UAC Meirionnydd yn edrych ymlaen at sioe’r sir

UAC Meirionnydd yn edrych ymlaen at sioe’r sir

Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn edrych ymlaen at ddiwrnod prysur yn Sioe'r Sir (Dydd Mercher, 23 Awst), a fydd yn cael ei chynnal yn Harlech.

Bydd swyddogion yr Undeb, gan gynnwys Llywydd UAC, Ian Rickman yn croesawu gwleidyddion i'r stondin am drafodaeth ar faterion amaethyddol sy’n effeithio ffermwyr yn y sir a ledled Cymru.

Bydd swyddogion a staff yr undeb, yn ogystal â Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan ein haelodau.

Bydd cangen Meirionnydd o RABI yn bresennol ar y stondin trwy gydol y dydd, yn ogystal â Thîm Troseddu Cefn Gwlad a fydd yn annerch y mater o ladradau fferm yn y sir, ac yn hybu 'Dangos y drws i drosedd' a'i waith. Bydd gwirfoddolwyr o elusen newydd ein llywydd sef Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn bresennol ar y stondin. 

Bydd y cogydd Mel Thomas yn ymuno gyda ni i gynnal arddangosiadau coginio gan ddefnyddio cynnyrch lleol gan Gig Oen Y Glastraeth a Chig Eryri. 

Bydd Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio Meirionnydd Eryl P Roberts hefyd yn bresennol rhwng 1yp a 2yp i gael sgwrs am unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Yn ymuno a ni hefyd mae Wil Ellis o gwmni DG Thomas a fydd yn rhoi sgwrs am ddiogelwch fferm, ac yn cloi'r diwrnod fydd adloniant gan David Bisseker, bachgen lleol o Harlech.

Dywedodd Heledd Williams, Swyddog Gweithredol Sirol UAC Meirionnydd: “Rwy’n edrych ymlaen at groesawu aelodau i’r stondin a gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni ar y diwrnod. Mae’n argoeli i fod yn sioe lwyddiannus, sy’n rhoi cyfle gwych i ni amlygu pam bod ffermio’n bwysig.”