UAC yn croesawu cynnydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) - ond yn dweud bod y cynllun mewn cyfnod dylunio hollbwysig

UAC yn croesawu cynnydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) - ond yn dweud bod y cynllun mewn cyfnod dylunio hollbwysig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu'r cynnydd a wnaed wrth ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) - ond yn dweud bod y cynllun mewn cyfnod tyngedfennol a fydd yn penderfynu a yw'n addas i'r diben neu'n creu rhwystrau mawr i'r diwydiant ac yn eithrio nifer fawr o ffermwyr.

Mewn datganiad a wnaed i’r Senedd ar 11 Gorffennaf, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths fod tri adroddiad wedi’u cyhoeddi – dau yn manylu ar ganfyddiadau’r broses o ‘gyd-ddylunio’, ac un yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru – gan ddweud wrth y Senedd y byddai dull graddol o gyflwyno’r cynllun newydd o 2025 yn cael ei ystyried er mwyn osgoi newidiadau ar raddfa fawr ar unwaith.

Croesawodd Llywydd UAC Ian Rickman y cynnydd a wnaed, gan ddweud:

“Y peth pwysicaf yw sicrhau bod y cynllun hwn yn hygyrch ac yn gweithio i bob fferm. Mae hynny’n cynnwys y cyfnod pontio i’r cynllun felly mae unrhyw gamau a gymerir i wneud y broses honno’n rhwyddach i ffermwyr i’w croesawu.”

Dywedodd Mr Rickman fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i lawer o alwadau UAC yn ei hymateb i gynigion Gorffennaf 2022, gan gynnwys yr angen am gyflwyniad graddol, hyblygrwydd o ran targedau a defnyddio technoleg i osgoi bod yr ‘adolygiad o gynefinoedd’, sy’n ofynnol wrth ymuno â'r cynllun, yn amhosibl ei gyflawni ac yn rhy ddrud.

“Fodd bynnag, mae’r cynllun mewn cyfnod tyngedfennol o ran a yw cynnydd pellach dros y misoedd nesaf yn arwain at gynllun sy’n ymarferol ac sy’n sicrhau cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, neu a oes yna rwystrau mawr sy’n gwneud y cynllun yn anymarferol i nifer fawr o ffermydd ac yn tanseilio cynhyrchiant bwyd Cymru,” meddai Mr Rickman.

Yn ei hymateb, cydnabyddodd Llywodraeth Cymru y bydd angen hyblygrwydd o ran y gofyniad o 10% gorchudd coed y bu llawer o sôn amdano, gan nodi bod ardaloedd sy’n anaddas ar gyfer plannu coed, ac sy’n cael eu hystyried i’w heithrio o gyfanswm yr arwynebedd a ddefnyddir i gyfrifo’r 10% yn cynnwys cynefinoedd lled-naturiol amhriodol presennol, gan gynnwys safleoedd dynodedig, mawn dwfn; nodweddion na ellir eu plannu fel sgri a brigiadau craig a thir â thenantiaid lle nad oes gan denantiaid yr awdurdod i blannu coed.

“Mae hyn yn nodi cynnydd i’w groesawu sy’n adlewyrchu’r pryderon yr ydym wedi’u hamlygu o’r cychwyn, ond mae angen consesiynau pellach os ydym am osgoi plannu coed ar dir amaethyddol sy’n bwysig ar gyfer cynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd busnesau fferm unigol.

“Rydym wedi bod yn glir o’r cychwyn bod yn rhaid ystyried cynhyrchiant bwyd a hyfywedd economaidd yn gyfartal ac agweddau amgylcheddol y cynllun hwn.”

Mae cynigion eraill a gyhoeddwyd yn cynnwys defnyddio RPW Ar-lein i gwblhau’r adolygiad llinell sylfaen o gynefinoedd – dull y mae UAC wedi’i gefnogi ers tro, gan amlygu y dylid gwneud llawer mwy o ddefnydd o ddata a gasglwyd o ffermydd eisoes.

Clywodd y Senedd hefyd y byddai’r ymgynghoriad terfynol, a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni, yn cynnwys methodoleg talu. Bydd hyn yn galonogol i lawer o ffermwyr wrth i gyfnod pontio’r cynllun agosáu.

“Er bod hyn i’w groesawu, mae’n hanfodol bod unrhyw fethodoleg talu a chyfraddau a gyhoeddir yn gynigion gwirioneddol, yn hytrach na’n rhai terfynol, fel y gellir eu cywiro.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru anrhydeddu ei hymrwymiad i gynnal modelu manwl er mwyn ymchwilio i effeithiau economaidd o fethodolegau talu a threthi posibl ar fusnesau fferm, sectorau a rhanbarthau, a defnyddio’r wybodaeth honno i wneud mân newidiadau mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr ffermio – fel sydd wedi digwydd gyda’r diwygiadau blaenorol.

“Mae hefyd yn hanfodol bod y gyfran o’r gyllideb a ddyrennir i’r taliad sylfaenol yn adlewyrchu’r hyn sy’n mynd i’r BPS ar hyn o bryd. O dan y cynigion ar gyfer gweithredoedd sylfaenol, gofynnir i ffermwyr gyfyngu ar eu busnesau a gwneud llawer mwy nag sy’n ofynnol gan ein cystadleuwyr ledled Ewrop ar hyn o bryd, ac mae ond yn iawn fod ein diwydiant yn cael ei wobrwyo’n iawn am wneud hyn,” meddai Mr Rickman.

Tynnodd Llywydd yr Undeb sylw hefyd at bryderon ynghylch sylwadau a wnaed yn adroddiad Llywodraeth Cymru a chan y gweinidog mewn perthynas â sut y gallai’r cynllun weithio ar dir comin.

“Mae’r adroddiad yn awgrymu bod y Gweithgor Tir Comin eisiau gweld cyllid ar gyfer tiroedd comin yn cael ei eithrio o’r taliadau sylfaenol a’i gefnogi’n gyfan gwbl drwy haen gydweithredol SFS.

“Nid yw hyn yn wir – mae aelodau’r Gweithgor Tir Comin sy’n cynrychioli’r mwyafrif o gominwyr Cymru wedi pwysleisio dro ar ôl tro ei bod yn hanfodol bod tir comin yn cael mynediad awtomatig at y taliadau sylfaenol.

“Mae tua 2,000 o deuluoedd ffermio yng Nghymru yn dibynnu ar dir comin am 25% neu fwy o’u taliad BPS presennol, a byddai eithrio cominwyr rhag cael taliadau sylfaenol yn wahaniaethol ac yn achosi problemau economaidd sylweddol, yn enwedig mewn cymunedau lle mae niferoedd sylweddol o diroedd comin neu gominwyr, ac mae cael mynediad at gytundebau cydweithredol cymhleth yn her neu’n amhosibl,” ychwanegodd.

Dywedodd Mr Rickman ei fod yn croesawu’r ffaith bod cymaint o adborth UAC wedi’i adlewyrchu yn ymateb Llywodraeth Cymru, a’i fod yn gobeithio y byddai cynnydd pellach yn cael ei wneud drwy barhau i weithio gyda’r undebau ffermio ac eraill, gan gynnwys o ran methodolegau talu, capio ac agweddau eraill ar y cynllun.

 

Diwedd