Sioc a phryder ynghylch canslo cynllun Glastir - UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi dweud y bydd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru na fydd cytundebau prif ffrwd Glastir yn cael eu hymestyn yn achosi pryderon mawr ar draws y diwydiant o ran y goblygiadau i fusnesau fferm a’r ymarferoldeb o ddylunio a chyflwyno cynllun newydd dros gyfnod o ychydig fisoedd yn unig.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener (21 Gorffennaf) na fyddai cytundebau Glastir Uwch, Tir Comin Glastir a Glastir Organig yn cael eu hymestyn y tu hwnt i fis Rhagfyr eleni, ac y byddai holl ffermwyr Cymru yn cael cynnig ymuno â chynllun fferm gyfan 12 mis yn canolbwyntio ar dir cynefin.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman:

“Ar hyn o bryd mae gan Gymru tua 3,000 o ffermydd yn y cytundebau amgylcheddol hyn a fydd nawr yn dod i ben ymhen ychydig fisoedd.

“Mae rhai o’r rheiny wedi bod mewn cytundebau o’r fath ers deng mlynedd ar hugain, a bydd pob un wedi newid eu harferion ffermio a niferoedd stoc i ymdopi â rheolau’r cynllun.

“Fel y cyfryw, bydd y cyhoeddiad hwn yn codi pryderon dybryd i filoedd o deuluoedd ffermio, nid yn unig o ran eu hyfywedd ariannol ond hefyd o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu cynllun o’r fath dros gyfnod mor fyr.”

Ar hyn o bryd mae tua 2,100 o ddeiliaid cytundeb Glastir Uwch a mwy na 450 o ddeiliaid cytundeb Glastir Organig, yn ogystal â 180 o gytundebau tir comin Glastir sy’n cynnwys nifer helaeth o gominwyr. Deellir y gallai mwy na 17,000 o ffermwyr Cymru fod yn gymwys i wneud cais am y cynllun interim newydd yr hydref hwn.

Mynegodd Mr Rickman siom sylweddol hefyd fod y diwydiant ffermio wedi ei eithrio o drafodaethau ar ganslo cytundebau Glastir a’r dylunio a chyflwyno cynllun interim newydd.

“Gyda’r holl gynlluniau blaenorol mae UAC a chynrychiolwyr allweddol eraill wedi bod yn rhan o’r broses ddylunio ers blynyddoedd, ond eto yn yr achos hwn, er ein bod wedi codi cwestiynau dro ar ôl tro ynghylch dyfodol Glastir ers mis Rhagfyr, ni fu’r fath cyd-ddylunio.”

Er bod UAC yn deall y pwysau cyllidebol ar y gyllideb datblygu gwledig, dywedodd Mr Rickman, o ystyried ymrwymiad datganedig Llywodraeth Cymru i ffermio cynaliadwy, sydd i’w ymgorffori’n fuan yn Neddf Amaethyddiaeth gyntaf Cymru, ei bod hi'n hanfodol bod y cynllun interim newydd yn cael o leiaf cymaint o gyllid â’r cynlluniau y byddai’n eu disodli.

“Rydym hefyd yn cydymdeimlo â Llywodraeth Cymru am y pwysau y mae toriadau Llywodraeth y DU i’n cyllideb ffermydd a datblygu gwledig wedi’i achosi.

“Mewn cyhoeddiadau ers mis Rhagfyr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU doriadau sy’n ychwanegu at golledion o fwy na £200 miliwn i ffermwyr Cymru a datblygu gwledig. 

“Roedd hyn yn frad llwyr o'r addewidion a wnaed yn y cyfnod cyn refferendwm Brexit a maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019, ac rydym yn parhau i ddadlau y dylai’r arian hwnnw a’n cyllidebau yn y dyfodol gael eu hadfer i’r hyn y byddent wedi bod petaem wedi parhau’n aelodau o’r UE,” ychwanegodd Mr Rickman.