UAC Sir Drefaldwyn yn noddi cadair yr Eisteddfod

[caption id="attachment_5452" align="aligncenter" width="300"]Aelod UAC Wyn Owen a’i fab Carwyn. Aelod UAC Wyn Owen a’i fab Carwyn.[/caption]

[caption id="attachment_5453" align="aligncenter" width="300"](ch-dd) Wyn Owen; cyn swyddog gweithredol sirol, cangen sir Drefaldwyn o UAC Susan Jones; un o hoelion wyth UAC Gareth Vaughan; cadeirydd cangen sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams ac is lywydd UAC Richard Vaughan. (ch-dd) Wyn Owen; cyn swyddog gweithredol sirol, cangen sir Drefaldwyn o UAC Susan Jones; un o hoelion wyth UAC Gareth Vaughan; cadeirydd cangen sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams ac is lywydd UAC Richard Vaughan.[/caption]

Mae Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei noddi gan gangen sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cael ei throsglwyddo i drefnwyr yr Eisteddfod eleni (Awst 1-8).

Ugain oed yw Carwyn Owen o Rhiwfelen, Foel, Y Trallwng ac mae’r teulu wedi bod yn amaethu yno ers y 1960au.  Mae’n debyg mae ef yw’r person ieuengaf erioed i fod yn gyfrifol am greu cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Cefais gyfleoedd lu i ddatblygu fy nghrefft wrth fod yn aelod o’r Clwb Ffermwyr Ifanc, a sbardunwyd fy niddordeb yng ngwaith coed diolch i fy nhaid Bryn, sydd hefyd wedi creu nifer o gadeiriau ar gyfer yr Eisteddfod,” dywedodd Mr Owen.

“Cefais fy ysbrydoli gan harddwch naturiol y pren a mynyddoedd yr ardal, gan stemio a phlygu’r pren er mwyn fy ngalluogi i ail-greu siâp y mynyddoedd yn y Gadair.

Roedd fy nheidiau ar y ddwy ochr yn grefftwyr coed brwd, ac roeddwn yn ddigon ffodus i etifeddu gweithdy llawn gan un taid pan oeddwn i'n ifanc, a dysgodd fy nhaid arall fi am y grefft o greu pethau hardd allan o goed”, ychwanegodd Mr Owen.

Yn siarad ar ôl cyflwyno’r Gadair, dywedodd cadeirydd cangen sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams: “Mae Carwyn wedi gwneud gwaith gwych ac rydym yn falch fel undeb ein bod yn noddi’r Gadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

“Mae hanes maith tu ôl i’r berthynas agos rhwng UAC a’r Eisteddfod ac wrth gwrs cysylltiad teulu’r Owen o wneud Cadeiriau’r Eisteddfod.

“Mae’n rhaid i fi ddiolch i’n cyn swyddog gweithredol sirol Susan Jones am dynnu sylw’r Eisteddfod at deulu’r Owen gan fod Carwyn wedi cyflawni gwaith gwych.

“Mae gan Carwyn brofiad helaeth o greu cadeiriau ar gyfer eisteddfodau, yn gyntaf fel cystadleuydd ac yna cafodd y cyfle i greu Cadair Eisteddfod y CFfI a hefyd y Gadair ar gyfer Eisteddfod Powys, a hyn oll tra yr oedd dal yn yr ysgol.

“Mae’r undeb wastad wedi bod yn gefnogol o’r Eisteddfod a’r hyn y mae’n ei chynrychioli, ac eleni eto rydym yn falch o gefnogi’r iaith, diwylliant a bywyd Cymreig,” ychwanegodd Mr Williams.

 

Tîm newydd UAC wrth y llyw

[caption id="attachment_5375" align="aligncenter" width="1024"]Y tim newydd wrth y llyw (ch-dd) Brian Walters, Richard Vaughan, Brian Thomas, Eifion Huws, Glyn Roberts, Dewi Owen a Brian Bowen Y tim newydd wrth y llyw (ch-dd) Brian Walters, Richard Vaughan, Brian Thomas, Eifion Huws, Glyn Roberts, Dewi Owen a Brian Bowen[/caption]

Yn dilyn etholiad Mr Glyn Roberts fel llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod cyfarfod cyffredinol yr undeb ddydd Llun (Mehefin 15), cafodd gweddill aelodau’r pwyllgor cyllid a threfn eu datgelu heddiw.

Dirprwy Mr Roberts fydd y ffermwyr bîff a defaid o sir Benfro Brian Thomas sy’n gyn gadeirydd yr undeb yn Sir Benfro a chyn aelod o bwyllgor tenantiaid canolog UAC.

Cafodd Brian ei ethol fel aelod de Cymru o bwyllgor cyllid a threfn ganolog yn 2011 ac yn is lywydd UAC yn 2013.

Yn siarad wedi ei benodiad newydd, dywedodd Brian Thomas: “Rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi pleidleisio i mi fod yn ddirprwy lywydd nesaf yr undeb.  Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda’n cyn llywydd Emyr Jones ac edrychaf ymlaen nawr at weithio gyda’n llywydd newydd Glyn Roberts.”

Mae gan Mr Thomas fuches o wartheg eidion byrgorn pedigri a diadell o 300 o ddefaid yn ogystal â thyfu 80 erw o rawnfwydydd ar ei fferm 280 erw sef Llwyncelyn Lan, Llanfyrnach.

Ym 1996 pan wnaeth argyfwng BSE daro'r diwydiant, daeth Brian yn un o'r prif ymgyrchwyr yn Ne Orllewin Cymru a fu'n gwrthwynebu'r cam o fewnfudo cig eidion israddol i Gymru.  Ym 1997, arweiniodd gr?p o 10 ffermwr i stondin Tesco yn Sioe Frenhinol Cymru a'u hannerch am y ffordd annheg yr oeddent yn trin y diwydiant.

Mae TB yn fater y mae Brian yn teimlo'n angerddol amdano.  Pan ddioddefodd ei fuches y clefyd tua diwedd y 1990au, dywedodd mewn cyfweliadau y byddai'r clefyd yn fwy o broblem nag y byddai BSE erioed os na fyddai sylw yn cael ei roi iddo.  Yn anffodus, fe'i profwyd yn gywir i nifer, ac ar hyn o bryd, mae'n eistedd ar y gweithgor lleol ar gyfer Ardal Weithredu Ddwys y Cynlluniad ynghylch TB yng Ngogledd Sir Benfro, gan gynrychioli ffermwyr yn yr ardal.

Cafodd y ffermwr llaeth o Sir Gaerfyrddin ei ail-ethol fel un o’r tri is lywyddion ynghyd ac Eifion Huws, ffermwr llaeth o Sir Fôn a Richard Vaughan, ffermwr defaid o Dywyn, Meirionnydd.

Mae Brian Walters yn ffermio daliad 500 erw, gyda’i wraig Ann a’u ddau fab, Aled a Seimon ger Caerfyrddin. Mae ganddynt fuches laeth o 150 o wartheg - rhai ohonynt yn warthog pedigri swydd Ayrshire - ynghyd â 200 o wartheg ifanc a 80 o wartheg bîff.  Maent hefyd yn rhedeg uned wyliau ffermdy hunanarlwyo, gan ymfalchïo mewn addysgu ymwelwyr yngl?n â’r problemau a’r pleserau sydd ynghlwm wrth ffermio.

Mae gan Mr Vaughan diadell o 750 o famogiaid Mynydd Cymreig ac oddeutu 30 o wartheg stôr ar Fferm Pall Mall i’r gogledd o Dywyn, sy’n un o ddau daliad sy’n ymestyn i 550 erw.  Mae mwyafrif y tir ym Mhant y Panel a Prysglwyd, Rhydymain ger Dolgellau

Mae Pall Mall wedi llwyddo i arallgyfeirio dros y 40 mlynedd diwethaf.  Fe droswyd adeiladau allanol, adeiladwyd ‘chalets’ a sefydlwyd maes carafanau sydd erbyn hyn a thros 100 o unedau.  Mae hefyd wedi datblygu busnes llwyddiannus o brynu ac yna adnewyddu tai yn Aberystwyth i’w gosod fel fflatiau a ‘bed-sits’.  Mae Richard yn gweld hwn yn rhan pwysig o’r busnes ac yn dod â incwm ychwanegol gwerthfawr heb olygu gormod o amser oddi ar y fferm.

Mae wedi bod yn gefnogwr brwd a gweithgar iawn o Undeb Amaethwyr Cymru ers sawl blwyddyn.  Bu’n Gadeirydd Cangen Meirionnydd o’r undeb rhwng 2007 a 2009 ac yn Gadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol canolog yr undeb rhwng 2006 a 2011.  Bu Richard yn aelod gogledd Cymru ar y pwyllgor Cyllid a Threfn canolog ers 2010 cyn cael ei ethol yn is gadeirydd ym mis Mehefin 2011.

 

Mae Mr Huws wedi bod yn aelod gweithgar o’r pwyllgor cyllid a threfn ers pum mlynedd.  Mae’n ffermio ym Mhenrhos, Bodedern, fferm laeth sydd â buches o 140 o wartheg pedigri Swydd Ayrshire sydd â chofnod cynhyrchu ac arddangos neilltuol

Mae Mr Huws yn feirniad gwartheg Swydd Ayrshire hir sefydlog ac yn uchel iawn ei barch ac wedi teithio ledled y wlad ac yn Ewrop er mwyn cynrychioli’r diwydiant llaeth yn y gobaith o sicrhau gwell amodau a phrisiau i ffermwyr.

 

Ail-etholwyd Mr Brian Bowen fel aelod de Cymru ac mae Mr Dewi Owen yn ymuno a’r pwyllgor cyllid a threfn fel aelod gogledd Cymru.

 

Bu Mr Bowen yn is gadeirydd siroedd Brycheiniog a Maesyfed o 2008 a cafodd ei ethol fel cadeirydd y sir yn 2010. Mae wedi bod yn gynrychiolydd Brycheiniog a Maesyfed ar bwyllgor da byw, gwlân a marchnadoedd UAC ers 2009 ac yn is gadeirydd presennol y pwyllgor.

 

Mae Mr Bowen yn ffermio fferm Pencoedcae, Princetown, ger Tredegar lle mae’n cynnal uned gymysg o fuchod sugno a defaid mynydd.  Mae'r fferm yn 150 erw o dir ac yn  rhentu 1000 erw arall a 1200 erw o hawliau tir comin ar dri darn gwahanol o dir comin .  Mae’n rhedeg y fferm  gyda’i dad, ei fam a'r mab.

 

Brian yw Cadeirydd Cymdeithas Tir Comin Llangynider ac yn Gadeirydd y pwyllgor Glastir ar gyfer Cymdeithas Tir Comin Llangynider.  Mae’n aelod gweithredol o Gymdeithasau Tir Comin Buckland Manor a Thir Comin Gelligaer a Merthyr, yn ogystal â chyn Gyfarwyddwr ar fwrdd Cwmni Cydweithredol Ffermwyr  Gelli ac Aberhonddu.

 

“Rydw i'n hynod o falch bod Brycheiniog a Maesyfed wedi fy nghynnig fel cynrychiolydd i'w ethol i'r Pwyllgor Cyllid a Threfn Canolog, ac o'r farn bod fy nghenhedlaeth i yn gyfrifol am sicrhau bod amaethu teuluol yn parhau yng Nghymru a'i fod yn ddeniadol i'r genhedlaeth iau.

 

“Ar ôl bod yn aelod De Cymru ar y pwyllgor Cyllid a Threfn ers blwyddyn bellach, rwyf yn hyderus fy mod yn cyfrannu’n effeithiol i waith yr Undeb, ac rwy’n hapus iawn i barhau yn y rôl flaenllaw hon i wynebu’r sialensiau a’r newidiadau mawr sydd o’n blaenau,” ychwanegodd Mr Bowen.

 

Cafodd Mr Dewi Owen, Esgairgyfela, Aberdyfi ei eni a’i fagu ar y fferm deuluol, fferm fynydd sydd yn cadw defaid a gwartheg.

 

Mae wedi bod yn aelod gweithgar o UAC ers oddeutu deugain mlynedd, ac wedi bod yn Gadeirydd Sir Meirionnydd, a Llywydd Sirol yn y gorffennol.

 

Mae Mr Owen yn berchen ar siop cigydd ym mhentref Aberdyfi, a caiff ei redeg ar y cyd gyda’i fab yng nghyfraith sydd yn gigydd cymwysedig.

 

“Credaf fod UAC yn lais cryf dros ffermwyr Cymru a diolchaf i bawb sydd wedi pleidleisio i fi er mwyn ymuno gyda’r pwyllgor cyllid a threfn fel aelod gogledd Cymru.  Yn ystod fy nghyfnod gyda’r undeb rwyf wedi bod yn aelod o sawl pwyllgor ac edrychaf ymlaen at gynrychioli safbwyntiau ein haelodau,” dywedodd Mr Owen.

 

 

Glyn Roberts yw Llywydd newydd UAC

[caption id="attachment_5372" align="aligncenter" width="682"]Llywydd UAC Glyn Roberts Llywydd UAC Glyn Roberts[/caption]

Cafodd dirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts ei ethol yn llywydd yr undeb yn ystod cyfarfod y prif gyngor yn Aberystwyth ddoe (Llun, Mehefin 15).

Dywedodd Mr Roberts, o fferm Dylasau Uchaf, Padog ger Betws-y-Coed: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi pleidleisio i mi fod yn llywydd nesaf Undeb Amaethwyr Cymru.

"Mae gennym ni ddyled fawr i'r cyn llywydd Emyr Jones am ei arweinyddiaeth dros y pedair blynedd diwethaf ac wrth i ni ddathlu 60 mlynedd o ymladd dros ffermydd teuluol, ac edrychaf ymlaen at ddilyn ôl troed fy rhagflaenwyr."

“Fel llywydd yr undeb hon, rwyf am weld y cyfleoedd mewn anawsterau yn hytrach na gweld anawsterau mewn cyfleoedd ac am ehangu’r gymuned amaethyddol gynaliadwy ymhellach sy’n parhau i fod yn asgwrn cefn ein cymunedau a diwylliant gwledig.”

Ym 1976 gorffennodd gwrs llawn amser yng Nglyn Llifon, a gan nad oedd yn fab fferm, aeth i weithio fel bugail yn Nylasau Uchaf, Padog.

Ym 1977, bu Glyn yn llwyddiannus yn ei gais am denantiaeth fferm fynydd 100 erw, Ynys Wen, Ysbyty Ifan ac yn ystod y cyfnod hwn gweithiodd hefyd yn rhan amser yn Nylasau Uchaf.

Ym 1983, sicrhaodd Mr Roberts denantiaeth Dylasau Uchaf, fferm 350 erw o dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae’n parhau i ffermio gyda’i wraig, Eleri.  Mae gan y ddau bump o blant, tri ohonynt wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth, ac mae dau ohonynt yn fyfyrwyr yno ar hyn o bryd.

Bu Mr Roberts yn aelod gogledd Cymru o Bwyllgor Cyllid a Threfn UAC o 2003 I 2004; is lywydd UAC o 2004 i 2011, a cafodd ei ethol yn ddirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn 2011.

Bu’n gadeirydd sir Gaernarfon rhwng 1999 a 2002; cadeirydd cangen Llanrwst o 1990 i 1994; cadeirydd pwyllgor dwyieithrwydd a chyhoeddusrwydd o 2001 i 2004, ac yn gynrychiolydd Sir Gaernarfon ar Bwyllgor Tenantiaeth ganolog UAC a phwyllgor Parc Cenedlaethol Eryri rhwng 1998 a 2002 a hefyd yn aelod o Gyngor UAC rhwng 1994 a 2002.

Hefyd Glyn yw Trysorydd Cymdeithas Tenantiaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ystâd Ysbyty Ifan ers 1993 ac yn Ysgrifennydd Treialon Cwn Defaid Ysbyty Ifan ers 1998.

Mae Glyn wedi darlithio ar faterion amaethyddol ar sawl achlysur, a’i uchafbwynt personol oedd darlithio ar ddyfodol yr Ucheldir yng Nglynllifon ym 1997 gan rannu llwyfan gyda phennaeth adran amaeth, Prifysgol Cymru Aberystwyth, yr Athro Mike Haines a John Cameron o’r Alban.

Mae Mr Roberts hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o raglenni teledu a radio ar amaethyddiaeth.

Rhwng 2006 a 2008 Glyn oedd cynrychiolydd UAC ar fwrdd Hybu Cig Cymru ac yn 2008, cafodd ei benodi’n gyfarwyddwr anweithredol ar fwrdd Hybu Cig Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Bu Carwyn Jones AC yn ymweld â Dylasau Uchaf ac Ysbyty Ifan ym mis Ionawr 2001 a Mr Roberts oedd yn gyfrifol am baratoi dogfen gynhwysfawr yn edrych ar y cysylltiad anochel rhwng amaethyddiaeth a dyfodol cymunedau gwledig “Pwysigrwydd Amaethyddiaeth yng nghymunedau gwledig”.

Arweiniodd Mr Roberts gr?p cyntaf UAC o sir Gaernarfon i Frwsel i drafod dyfeisiau Adnabod Electronig ym mis Hydref 2000.

Enillodd Glyn gystadleuaeth Rheolaeth Fferm yr Eisteddfod Genedlaethol wrth greu cynllun tair blynedd ym mis Awst 1992 ar adeg pan oedd Coleg Glynllifon yn wynebu’r posibilrwydd o orfod cau.  Cafodd Glyn ei ddewis yn un o dri aelod o weithgor i edrych ar y posibiliadau o’i gadw ar agor.

 

Noson Lawen yn codi £4,000 i hosbisau plant

[caption id="attachment_5367" align="aligncenter" width="1024"]Presenting the cheque are (left to right) FUW Insurance Service Carmarthenshire area officer Gwion James, FUW president Glyn Roberts, FUW Insurance Services administrator Meinir Jones, FUW Insurance Services Ceredigion area officer Carys Davies and former FUW president Emyr Jones. Presenting the cheque are (left to right) FUW Insurance Service Carmarthenshire area officer Gwion James, FUW president Glyn Roberts, FUW Insurance Services administrator Meinir Jones, FUW Insurance Services Ceredigion area officer Carys Davies and former FUW president Emyr Jones.[/caption]

Codwyd £4,099 ar gyfer hosbisau plant, T? Hafan a T? Gobaith ar ôl cynnal Noson Lawen fawreddog i ddathlu pen-blwydd Undeb Amaethwyr Cymru yn 60 mlwydd oed.

Cynhaliwyd y noson yn Neuadd y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Llanbed ar Fai 23 ac roedd 350 o bobl yn bresennol.

“Cawsom noson lwyddiannus dros ben ac mae’n rhaid diolch i’r swyddog ardal Gwion James a’i gydweithwyr Carys Davies a Meinir Jones am drefnu noson mor arbennig” dywedodd cyn llywydd UAC Emyr Jones.

“Pleser oedd croesawu Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion i fod yn llywydd y noson ac wrth gwrs ewythr Elin, J B Evans oedd un o aelodau sylfaenol UAC drigain mlynedd yn ôl.

“Rhaid diolch hefyd i’n is lywydd Brian Walters am arwain y noson a chyflwyno’r llu o artistiaid lleol, a oedd yn cynnwys Ifan Gruffydd o Dregaron, Eirlys Myfanwy o Lanelli. Clive Edwards o Hendy-gwyn ar Daf; Fflur a Rhys Griffiths o Fethania, CFfI Llangadog a Côr Meibion y Mynydd o Bonterwyd gyda’i harweinydd Caryl Jones,” ychwanegodd Mr Jones.

Atyniad arall oedd lleisiau swynol Aled ac Eleri Edwards, Cil-y-Cwm.  Mae’r ddau’n gyn enillwyr gwobr y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae Aled hefyd yn hynod o adnabyddus ym myd bridio gwartheg Limousin ac yn Llywydd rhyngwladol presennol y brîd.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar o gefnogaeth ein prif noddwyr Dunbia, Llanybydder a hefyd cefnogaeth nifer o fusnesau gwledig lleol arall.

“Roedd hi’n bleser gweld cydweithredu rhwng ffermwyr, busnesau a’r cyhoedd wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn drigain oed.  Dathlon hefyd y cyfraniad enfawr mae’r diwydiant amaethyddol wedi ei wneud dros y blynyddoedd i fywyd cymunedol, i ddiwylliant a’r iaith Gymraeg yng nghefn gwlad,” ychwanegodd Mr Jones.

UAC Meirionnydd yn cynnal cyfarfod i ymgeiswyr yr Etholiad Cyffredinol

Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru yn gwahodd aelodau a ffrindiau'r undeb i drafodaeth fywiog gyda chynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol mewn cyfarfod arbennig i’w gynnal yn Nolgellau ar ddiwedd mis Chwefror.

Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r Ship, Dolgellau ar nos Wener Chwefror 27 am 7.30yh, a bydd holl ymgeiswyr etholaeth Meirion Dwyfor yn yr Etholiad Cyffredinol ar Fai 7 yn bresennol.

Mi fydd ymgeisydd Plaid Cymru Liz Saville Roberts, ymgeisydd y Ceidwadwyr Neil Fairlamb, ymgeisydd Llafur Mary Griffiths Clarke, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Steve Churchman, ymgeisydd UKIP Chris Gillibrand a’r ymgeisydd Annibynnol Louise Hughes yn bresennol yn y cyfarfod.

“Bydd y cyfarfod yn gwbl agored i unrhyw un o fewn yr etholaeth ac yn gyfle i ofyn cwestiynau i ymgeiswyr yr etholiad.  Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i’r digwyddiad yma.” dywedodd swyddog gweithredol sirol cangen Sir Feirionnydd o UAC, Huw Jones.

Am wybodaeth bellach gellir cysylltu gyda Huw Jones ar  This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu 07974 795 778.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cangen Sir Feirionnydd o UAC

Trafodwyd sefyllfa bresennol y diwydiant amaethyddol ac ystyriwyd y dyfodol gan aelodau Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y gangen a gynhaliwyd  yng Nghlwb Rygbi Dolgellau ar Ionawr 30. 

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Robert Wyn Evans, Llywydd cangen sir Feirionnydd o UAC a siaradwyr y noson oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy Ll?r Huws Gruffydd AC, Plaid Cymru; Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr Llywodraeth Cymru Andrew Slade, a Rheolwr fferm Hafod y Llan, Nant Gwynant a chyn Gyfarwyddwr Polisi UAC, Arwyn Owen. 

Ar ddechrau’r cyfarfod cafwyd adroddiad byr o weithgareddau’r gangen yn ystod 2014 gan Huw Jones, swyddog gweithredol sirol UAC a dywedodd:  “Unwaith eto, rydym wedi cael cynrychiolaeth gref o aelodau o bob rhan o’r sir. Roedd y cyfarfod yn gyfle delfrydol i ystyried dyfodol y diwydiant yn y tymor byr a chanolig. 

“Ymhlith y nifer o bynciau a drafodwyd oedd canlyniad yr Adolygiad Barnwrol ynghylch Rhostiroedd yng nghyd-destun Cynllun y Taliad Sylfaenol a’r gwaith modelu cyfredol sy’n cael ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer dulliau talu yn y dyfodol.  Trafodwyd y posibilrwydd o ymestyn y cyfnod trawsnewid, a hefyd y posibilrwydd o system haenau o daliadau.”

[caption id="attachment_4680" align="aligncenter" width="300"](from left) FUW Meirionnydd county branch president, Robert Wyn Evans, Welsh Government director of agriculture, food and marine, Andrew Slade, shadow minister for sustainable communities for Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd AM and Hafod y Llan, Nant Gwynant farm manager and former FUW director of policy Arwyn Owen. (from left) FUW Meirionnydd county branch president, Robert Wyn Evans, Welsh Government director of agriculture, food and marine, Andrew Slade, shadow minister for sustainable communities for Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd AM and Hafod y Llan, Nant Gwynant farm manager and former FUW director of policy Arwyn Owen.[/caption]