Sylw arbennig i faterion ffermio yn sioe sir Ynys Môn

Sylw arbennig i faterion ffermio yn sioe sir Ynys Môn

Cafodd Undeb Amaethwyr Cymru Ynys Môn sioe sir lwyddiannus lle cafodd materion ffermio sylw arbennig dros ddau ddiwrnod hynod brysur.

Cafwyd cyfarfodydd gyda gwleidyddion lleol, yn ogystal â’r Prif Weinidog Mark Drakeford a Gweinidog Amaethyddiaeth Cymru Lesley Griffiths.  Defnyddiwyd y cyfarfodydd hyn fel cyfle i ddwyn sylw at faterion sy’n creu heriau i ffermydd teuluol Cymru gan fygwth eu dyfodol fel ffermydd ffyniannus a chynaliadwy.

Wrth siarad ar ôl y sioe, dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Fôn Alaw Jones:

“Rydym wedi mwynhau sioe lwyddiannus a rhaid i mi ddiolch i bawb a ymunodd â ni dros y ddau ddiwrnod. Roedd yn gyfle gwych i ddangos pam fod ffermio’n bwysig ac ymhlith rhai o’r materion a drafodwyd gyda’n cynrychiolwyr etholedig oedd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

“Mae UAC yn llwyr ymwneud â llunio’r cynllun hanfodol hwn ac yn ystod ein cyfarfodydd yma yn sioe Môn fe wnaethom nodi fod fframwaith y cynllun wedi newid yn sylweddol gan adlewyrchu llawer o’r materion yr ydym fel Undeb wedi bod yn lobïo yn ei cylch ers ymgynghoriad Brexit a’n Tir yn ôl yn 2018.

“Fodd bynnag, yn ystod ein sgyrsiau yma yn y sioe, ‘rydym wedi bod yn glir iawn am ddiffyg cefnogaeth y cynigion presennol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy, cynllunio olyniaeth a diffyg unrhyw fath o gynllun ar gyfer newydd-ddyfodiaid.

“Cafodd aelodau UAC o fewn y Sir cyfle i godi eu pryderon am y broblem TB gynyddol ar yr ynys a hynny gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Milfeddygol newydd Cymru, Richard Irvine.”

Amlinellodd swyddogion yr undeb bryderon hefyd ynghylch toriadau a wnaed gan Y Trysorlys yn Llundain i gyllidebau amaethyddol Cymru a’r peryglon posibl os na chaiff y rhain eu hadfer i’r lefelau oedd yn bodoli cyn Brexit.

Mwynhaodd ymwelwyr â stondin yr Undeb arddangosiadau coginio gan y cogydd lleol Mel Thomas, gan ddefnyddio cig ffres lleol o Gigoedd Dolmeinir a llysiau o Hooton's Homegrown yn ogystal â chig oen o Damara Môn a llefrith o Lefrith Cybi.

Roedd y Tîm Troseddau Cefn Gwlad yn bresennol ar y ddau ddiwrnod - yn hyrwyddo'r ymgyrch 'Dangos y drws i drosedd' ac roeddent wrth law i drafod unrhyw faterion oedd gan aelodau. Roedd Pennant Finance hefyd yn bresennol am y ddau ddiwrnod ac yn barod i helpu aelodau gydag unrhyw gwestiynau oedd ganddynt.

Bu’r gantores leol Meryl Elin yn ein diddanu ar ddiwrnod cyntaf y sioe ac yna bu’r côr meibion ​​lleol ‘Hogia Bodwrog’ gyda ni’n cloi’r ail ddiwrnod.  Trefnodd swyddfa’r sir raffl, ac roedd yna ddigonedd o weithgareddau hwyliog i’r plant gyda phaned, cacen a sgwrs i’r oedolion.

Roedd UAC Ynys Môn hefyd yn falch iawn o gyflwyno rhosglymau UAC arbennig i bawb fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth ar gyfer tywyswyr ifanc.