Cafodd yr angen i ddelio ar frys â TB ledled Cymru ei drafod yn frwd gan bwyllgor iechyd a lles anifeiliaid Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mewn cyfarfod rhithwir diweddar cyn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.
Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd Ian Lloyd, cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid UAC: “Mae'n adlewyrchiad trist o'r problemau parhaus a achosir gan TB bod y clefyd yn dal i haeddu trafodaethau mor fanwl. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud ers 2009 mewn perthynas â'r nifer o fuchesi ag achosion newydd o TB, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 9,762 o anifeiliaid wedi'u lladd yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2020 yng Nghymru."
Amlygodd Mr Lloyd, er bod hyn 20 y cant yn is na'r ffigwr uchaf erioed o 12,256 o anifeiliaid a laddwyd yn 2019, mae'r data diweddaraf yn dangos cyfraddau ar oddeutu 30 y cant o achosion TB caeedig yn ailddigwydd eto o fewn y cyfnod 2 flynedd ddilynol, gan ddangos nad yw'r clefyd yn cael ei reoli'n effeithiol o dan y mesurau cyfredol.
“Er ein bod yn cefnogi mesurau fel profion TB blynyddol a chyn-symud yn gyffredinol, mae cryn bryder yn bodoli ynghylch cymesuredd rhai mesurau a’r cyfyngiadau economaidd difrifol y maent yn eu gosod ar ffermydd,” meddai Mr Lloyd.