol o gynnal yr ymgyrch hon yn ddewis.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae'r ethos o eistedd o amgylch bwrdd y gegin i fwynhau'r cynnyrch gwych mae ein ffermwyr yn ei gynhyrchu, o wyau, caws, bacwn, selsig i fenyn ac iogyrtiau ac ati, yn bosib gartref gyda'n teulu agosaf.”
Mae'r Undeb felly'n annog y cyhoedd i gymryd rhan yn yr wythnos frecwast trwy brynu cynhwysion brecwast o ffynonellau lleol, a rhannu lluniau a fideos ohonyn nhw eu hunain â'u brecwast trwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnod #wythnosbrecwast2021