Ymateb i'r Ymgynghoriad SFS - PWYNTIAU ALLWEDDOL

CYLLID

Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), sydd wedi’i ategu gan Ddeddf Amaeth gyntaf erioed Cymru, yn cynrychioli’r newid mwyaf i amaethyddiaeth yng Nghymru ers Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr Undeb Ewropeaidd (UE).  Nawr ein bod wedi gadael yr UE yn ffurfiol, rydym wedi colli’r sicrwydd a ddarparwyd gan gyfnodau cyllidebol saith mlynedd y PAC, a byddwn bellach yn dibynnu’n llwyr ar y cyllid a ddaw o du Llywodraeth y DU i gymryd lle PAC yr UE, ac o ganlyniad, y gyllideb a ddyrannir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer materion gwledig.

 

Rhwng 2019 a 2025, mi fydd amaethyddiaeth yng Nghymru wedi derbyn tua £250 miliwn yn llai o gyllid na’r hyn y gallem fod wedi’i ddisgwyl pe bai’r DU wedi aros yn yr UE.  Mae hyn o ganlyniad i gastiau cyfrifeg gan Drysorlys y DU.  O ganlyniad, mae’r gyllideb Materion Gwledig yng Nghymru wedi’i heffeithio, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu gwtogi ymhellach ar y cyllid sydd ar gael, er bod y cyllid materion gwledig yn cynrychioli 2% yn unig o gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru.

 

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn disodli pob math arall o gymorth ariannol y mae ffermwyr yn ei dderbyn ar hyn o bryd, a rhaid i’r gyllideb gyfan adlewyrchu hyn.  Dylai’r cyllid blynyddol a ddyrannir gan Drysorlys y DU i ddisodli cyllid PAC blaenorol yr UE fod yn gyfanswm o tua £450 miliwn erbyn hyn, o roi ystyriaeth i chwyddiant ers 2013, pan ddyrannwyd cyllideb PAC yr UE ar gyfer 2014-2020.   Rhaid i Lywodraeth Cymru fynnu gan San Steffan, a darparu i’r gymuned amaethyddol y cymorth ariannol a fyddai wedi bod ar gael i’r sector pe baem wedi aros yn yr UE. 

 

METHODOLEG TALU

Ers yr ymgynghoriad cyntaf yn 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi ein sicrhau y bydd taliadau dan yr SFS yn uwch na’r incwm a gollir a’r costau a wynebir, a byddant yn gwobrwyo ffermwyr yn briodol am ymgymryd â gweithredoedd amrywiol a darparu nwyddau amgylcheddol, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy.  Mae’r cynigion presennol yn awgrymu y bydd cyfraddau talu’n cael eu pennu gan ddefnyddio’r costau a wynebir a’r incwm a gollir, ynghyd â thaliad ‘gwerth cymdeithasol’ ychwanegol.

 

Rhaid i’r Taliad Sylfaenol Cyffredinol ddarparu sefydlogrwydd hirdymor i fusnesau ffermio a’r economi wledig ehangach sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth.  Rhaid iddo hefyd ddarparu ffynhonnell incwm ystyrlon ar gyfer busnesau fferm, sy’n gwobrwyo ffermwyr yn briodol am ymgymryd â Gweithredoedd Sylfaenol ac sy’n gwneud iawn am daliadau BPS.  Hefyd, rhaid i’r cyfraddau talu adlewyrchu’r gwaith amgylcheddol mae ffermwyr ledled Cymru wedi’i gyflawni am ddegawdau, a chydnabod y cyfraniadau cymdeithasol a diwylliannol dirifedi a wneir gan ffermio i gymunedau gwledig.

 

Mae’n hanfodol hefyd nad yw’r taliad ‘gwerth cymdeithasol’ yn arwain at loteri cod post, gyda rhai busnesau fferm yn derbyn taliadau uwch nag eraill am ymgymryd â’r un gweithredoedd mewn gwahanol rannau o Gymru.

 

CYNHYRCHU BWYD

Mae pa mor agored ydyn ni i ddigwyddiadau byd-eang sydd tu hwnt i’n rheolaeth wedi dod yn fwy amlwg nag erioed dros y tair blynedd diwethaf.  Mae pandemig Covid-19 a’r rhyfel yn Wcráin wedi dangos pa mor anwadal yw’r cadwyni cyflenwi yn fyd-eang, a pha mor ddibynnol yr ydym ar fewnforio nwyddau allweddol megis olew a nwy.

 

Gwelsom sut y gall digwyddiadau o’r fath achosi newidiadau seismig  o ran cyflenwadau bwyd, gwrtaith a thanwydd.  Gyda’r proffwydo y bydd poblogaeth y byd yn 9 biliwn erbyn 2050, rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddiogelu’r cyflenwad o fwyd safonol a gynhyrchir gan deuluoedd ffermio yng Nghymru.  Ni allwn, ac ni ddylem, leihau ein gallu i fod yn fwy hunangynhaliol yn nhermau cynhyrchu bwyd mewn byd mor ansicr.

 

 

HYGYRCHEDD

Mae cyflawni’r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a amlinellir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn dibynnu bron yn llwyr ar bob ffermwr gweithredol yng Nghymru’n ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.  Fel y cyfryw,  rhaid i’r cynllun fod yn un hygyrch sy’n darparu hawliau cyfartal i bob ffermwr gweithredol.  Mae angen hyblygrwydd sy’n rhoi ystyriaeth i’r holl sectorau a gwahanol fathau o ffermydd.

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod holl Weithredoedd Sylfaenol a Rheolau’r Cynllun yn rhai hygyrch y gall pawb eu cyflawni, ac nad ydynt yn rhwystro unrhyw rai rhag ymuno â’r cynllun.  Mae’r gofyniad am 10% o orchudd coed, er enghraifft, yn cynrychioli rhwystr mawr rhag ymuno â’r cynllun, a fydd yn arwain at ostyngiad sylweddol o ran cynnyrch ffermydd a gwerth tir.

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gydnabod yr holl amser ac ymdrech sy’n gysylltiedig â’r Gweithredoedd Sylfaenol a chydymffurfio â gofynion y cynllun.  Mi fydd hon yn ffactor bwysig wrth i ffermwyr ystyried a yw ymuno â’r SFS yn benderfyniad ariannol ymarferol i’w busnes.  Rhaid ystyried pa mor ymarferol a pherthnasol yw’r Gweithredoedd Sylfaenol arfaethedig.  Er enghraifft, mae’r disgwyliad bod pob busnes fferm yn y cynllun yn cwblhau o leiaf 6 modiwl DPP y flwyddyn, waeth beth yw maint y fferm na’i chynnyrch, i’w weld yn nodweddiadol o gynnig a ddyfeisiwyd mewn swyddfa gyfforddus, heb fawr ddim, neu yn wir unrhyw ystyriaeth i realiti ffermio o ddydd i ddydd.

 

MODELU

Mae asesiad modelu Llywodraeth Cymru ei hun o gyfraddau talu amrywiol yn awgrymu y bydd yna ostyngiad o hyd at £199 miliwn yn yr Incwm Busnes Fferm, a gostyngiad o £125 miliwn yng nghynnyrch ffermydd.  Mae’n awgrymu bod ‘pob fferm yn cynrychioli gostyngiad yng ngwerth net taliadau cymorth o’i gymharu â thaliadau BPS’.  Mae hefyd yn proffwydo y bydd yna 122,000 yn llai o unedau da byw yng Nghymru, ac 11% yn llai o ofynion llafur ar ffermydd.  Mae’r ffigurau hyn yn peri pryder mawr o ystyried eu bod yn seiliedig ar asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun o’r cynllun SFS arfaethedig.

 

Yn ddiweddar, cyhoeddodd UAC adroddiad o’r enw ‘Rôl Cymorth i Ffermwyr o fewn Cadwyni Cyflenwi Da Byw yng Nghymru’.  Mae’r adroddiad hwn yn modelu faint yn fwy proffidiol y byddai angen i fusnesau fferm yng Nghymru fod, fesul pen neu fesul hectar, neu i ba raddau y byddai angen iddyn nhw leihau eu gwariant ar draws meysydd mewnbwn allweddol i gynnal y lefelau elw presennol, petai cymorth i ffermwyr yn cael ei haneru neu’i ddiddymu’n gyfan gwbl.  Mae’r symiau a gyfrifwyd yn rhai arswydus sy’n destun pryder mawr.

 

Gyda’r senario lle mae’r cymorth uniongyrchol yn cael ei leihau 50%, byddai angen elw cynyddol fesul dafad o rhwng £18.09 (ffermydd gwartheg a defaid ucheldir) a £24.06 (ffermydd gwartheg a defaid iseldir), ynghyd ag elw cynyddol fesul buwch o rhwng £120.63 (ffermydd gwartheg a defaid ucheldir) a £160.39 (ffermydd gwartheg a defaid iseldir) i gynnal elw cyffredinol y fferm.

 

Byddai ffermydd gwartheg a defaid yr iseldir yn gorfod gwneud £88 yn fwy o elw  fesul hectar  i gynnal incwm y fferm gyda’r senario lle mae taliadau BPS yn cael eu torri 50%.  Mae hyn yn codi i £176 gyda’r senario lle mae’r taliadau BPS yn cael eu diddymu’n gyfan gwbl.

 

Mae’r canlyniadau hefyd yn tynnu sylw at yr arbedion sylweddol y byddai angen i ffermydd o bob math eu gwneud pe bai elw’r fferm yn cael ei gynnal drwy leihau’r gwariant yn gyfatebol ar draws mewnbynnau allweddol yn unig.  Er enghraifft, ar gyfer pob un o’r 8,937 o ffermydd a gynhwyswyd yn set data’r Arolwg Busnes Fferm, byddem yn gweld gostyngiad cyfan o £12.15 miliwn mewn gwariant milfeddygol a meddyginiaethol.  Fodd  bynnag, amcangyfrifir bod cyfanswm gwariant y categori hwn yn £34.61  miliwn ar gyfer holl ffermydd yr Arolwg Busnes Fferm, felly mi allai’r  gostyngiadau mwyaf posibl fod yn fwy o lawer pe na bai’r gostyngiadau o ran gwariant yn cael eu cymhwyso’n gyfatebol ar draws mewnbynnau allweddol.

 

Yn anad dim, mae’r canlyniadau hyn yn tanlinellu’r effeithiau ar yr economi wledig ehangach, a’r effeithiau posib ar fusnesau megis milfeddygfeydd, masnachwyr amaethyddol, garejys ac ati.  Mi fyddai ‘na ganlyniadau clir i effeithiau o’r fath o ran cyflogaeth yng nhefn gwlad, a byddai’r rheiny’n ymestyn i’r busnesau hynny sydd ddim yn cael eu hystyried fel rhai amaethyddol o angenrheidrwydd, ond sy’n dibynnu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar ffermydd ar gyfer cyfran o’u hincwm.

 

YSTYRIAETHAU ERAILL

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, dylech ystyried effeithiau un ai, i) ymuno â’r SFS ar ei ffurf bresennol, neu ii) beidio â derbyn unrhyw gymorth ariannol bellach o ran;

          eich busnes a’ch lefelau cynhyrchu

          eich gofynion llafur

          cyfraniadau i’r gymuned leol (cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol)

          faint o arian sy’n cael ei wario gyda faint o fusnesau gwledig

          unrhyw fenter busnes arall (incwm arallgyfeirio)

DOGFEN YMGYNGHORI

Cwblhewch y ffurflen gan gynnwys eich cyfeiriad llawn a'ch cod post. Bydd clicio ‘cyflwyno’ yn anfon eich ymateb yn syth at Lywodraeth Cymru.