Ian Rickman

Fy enw i yw Ian Rickman. Rwyf yn 55 mlwydd oed, yn briod a Helen ac mae gennym dri mab. Rydym yn byw yn Gurnos, fferm ddefaid ucheldir ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Mae’r fferm yn ymestyn i 220 erw gyda hawliau pori comin ar y Mynydd Du, ac rwyf yn aelod o Bwyllgor Rheoli Cymdeithas Porwyr Gorllewin y Mynydd Du.

Rwyf wedi bod yn aelod gweithgar o’r Undeb am dros 20 mlynedd. Roeddwn yn Gadeirydd Sirol dros Sir Gaerfyrddin rhwng 2010-2012, ac rwyf yn Gadeirydd Pwyllgor Tir Uchel a Thir Ymylol yr Undeb, swydd yr wyf wedi ei chynnal dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn y cyswllt hwn, yn ystod y 12 mis diwethaf, rwyf wedi mynychu sawl cyfarfod, gan gynnwys ‘National Fallen Stock’, ‘Light Lamb Task Group’ Hybu Cig Cymru a IBERS ym Mhwllpeiran.

Ar ran yr Undeb, rwyf hefyd yn ddiweddar wedi mynychu cyfarfodydd PONT sef Pori, Natur a Threftadaeth (sefydliad sy’n annog pori er mwyn gwarchod cadwraeth natur) ac rwyf bellach yn gynrychiolydd ffermio ar y Bwrdd.

Tu allan i ffermio roeddwn yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Ffairfach. Rwyf hefyd yn mwynhau rygbi ac rwy’n un o ddilynwyr brwd y Scarlets.