Image

Categorïau Aelodaeth

Image

Aelodaeth amaethyddol llawn

Ar gyfer ffermwyr, perchnogion tir, tyddynwyr ac amaethwyr. Mae’r aelodaeth yma yn rhoi mynediad llawn i’r holl wasanaethau, gostyngiadau, canllawiau a chyngor sydd ar gael. Ymweld â’r dudalen aelodaeth i weld y dewis helaeth o wasanaethau.

Mae’r gyfradd aelodaeth yn dibynnu ar sawl erw yw’r fferm. Ffoniwch eich swyddfa leol heddiw i gael rhagor o wybodaeth!

Image

FUW Academi

Mae ein categori aelodaeth FUW Academi yn benodol ar gyfer pobl ifanc sy'n ymwneud â phob agwedd o ddiwydiant gwledig. Trwy ddod yn aelod Academi FUW byddwch yn cael gwybod am y newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd amaethyddol diweddaraf yng Nghymru. Dyma'r cam nesaf perffaith i aelodau sy'n gadael oedran cystadleuol y CFfl.

Fel aelod FUW Academi byddwch chi’n cael:

  • Hyfforddiant a phrawf trelar B + E am bris gostyngol
  • Papur newydd Y Tir yn y post bob mis
  • Eich gwahodd i amrywiaeth o ymweliadau fferm, profiadau a digwyddiadau.


Byddwn hefyd yn anfon Bwletin Amaethyddol rheolaidd atoch gyda'r cyfleoedd diweddaraf yn amaethyddiaeth megis grantiau, cynlluniau hyfforddi a phartneriaethau a byddwch hefyd yn gallu manteisio ar holl ostyngiadau aelodau FUW!