Ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yw ffocws allweddol Grŵp UAC yn Sioe Frenhinol Cymru

Ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yw ffocws allweddol Grŵp UAC yn Sioe Frenhinol Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW yn edrych ymlaen at yr hyn sy’n argoeli i fod yn Sioe Frenhinol Cymru brysur (Dydd Llun 24 - Dydd Iau 27 Gorffennaf 2023) a gynhelir yn Llanelwedd. 

Bydd yr wythnos yn gyfle i grŵp UAC bwysleisio i aelodau, y cyhoedd sy’n ymweld â’r sioe a gwleidyddion pam fod ffermio’n bwysicach nag erioed a beth sydd angen ei gyflawni os am gael ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru.

Wrth siarad cyn y sioe, dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Mae’r tîm wedi gwneud gwaith ardderchog wrth drefnu rhaglen lawn o seminarau ac adloniant i bawb sy’n ymweld â’n pafiliwn – mae croeso i aelodau a rhai sydd ddim yn aelodau ymuno â’r seminarau hyn.

“Bydd amrywiaeth o drafodaethau amserol yn ein seminarau. Mae’r materion hynny, os na chânt sylw, yn mynd i effeithio ar hyfywedd a chynaliadwyedd ein ffermydd teuluol yma yng Nghymru a byddwn yn lobïo ac yn rhoi sylw i’r materion hynny drwy gydol yr wythnos.”

Mae UAC yn edrych ymlaen at groesawu Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol, yn ogystal â rhanddeiliaid o’r diwydiant i’r pafiliwn i drafod nifer o faterion ffermio sy’n cael effaith ddwys ar y diwydiant amaethyddol.

Gydag agwedd sy’n ystyriol o deuluoedd, mae UAC hefyd yn edrych ymlaen at werthu ysgytlaeth yn y Lle Llaeth ac yn edrych ymlaen at weld plant a theuluoedd yn ymweld â’r babell deuluol er mwyn iddynt gael cyfle i weld model maint llawn o fuwch UAC, Tegwen ar ei newydd wedd ac sydd wedi cael ei hailgynllunio ar sail yr arddangosfa gelf gyhoeddus enwog, CowParade; Mae bwrdd pipo newydd hefyd yn sicrhau digon o gyfleoedd i dynnu lluniau hwyliog.

Gall y rhai sy’n dod i Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru edrych ymlaen at gyfres o seminarau a grwpiau trafod, gyda’r cyfan oll yn cael eu cynnal ym mhafiliwn UAC a’u noddi gan Wasanaethau Yswiriant FUW.

Digwyddiadau sydd i’w cynnal ym mhafiliwn UAC:

Llun 24 Gorffennaf

11yb - Holi ac Ateb - Adnoddau Dŵr - Rheoliadau'r ‘NVZ’

Mae’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) ‘NVZ’ yn cael effaith ar bob ffermwr ledled Cymru mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.  Dewch i glywed gan UAC am sefyllfa ddiweddaraf y rheoliadau, cyn i gynrychiolwyr o ADAS a Kebek esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio â’r gofynion a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2023 a rheoliadau seilwaith y dyfodol, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gadeirio gan ffermwr bîff a defaid o Sir y Fflint, Tim Faire, sy’n Gadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol UAC.

Ymhlith y siaradwyr mae Gareth Parry, Uwch Swyddog Polisi a Chyfathrebu UAC; Charles Bentley, Cyfarwyddwr Technegol, Amaethyddiaeth a Rheoli Tir, ADAS; Keith Owen, Cyfarwyddwr Kebek.

3yp - Sut gall prosiectau ynni adnewyddadwy ar ffermydd helpu i gyrraedd targedau’r dyfodol heb danseilio cynhyrchiant bwyd?

Mae ein dibyniaeth a’n hamlygiad o farchnadoedd tanwydd ffosil byd-eang wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae symiau enfawr o ynni adnewyddadwy yn cael eu cynhyrchu ar ffermdir Cymru ond dim ond cyfran fach iawn o’r hyn sy’n bosibl yr ydym wedi ei ddefnyddio.  Sut gallwn ni sicrhau bod rhwystrau’n cael eu dileu ac yn adfer cymhellion er mwyn hybu cyfraniad amaethyddiaeth at dargedau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol heb danseilio ein gallu i gynhyrchu bwyd?

Cadeirir y digwyddiad gan Dewi Owen, sef cadeirydd Pwyllgor Arallgyfeirio UAC.

Ymhlith y siaradwyr mae Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd; Ed Bailey, Cyfarwyddwr Baileys and Partners a Gareth Parry, Uwch Swyddog Polisi a Chyfathrebu UAC.

7yh - Gig Byw - Bwncath 

Mae tocynnau, sy’n £10 y person, ar gael i’w prynu ymlaen llaw neu ar y diwrnod ym mhafiliwn UAC. Agored i bawb. Nid yw tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys mynediad i faes y sioe.

Tocynnau ar gael yma:

https://tocyn.cymru/en/event/e0d2427e-b51d-433c-8803-3ddd620abace 

Mawrth 25 Gorffennaf

2.30yp - Lansio Ymgyrch ‘Nid yn fy Enw i’

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched - Cymru a Joyce Watson AS yn estyn gwahoddiad i chi ymuno â ni yn lansiad ymgyrch Nid yn fy Enw i 2023 yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Wedi’i sefydlu yn 2012, nod yr ymgyrch Nid yn fy Enw i yw codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a recriwtio llysgenhadon gwrywaidd i wneud addewid y Rhuban Gwyn i ‘beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod ’.

Mae nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod yn frawychus ac yn annerbyniol. Yn fyd-eang, bydd 1 o bob 3 menyw yn profi trais corfforol neu rywiol yn ystod eu hoes. Mae dod â thrais yn erbyn menywod i ben yn fater i bawb ac mae angen ymagwedd cymdeithas gyfan.

Yn y digwyddiad, bydd cyfle i chi ddysgu mwy am yr ymgyrch Nid yn fy Enw i, effaith cam-drin ac aflonyddu ar oroeswyr a chymunedau, a’r cyfraniad pwysig y gall rhanddeiliaid ei wneud wrth estyn allan i galon cymunedau gwledig i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad cas a niweidiol.

Cadeirir y digwyddiad gan Gill Rundle SyM Cymru a Joyce Watson AS.

Ymhlith y siaradwyr mae Ruth Dodsworth; Ann Williams rheolwr Llinell Gymorth Byw Heb Ofn; Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed Powys; Ian Rickman, Llywydd UAC a Rhianon Bragg. 

4yp - Iechyd Meddwl a Chymunedau Gwledig gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Sefydliad DPJ

Ymunwch â ni wrth i ni drafod y cynnydd sydd wedi’i wneud wrth fynd i’r afael â materion iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig ac o fewn y diwydiant amaethyddol. Mae’r cydweithrediad hwn rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru, UAC a Sefydliad DPJ hefyd yn anelu at bontio’r bwlch rhwng dynion ifanc sy’n ffermio a chlybiau pêl-droed ar draws Cymru.

Yn ymuno â siaradwyr o UAC a Sefydliad DPJ mae Noel Mooney (Prif Swyddog Gweithredol CPDC) a fydd yn siarad am glybiau pêl-droed fel canolbwynt o fewn cymunedau lleol, sut y gellir eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl, a’u gweledigaeth ar gyfer bod yn gymdeithas bêl-droed o les.

Mercher 26 Gorffennaf

11yb - Ymosodiadau cŵn ar dda byw: Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd?

Ymunwch â ni wrth i ni drafod y ffordd orau o atal ymosodiadau cŵn ar dda byw yn dilyn y tro pedol annisgwyl ar y Ddeddf Anifeiliaid a Gedwir. Yn benodol, byddwn yn edrych ar rôl tystiolaeth DNA i ganfod cŵn lle nad oes unrhyw dystion i'r drosedd.

Cadeirir y digwyddiad gan Is-lywydd Canolbarth Cymru UAC Anwen Hughes.

Ymhlith y siaradwyr mae David Allen, Heddlu Gogledd Cymru; Dr Nicholas Dawnay, Prifysgol John Moores Lerpwl ac AS Plaid Cymru Ceredigion Ben Lake. Bydd Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru yn rhoi anerchiad agoriadol.

2yp - Taliadau Amgylcheddol i ffermwyr -  Trysorfa neu faes dyrys?

Sut gallwn ni sicrhau cyllid preifat a chyhoeddus ar gyfer gwaith ‘cyfalaf naturiol’ ar gyfer ein ffermydd teuluol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru, a beth yw’r opsiynau?  Efallai eich bod wedi clywed am wahanol fathau o daliadau amgylcheddol - Cynllun Ffermio Cynaliadwy'r Llywodraeth, gwrthbwyso carbon neu fioamrywiaeth, masnachu maethynnau, neu grantiau untro gan elusennau, cynghorau neu brosiectau lleol.

Er gall y rhain gynnig cyfleoedd incwm ychwanegol gwerthfawr i ffermwyr a helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, mae bygythiadau hefyd i dir fferm a’r economi wledig yn sgil y diddordeb cynyddol gan gwmnïau preifat mewn marchnadoedd gwrthbwyso. Bydd ein siaradwyr yn helpu i amlinellu’r cyfleoedd a’r risgiau i ffermwyr yn y farchnad newydd hon.

Llywydd UAC Ian Rickman sy'n cadeirio'r digwyddiad.

Ymhlith y siaradwyr mae David Ashford, Llywodraeth Cymru; Philip Meade, Davis Meade Property Consultants; Jake Elster-Jones, Prosiect Pumlumon ac ymchwilydd; Geraint Davies Fedwarian, aelod bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru a ffermwr a Charles Cowap, Athro Gwadd mewn Rheolaeth Tir ym Mhrifysgol Harper Adams.

Iau 27 Gorffennaf

10.30yb - Podlediad Hiraeth

Gwahoddir aelodau i ymuno â recordiad byw o bodlediad Hiraeth fydd yn trafod Brexit a ffermio.