Ar un adeg, bu Gwern Williams yn gweithio am flynyddoedd lawer ledled Ewrop, De Affrica a’r Dwyrain Canol fel peiriannydd Massey Ferguson.
Erbyn hyn mae ef, ei wraig a'i ddau blentyn ifanc yn rhedeg fferm eu hunain sef Nantygwyrddail, Islawrdref, ger Dolgellau, ar denantiaeth 15 mlynedd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a hynny ers mis Hydref 2017.
Ond nid yw Gwern wedi gorffen gyda’r tractorau eto. Yn ogystal â rheoli fferm 350 erw ym Meirionnydd, gyda 250 o hynny yn dir mynydd, mae Gwern yn rhedeg ei fusnes ei hun yn trwsio tractorau a pheiriannau er mwyn sicrhau incwm ychwanegol.
“Dim ond tua 20 erw o'r fferm sy’n addas ar gyfer cynaeafu silwair,” meddai Gwern.