Annwyl Gydweithiwr,
Ym mis Mai 2011, mi fydd Aelodau’r Cynulliad a’r Llywodraeth newydd yn wynebu mynd i’r afael a llu o sialensiau, nifer ohonynt yn rai hollol newydd, ac oll o fewn cyllideb sydd wedi ei chwtogi’n sylweddol.
Tra bod angen rhoi cryn dipyn o sylw i leihau effaith yr argyfwng ariannol presennol, mae angen hefyd i fabwysiadu polisïau sy’n cyfeirio at y prif faterion a fydd yn effeithio ar les hir dymor poblogaeth Cymru.
Gan gofio bod amcangyfrifon yn darogan y bydd poblogaeth y byd yn cynyddu i naw biliwn erbyn 2050, tra bydd cynhyrchiant amaethyddol byd-eang wrth yr hectar yn gostwng wrth 3 a 16 y cant erbyn 2080, mae’n rhaid i’r polisïau hynny sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y sialensiau sydd ar fin digwydd y mae cynhesu byd-eang, y cynnydd yn lefelau’r môr a phenllanw cynhyrchiant olew yn cynrychioli yn nhermau diogelu
cyflenwadau bwyd.
Mae UAC yn credu bod sicrhau diwydiant amaethyddol egnïol a llwyddiannus yn ganolog i fynd i’r afael a’r materion yma, ac yng nghanol y ddelwedd yma mae yna hanfod allweddol sy’n cael ei hesgeuluso a’i thanbrisio, a hynny yw’r fferm deuluol.
O’i chymharu gyda rhanbarthau eraill, credaf yn wirioneddol bod Cymru wedi elwa o weinyddiaethau olynol sy’n cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth i’n economi, tirwedd a diwylliant.
Er hynny, os yw Cymru am dderbyn y sialensiau newydd yma, mae’n rhaid i’n gwleidyddion wrthsefyll y demtasiwn i gyflwyno polisïau anystyriol a fydd yn difetha’r fferm deuluol. Mi fydd gwleidyddion sy’n dewis anwybyddu hyn yn ei wneud ar draul ein henbydrwydd ni.
Mae’r datblygiadau o fewn y broses o ddatganoli yn golygu bydd gan rheini sy’n cael eu hethol i Lywodraeth Cynulliad Cymru reolaeth arwyddocaol dros amaethyddiaeth yng Nghymru yn ogystal â dyletswydd i lobïo'r rheini sydd ar lefelau uwch o Lywodraeth er mwyn sicrhau’r gorau i Gymru.
Mae pryderon a dyheadau UAC ynghylch y materion mwyaf arwyddocaol yn cael sylw yn y maniffesto yma. Nid yw UAC yn gysylltiedig ag unrhyw blaid benodol, ac felly mae ganddi ddyletswydd i
weithio gyda’r Llywodraeth sydd mewn grym a’r gwrthbleidiau, beth bynnag fo’i safbwyntiau gwleidyddol.
Am gyfnod Llywodraeth y Cynulliad nesaf a thu hwnt mae UAC yn ymroddedig i lobïo’r rheini sydd yng Nghaerdydd er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth a ffermydd teuluol yn derbyn y sylw a’r parch sy’n ddyledus iddynt, a hynny er mwyn dyfodol pob un ohonom.
Yn gywir
Gareth Vaughan MBE ARAgS
Llywydd