Gwasanaethau UAC

Rydym yn cynnig rhestr helaeth o wasanaethau i’n haelodau. Dyma esiampl o’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd sy’n rhan o’r pecyn: 

  • Cwblhau ffurflen Taliad Sengl
  • Cyngor proffesiynol gan Swyddog Gweithredol lleol UAC drwy gydol y flwyddyn 
  • Cyngor a chymorth gydag ymholiadau, apeliadau a chosbau gan Lywodraeth Cymru- CTS, Glastir, Glastir Organig, Gwaith Cyfalaf ayyb
  • Papur newydd amaethyddol misol i’ch drws yn rhad ac am ddim gyda diweddariadau a’r newyddion amaethyddol Cymreig diweddaraf
  • Cofrestru eich symudiadau BCMS
  • Mynediad am ddim i bob cynhadledd genedlaethol a lleol UAC
  • RPW ar-lein- cofrestru a chymorth cyffredinol 
  • Cymorth ar faterion cynllunio, llwybrau tramwy, anghydfodau ynglyn â ffiniau a materion tenantiaeth
  • Cymorth gydag etifeddiaeth, profiant ac olyniaeth 
  • Cymorth gydag fforddfraint a hawddfraint
  • Materion yn ymwneud â chwmniau cyfleustodau 

Gall ein timoedd proffesiynol yn eich swyddfa leol agosaf a’r tîm polisi yn y Brif Swyddfa gynnig cymorth ar nifer o faterion arall. 

Cysylltwch heddiw i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymaelodi.. 

FUW Services

Tîm Polisi

Rydym yn cadw llygad cyson ar y datblygiadau diweddaraf yn y byd amaethyddol er mwyn cynghori a lobio adrannau a chyrff sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar amaethyddiaeth yng Nghymru
Ydych chi’n aelod sy’n chwilio am gyngor ac arweiniad ar fater polisi amaethyddol?  Cysylltwch gyda’ch swyddfa leol, cymryd rhan yn y pwyllgorau polisi, neu edrychwch ar y gwefan am mwy o wybodaeth.

Arweinyddiaeth

Mae ein haelodau ar draws y 12 cangen sirol yn ethol Tîm polisi llywyddol UAC 

Yn rhinwedd ei swydd fel swyddogion UAC, maent yn siarad ar ran ffermwyr Cymru ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn cynrychioli’r Undeb mewn cyfarfodydd gweinidogol, gweithdai rhanddeiliad a chyfarfodydd cangen leol.

Sut Rydym yn Gweithio

Yma yn UAC rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiad sydd gennym gyda'n ffermwyr. Mae gennym strwythur democrataidd a lleol, sy’n golygu bod aelodau’n dylanwadu ar bolisi UAC ac yn graidd i’r Undeb.