Beth mae Aelodaeth UAC yn ei olygu i chi
Mae aelodaeth Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnwys aelod llawn, aelod cysylltiedig ac aelod ifanc.
Mae aelod llawn o'r Undeb yn gymwys i dderbyn pob llenyddiaeth a gwybodaeth sy'n cael ei gyhoeddi ac yn derbyn yr hawl hefyd i fynychu a phleidleisio yn unrhyw gyfarfodydd lleol, sirol a chyffredinol yr Undeb. Mae'r un hawl yn perthyn i aelod ifanc yr Undeb.
Mae aelod cysylltiedig yn gymwys i dderbyn pob llenyddiaeth a gwybodaeth sy'n cael ei gyhoeddi ac yn derbyn yr hawl hefyd i fynychu cyfarfodydd, ond nid oes hawl i bleidleisio mewn cyfarfodydd. Nid oes hawl gan aelod cysylltiedig i ddal unrhyw swydd swyddogol na chwaith yn medru bod yn rhan o unrhyw Bwyllgor yr Undeb oni bai eu bod nhw'n cael eu gwahodd ar sail ymgynghorol.
AELODAETH CYSYLLTIEDIG DOSBARTHIAD AELODAU
- Ffermwyr sydd wedi ymddeol
- Gweithwyr fferm llawn a rhan amser
- Meibion a merched sydd ddim yn gweithio'n llawn amser ar y fferm deuluol
- Unigolion neu cyfundrefnau sy'n ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gyda amaethyddiaeth
- Unrhyw berson sy'n rhenti mwy na 1 acer o dir, ond nid yw'n ffermwr llawn na rhan amser